- Cysgu 7 o bobl
- 3 Ystafell wely
- 2 Ystafell ymolchi
- Derbyn 2 anifail anwes
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Gardd neu iard amgaeëdig
Special Offers: 15% off 3-7 nights on remaining dates in March 2019
Disgrifiad
Mae’r llety ar wahân hwn ger Dolgellau yn croesawu anifeiliaid anwes ac mewn lleoliad dyrchafedig er mwyn gwneud y gorau o’r golygfeydd gwefreiddiol o gadwyn mynyddoedd Cadair Idris. Dim ond dwy filltir o dref farchnad Dolgellau, gyda’i bwytai, caffis a llwybrau cerdded gwych megis Llwybr Mawddach. Cynigia Sgubor Elltyd leoliad canolog rhwng traethau tywodlyd Bermo a Fairbourne a llawer o brif atyniadau Eryri.
Llawr Gwaelod
Lolfa gyfforddus a chlyd gydag agoriad lle tân a stôf drydan, teledu a chwaraewr DVD.
Ystafell wydr eang gyda digonedd o lefydd eistedd ac ail set deledu. Lle gwych i ymlacio a mwynhau’r golygfeydd anhygoel.
Mad gan y llety hunan ddarpar hwn yn Nolgellau hefyd gegin/ystafell fyw ar wahân, wedi ei dodrefnu’n dda gyda pheiriant golchi llestri, rhewgell, oergell, microdon, popty trydan a pheiriant golchi dillad.
Llawr Cyntaf
Mae’r ystafell wely deuluol yn cynnwys gwely dwbl a gwely sengl gydag ystafell gawod en-suite. Golygfeydd gwych yn edrych dros Gadair Idris.
Ystafell wely ddwbl gyda chwpwrdd dillad mawr a’r un golygfeydd gwych â’r ystafell wely deuluol.
Mae’r drydedd ystafell wely yn ystafell wely twin gyda dau wely sengl clyd.
Mae’r brif ystafell ymolchi yn cynnwys bath gyda chawod drosto, toiled a basn ymolchi.
Gardd
Mae’r ardd fawr, breifat amgaeedig yn cynnwys lawnt ac ardal batio. Cyfleusterau barbeciw a golygfeydd gwych.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Darperir dillad gwlâu a thywelion bath a llaw.
- Gwres olew canolog a thrydan yn gynwysedig.
- Darperir un sychwr gwallt.
- Cot a chadair uchel ar gael ar gais.
- Mynediad i wifi yn nhy’r perchennog.
- Croesewir hyd at ddau anifail anwes.
- Dim ysmygu tu mewn i’r bwthyn os gwelwch yn dda.
- Digonedd o le parcio (i 3-4 car).
Nodweddion
- Cysgu 7 o bobl
- 3 Ystafell wely
- 2 Gwely dwbl
- 3 Gwely sengl
- 2 Ystafell ymolchi
- Derbyn 2 anifail anwes
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Saturday newid
- 0.4 o siop
- Parcio preifat
- Dillad gwely yn gynwysedig
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
- Dim ysmygu
- Tywelion yn gynwysedig
- Dim peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi
- Cot
- Cadair uchel
- Dim cot symudol ar gael
Prisiau
Map
Calendr
Pethau i’w gweld
Eitemau Ychwanegol
Holiday Extras
We've hand-picked a selection of Holiday Extras from trusted partners to make your holiday extra special. When you make your booking, you'll see all the Extras on offer at your chosen property and be able to add them to your holiday. Booking them in advance gives you more time to relax when you arrive, and remember - many of these offers are exclusive so you won’t find them anywhere else.

Rib Ride Boat Tours 10% off Anglesey Boat Tour
Book an unbeatable adventure with Wales’ best adventure boat tour company and get 10% off any trip.

Corris Mine Explorers 10% off Mine Exploration Tours
First excavated in 1836, Braich Goch Slate Mine closed around 40 years ago. Go underground and see first-hand the kind of conditions miners had to work in.

King Arthur's Labyrinth 10% off Underground Adventures
Take an exciting trip to the underground caverns and tunnels and learn about the myths and legends of King Arthur where your adventure begins by boat!

Virgin Wines 12 Bottle Classic Wine Selection
This classic case oozes class and is perfect to give you various flavours from across the globe! Enjoy 2 bottles of each wine to encourage sharing or indulgence...
- Normal price
- £115.87
- Price
- £95.50

Virgin Wines 12 Bottle Luxury Wine Selection
This 12 bottle case is packed full of wines to blow you away with flavours and complexities all round – a case guaranteed to impress all who get the pleas...
- Normal price
- £175.87
- Price
- £131.90

Cadw 20% I FFWRDD O AELODAETH CADW
Wrth fod yn aelod o Cadw, mi gewch fynediad diderfyn i dros 100 o safloedd hanesyddol ar draws Cymru.Ar ben hynny, mae aelodaeth Cadw yn cynnwys:50% i ffwrdd o ...

Virgin Wines 6 Bottle Celebratory Wine Selection
A true Prosecco lover's case! No excuse is needed for this beautiful selection (so don’t let others tell you any different!). Start with the wonderful flo...
- Normal price
- £74.93
- Price
- £61.75

Virgin Wines 6 Bottle Classic Wine Selection
This 6 bottle classic case is perfect for those wanting to try something of everything – carefully selected to incorporate crowd pleasers from across the ...
- Normal price
- £60.93
- Price
- £47.95

Europcar Car Hire
Europcar, our preferred car hire partner, are offering you great quality UK car hire at affordable prices. With our dedicated offer you will save up to 20%.

Dineindulge Dineindulge - private dining service
Enjoy private dining in the comfort of your holiday property. Dineindulge offer a personal chef service with restaurant quality cuisine from only £25 per perso...
Pages
Ardal leol
Mae’r llety ar wahân hwn ger Dolgellau wedi ei osod ar ei dir ei hun, gyda’i ddreif a’i ardd amgaeedig ei hun, mae’n cynnig lleoliad preifat i fwynhau’r golygfeydd godidog o’r mynyddoedd.
Wedi ei leoli uwchben pentref Llanelltyd, mae’r bwthyn ddwy filltir i ffwrdd o ganol tref Dolgellau – tref farchnad hyfryd yn ne Eryri. Dim ond hanner milltir o Fwyty Mawddach, un o’r bwytai y cenir ei glodydd yn yr ardal, sydd hefyd yn lleoliad hyfryd i fwynhau diod bach tawel ymlaciol. Hefyd, dim ond 8 milltir yw’r bwthyn o draeth tywodlyd Baner Las Bermo.
Ceir digonedd o siopau difyr, caffis gwych, tafarndai a gwestai yn nhref farchnad liwgar Dolgellau. Ceir hefyd fwy o adeiladau wedi eu rhestru yn nhref Dolgellau nac yn unrhyw dref arall yng Nghymru, dros 200. Am gacennau blasus a wifi am ddim, ymwelwch â Senedd-dy T.H.Roberts, neu bwytewch allan ym mwyty’r Meirionydd a Dylanwad Da. Am ddiod tawel, mae’r Unicorn yn le hyfryd. Ceir hefyd sawl bwyty y’i hargymhellir yn fawr tu allan i’r dref megis Bwyty Mawddach a George lll ym Mhenmaenpwl.
Ymysg prif atyniadau’r ardal mae Canolfan Beicio Mynydd enwog Coed y Brenin a Chwrs Rhaffau Go Ape (4 milltir). Hefyd o fewn ugain milltir, ym Mlaenau Ffestiniog, mae’r trampolîn tanddaearol mwyaf yn Ewrop (Bounce Below), a gwifren zip hiraf Ewrop ym Methesda. Am chwaraeon dwr, mae Bala yn gartref i lyn naturiol mwyaf Cymru a Chanolfan Genedlaethol Rafftio Dwr Gwyn.
Am ddiwrnodau rhywfaint mwy hamddenol, ceir llwybrau mynyddig ac arfordirol gwych yn yr ardal, gyda’r prif rhai wedi eu rhestru isod. Yn dechrau o Ddolgellau, Llwybr y Mawddach yw un o’r rhai mwyaf poblogaidd, gan redeg gyda’r afon am 9 milltir yr holl ffordd i’r arfordir ym Mermo, addas ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Mae traethau tywodlyd Bermo a Fairbourne yn berffaith ar gyfer ymlacio. Ceir dyddiau hamdden gwych ar Safle Treftadaeth y Byd Castell Harlech, rheilffordd gul Talyllyn, Labyrinth y Brenin Arthur a Chanolfan Grefftau Corris.
Traethau
Traeth Bermo – traeth hir a thywodlyd gyda gwobr Baner Las, 8 milltir.
Traeth Fairbourne – traeth tywodlyd, 9.5 milltir.
Cerdded
Llwybr newydd Cwnwch- Llanelltyd – addas ar gyfer pob oed, 0 milltir, ar drothwy drws ei bwthyn hunan ddarpar yn Nolgellau.
Llwybr Cwnwch – Dolgellau – addas ar gyfer pob oed, 2 filltir o’r bwthyn.
Llwybr y Mawddach – Dolgellau – addas ar gyfer pob oed – cerddwyr, beicwyr, a defnyddwyr cadeiriau olwyn, 2 filltir o‘r bwthyn.
Mynydd Cader Idris – tri phrif lwybr yn cychwyn o Ddolgellau (2 filltir), Minffordd(9 milltir) ac Abergynolwyn (18 milltir).
Llwybr Clywedog – Britheir – llwybr cerdded cymedrol hamddenol gyda’r afon, 6 milltir.
Llwybr Panorama – Bermo – addas ar gyfer pob oed, 8.5 milltir.
Beicio
Llwybr y Mawddach – fel uchod, 2 filltir.
Canolfan Beicio Mynydd Coed-y-Brenin – llwybrau addas ar gyfer pob oed, 4 milltir (taith fer ar eich beic ar hyd ffyrdd gwledig).
Pysgota
Darllenwch fwy am yr ystod o gyfleoedd pysgota yma : opsiynau gwahanol ar gyfer pob oed.
Marchogaeth
Canolfan Merlota Bwlchgwyn – addas i unrhyw un dros 4 oed, 9.5 milltir.
Chwaraeon Dwr
Llyn Bala – hwylio, caiacio, gwynt fyrddio, adeiladu rafft, 19 milltir.
Canolfan Genedlaethol Rafftio Dwr Gwyn, Canolfan Tryweryn – rafftio dwr gwyn, caiacio a chanwio, 23 milltir.
Adolygiadau