Troed yr Aran

Dinas Mawddwy, North Wales Snowdonia

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 22nd August 2024
  • Special Offer15% offer 28th June – 18th July
  • Special Offer10% offer w/c 19th July
  • Special Offer10% Summer offer w/c 30th August
  • Special Offer20% Summer offer w/c 23rd August

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £627 yr wythnos
  • £90 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Dringo
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Twb poeth
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Dim signal ffôn symudol

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau dwbl
  • 2 o welyau bync

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Popty Range/Aga
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Storfa tu allan
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 17:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mae’r bwthyn gwyliau hyfryd hwn yn cynnig encilfa foethus yn amgylchedd heddychlon Cwm Cywarch ger Dinas Mawddwy. Wedi ei leoli ar droed yr Aran Fawddwy, y mynydd uchaf yn ne Eryri, mae Troed yr Aran yn fan delfrydol i archwilio Gogledd a Chanolbarth Cymru. Tafarn bentref, caffi a chanolfan grefftau o fewn 2.5 milltir. Llwybrau cerdded gwych o drothwy’r drws, hawl i bysgota ar afon gyfagos, yn agos i ganolfan beicio mynydd byd-enwog ac amrediad helaeth o atyniadau poblogaidd eraill.

Llawr Gwaelod

Yn y gegin fawr groesawgar ceir Rayburn olew o fewn lle tân o friciau, golchwr llestri, popty, hob a gril, oergell, microdon a bwrdd bwyd. Mae’n cynnwys yr holl gyfarpar ac offer sydd ei angen arnoch, digonedd o gypyrddau a llestri Portmeirion.

Ystafell fwyta chwaethus gydag ail fwrdd bwyd a digonedd o le i’r holl westai i eistedd o’i amgylch.

Mae’r ystafell fyw yn gysurus a chlyd gyda stôf llosgi coed o fewn hen le tân cerrig a llechi. Ceir teledu Sky a chwaraewr DVD yma hefyd.

Ystafell iwtiliti gyda pheiriant golchi a sychu dillad, rhewgell, lle storio beiciau ac offer smwddio.

Llawr Cyntaf

Ystafell ddwbl helaeth wedi ei dodrefnu yn chwaethus a gyda golygfeydd arbennig o’r wlad.

Ail ystafell ddwbl sydd hefyd wedi ei dodrefnu’n chwaethus gyda golygfeydd dros y caeau amgylchynol.

Trydedd ystafell wely sydd yn hynod o glyd ac sy’n cynnwys gwely bync.

Ystafell ymolchi fawr gyda sinc, toiled, bath a chawod uwchben y bath.

Gardd

Gardd fawr hardd ac amgaeedig, twb poeth, ardal patio gyda dodrefn gardd a barbiciw, a mynediad i’r caeau o’ch amgylch. (Nodwch os gwlewch chi'n dda y gall gymryd tua 7 awr i newid a chynhesu dŵr y twb poeth ac efallai na fydd yn barod yn syth ar ôl i chi gyrraedd os oes gwesteion yn gadael y bore hwnnw.)

Gwybodaeth Ychwanegol

Darperir dillad gwely, tywelion a sychwr gwallt

Gwres canolog, trydan a thanwydd yn gynwysedig

Cot teithio a chadair uchel ar gais. Dewch a'ch dillad cot eich hunain os gwelwch chi'n dda.

Gemau / jig-sôs / dvds / llyfrau

Dim signal ffôn - delfrydol os ydych yn edrych am amser i ffwrdd o bobeth. Os y byddwch angen defnyddio ffôn, mae yna ffôn talu yn y bwthyn sy'n derbyn galwadau.

Darperir cyflenwad cychwynnol o bren ar gyfer y llosgwr coed ac mae posib prynu mwy o'r garej ym Mallwyd 5.5 milltir i ffwrdd.

Offer smwddio

Caniateir 2 gi am £30 yr un. Mae posib i drydydd ci gael ei gysidro os ydynt yn fach.

Digonedd o le parcio oddi ar y ffordd, yn cynnwys parcio dan do.

Lle storio beiciau.

Wifi yn gynwysedig.

Lleoliad

Mae’r bwthyn wedi ei leoli yn Nghwm Cywarch, cwm heddychlon ger Dinas Mawddwy yn Ne Eryri. 15 munud o drefi marchnad Dolgellau a Machynlleth, mae’n leoliad gwych i archwilio Eryri a Chanolbarth Cymru.

Wedi ei amgylchynu gan gaeau, nentydd, bywyd gwyllt ac anifeiliaid fferm, mae’r bwthyn 2.3 milltir o’r dafarn bentref agosaf (gyda bwyd da) yn Ninas Mawddwy a dim ond 4 milltir o’r garej a siop agosaf. Mae siop grefftau a chaffi Melin Meirion hefyd.

Mae nifer o atyniadau y gellir eu mwynhau yn ystod eich arhosiad yn Nhroed yr Aran. Mae Aran Fawddwy (2971 troedfedd) yn darparu her wych i gerddwyr ac mae nifer o lwybrau eraill y gellir rhoi cynnig arnynt hefyd. Mae canolfan feicio mynydd fyd-eang yng Nghoed y Brenin ger Dolgellau. Gellir pysgota eog a brithyll ar yr afon Ddyfi, ac mae marchogaeth ar gael yn lleol hefyd. 3 milltir i’r Gogledd o’r bwthyn, mae Bwlch y Groes (y pas uchaf yng Nghymru) sydd yn arwain at Llyn Tegid a Llyn Fyrnwy a’u chwaraeon dwr.

Mae atyniadau poblogaidd yn yr ardal yn cynnwys Canolfan Technoleg Amgen, Canolfan Grefftau Corris, Labrinth y Brenin Aruthus, a Galeri Gemwaith Mari Eluned. Neu gallwch fynd am drim mewn un o’r trenau stêm lleol neu ymweld ar traethau agosaf yn Fairbourne (20 milltir) neu Bermo (21 milltir).

Cerdded
Llwybr Dyffryn Dyfi – dilynwch Afon Dyfi o’r aber yn Aberdyfi at ei tharddiad wrth gopa’r Aran Fawddwy ac yna’n ôl i lawr ochr ddeheuol yr afon trwy Fachynlleth a lawr i’r Borth. Gellir cael mapiau a theithlyfrau o’r Ganolfan Croeso ym Machynlleth. Ymunwch â’r llwybr 0.1 milltir o’r bwthyn.

Llwybr Clywedog (Torrent Walk) – Brithdir – taith hamdden ganolig tua 2½ milltir ar hyd yr afon – 10.5 milltir (ger y bwthyn)

Llwybr Mawddach – Dolgellau – addas i bob oed – cerddwyr, seiclwyr a defnyddwyr cadair olwyn. 12 milltir

Llwybr Cynwch (Precipice Walk) – Dolgellau – addas i bob oed. 14 milltir o’r bwthyn

Llwybr Newydd Cynwch (New Precipice Walk) – Llanelltyd - addas i bob oed. 12 milltir o’r bwthyn.

Cadair Idris (mynydd) – 3 prif lwybr yn dechrau o Ddolgellau (12 milltir), Minffordd (12 milltir) ac Abergynolwyn (18 milltir).

Chwaraeon Dwr
Llyn Tegid, Y Bala - hwylio, canwio, caiacio, hwylfyrddio, adeiladu rafft ac ati. 17 milltir

Llyn Efyrnwy – Canwio, caiacio, hwylio a hwyl fyrddio – addas i’r teulu cyfan. 18 milltir

Canolfan Dwr Gwyn Genedlaethol Tryweryn - rafftio dwr gwyllt, caiacio a chanwio. 20 milltir

Beicio
Canolfan Feicio Mynydd Coed-y-Brenin – Llwybrau addas i bob oed. 19 milltir

Llwybr Mawddach – Fel uchod

Beicio Mynydd Dyfi- gellir llosgi beics yn siop The Holy Trail, Machynlleth.

Pysgota
Gall gwesteion gael mynediad i afon sy’n rhedeg ar dir y perchenog. 0.1 milltir o’r bwthyn.

Afon Dyfi – pysgota gwych ac afon enwog am ei brithyll brown, eogiaid a brithyll môr. Gall gwestai sy’n aros yn Ty Mawddwy fanteisio ar hawl y perchennog i bysgota ¾ milltir o’r afon, gyferbyn â’r bwthyn.

Ceir hefyd amrywiaeth o gyfleoedd pysgota yn ardal Dolgellau - lleoedd addas i bob oed.

Golff
Clwb Golff Machynlleth – cwrs golff 9 milltir. 16 milltir

Marchogaeth
Canolfan Farchogaeth Fferm Bwlchgwyn – addas i unrhyw un dros 4 mlwydd oed. 20 milltir