Cae Bach

Conwy, North Wales Snowdonia

  • 5 Star
  • Wedi ei leoli ar fferm weithiol yn nyffryn hardd yr afon Conwy, dyma leoliad gwych ar gyfer mwynhau Eryri ar ei orau.

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £346 yr wythnos
  • £49 y noson
  • 5 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • Tân agored neu stôf goed
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 7:00pm
  • Amser gadael: 9:00am

Disgrifiad

Wedi ei leoli ar fferm weithiol yn nyffryn hardd yr afon Conwy, dyma leoliad gwych ar gyfer mwynhau Eryri ar ei orau. Gellir dilyn llwybr beicio i Conwy (4.5 milltir) neu fwynhau nifer o atyniadau megis Surf Snowdonia (4 milltir), Llandudno, Betws y Coed, Zip World a Pharc Cenedlaethol Eryri. 

Os hoffech wahodd teulu a ffrindiau mae yma hefyd fwthyn 5 seren arall i 4 drws nesa gyda'i ardd breifat ei hun.  

Llawr Gwaelod

Lolfa - eisteddwch yn nôl ac ymlacio ar y soffa i 2 o flaen y stôf goed gan wneud y mwyaf o'r pecyn Netflix ar y teledu Smart. 

Cegin dderw ddeniadol gyda'r holl offer angenrheidiol yn cynnwys peiriant golchi llestri, popty trydan gyda hob serameg, a pheiriant golchi dillad. Oergell/rhewgell, meicrodon a bwrdd bwyta. 

Llawr Cyntaf 

Ystafell wely 1 - gwely dwbwl, dodrefn derw a theledu Smart ar y wal.  

Ystafell ymolchi - baddon a chawod oddi mewn, toiled, basn a rheilen sychu tywelion. 

Gardd

Gardd breifat gyda lawnt a phatio. Mwynhewch olygfeydd o'r mynyddoedd tra'n mwynhau pryd o fwyd y tu allan. Barbaciw ar gael ar gais.   

Gwybodaeth Ychwanegol

Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, llaeth, siwgwr a Bara Brith

· Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig

· Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig

· Coed ar gael ar gyfer y stôf

· Sychwr gwallt ar gael

· Wi-fi ar gael

· Peiriant sychu dillad ar gael mewn adeilad arwahan ar y safle – yn cael ei rannu gyda’r bwthyn drws nesaf a’r gwersyll

· Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu tu mewn y bwthyn

· Cot trafeilio, cadair uchel a gât i’r grisiau ar gael ar gais. Dewch â dillad eich hun i’r cot

· Mae’r eitemau canlynol yn cael eu darparu ar eich cyfer:

· Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri a thabledi i’r peiriant, clytiau, powdwr golchi dillad, ffoil a ffilm glynu

· Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur ar gyfer pob toiled

· Cynnyrch glanhau cyffredinol

· Parcio ar gyfer 2 gerbyd

· Yn ystod misoedd Mawrth i Hydref mae yna siop onestrwydd fach yn darparu llaeth, iogwrt, tiniau bwyd, brwshus dannedd ayb ym mloc adnoddau y gwersyll ac sydd ar agor 24 awr

Lleoliad