- £544 yr wythnos
- £78 y noson
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- Tân agored neu stôf goed
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Os gofynnwch i unrhyw un beth hoffent wneud yng Ngogledd Cymru, mae’n debygol iawn y bydd Zip World a Surf Snowdonia, ymweld â Chonwy a Llandudno, Betws y Coed a’r Wyddfa, ar ben y rhestr. Mae’r bwthyn hardd hwn yn leoliad delfrydol ar gyfer ymweld â’r atyniadau hyn, a llawer mwy. Wedi ei leoli ar fferm weithiol ym mhentref Rowen, gellir mwynhau llwybrau cerdded a beicio o stepen y drws, tafarn bentref o fewn 200 metr a rhinweddau 5 seren drwyddi draw yn y bwthyn. Mae hyn yn cynnwys cegin dderw, teledu Smart ym mhob ystafell, stôf losgi coed, a gardd breifat a chaeedig.
Mae bwthyn 5 seren arall i 2 drws nesaf gyda gardd breifat, yn ogystal â cae gwersylla bychan arwahan.
Llawr Gwaelod
Cegin dderw steilus ac eang gyda’r holl offer angenrheidiol yn cynnwys peiriannau golchi llestri a golchi dillad, popty trydan gyda hob serameg, meicrodon, oergell/rhewgell a theledu Smart.
Lolfa gyda dwy soffa, stôf goed, a theledu Smart gyda Netflix. Drysau yn arwain allan i’r patio a’r ardd breifat.
Cyntedd gyda lle i hongian cotiau a storio esgidiau.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 1 – ystafell hardd gyda gwely dwbwl a dodrefn derw, cypyrddau dillad a teledu Smart.
Ystafell wely 2 – gyda dau wely sengl, dodrefn derw a teledu Smart.
Ystafell ymolchi gyda baddon siâp ‘L’ a chawod oddi mewn, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.
Gardd
Gardd breifat a chaeedig gyda lawnt a phatio. Dodrefn gardd i fwynhau golygfeydd o’r mynyddoedd – barbaciw ar gael os dymunir.
Gwybodaeth Ychwanegol
· Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, llaeth, siwgwr a Bara Brith
· Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
· Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig
· Coed ar gael ar gyfer y stôf
· 2 sychwr gwallt ar gael
· Wi-fi ar gael
· Peiriant sychu dillad ar gael mewn adeilad arwahan ar y safle – yn cael ei rannu gyda’r bwthyn drws nesaf a’r gwersyll
· Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu tu mewn y bwthyn
· Cot trafeilio, cadair uchel a gât i’r grisiau ar gael ar gais. Dewch â dillad eich hun i’r cot
· Mae’r eitemau canlynol yn cael eu darparu ar eich cyfer:
· Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri a thabledi i’r peiriant, clytiau, powdwr golchi dillad, ffoil a ffilm glynu
· Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur ar gyfer pob toiled
· Cynnyrch glanhau cyffredinol
· Parcio ar gyfer 2 gerbyd
· Yn ystod misoedd Mawrth i Hydref mae yna siop onestrwydd fach yn darparu llaeth, iogwrt, tiniau bwyd, brwshus dannedd ayb ym mloc adnoddau y gwersyll ac sydd ar agor 24 awr