9 Chapel Street

Conwy, North Wales Coast

  • 4 Star
  • Awaiting Grading
  • Special Offer10% off Special Offer Discount on selected dates
  • Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 22nd August 2024
  • Special Offer10% october Half Term offer for stays between 18th until 31st October 2024
  • Special Offer10% Summer offer w/c 30th August
  • Special Offer20% Summer offer w/c 23rd August

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £594 yr wythnos
  • £85 y noson
  • 4 Star
  • Awaiting Grading

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king

Cegin

  • Peiriant golchi llestri

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Cawod

Teuluoedd

  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Parcio ar y stryd

Hygyrchedd

  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Bwthyn cyfoes yn cynnig gwyliau gwych oddi mewn i waliau hanesyddol Conwy - tref Treftadaeth y Byd ar arfordir Gogledd Cymru. Wedi ei leoli ar stryd dawel, mae'r bwthyn mewn lleoliad perffaith i wneud y mwyaf o bopeth sydd gan Conwy i'w gynnig. O'r castell mawreddog i'r ty lleiaf yn y wlad, traethau a thripiau ar gychod, a dewis eang o fwytai, bariau a siopau annibynnol. 

Mae'r bwthyn hefyd yn ganolog i nifer o atyniadau eraill yng Ngogledd Cymru, yn cynnwys Surf Snowdonia a Gerddi Bodnant, trefi Llandudno a Betws y Coed, Zip World a Pharc Cenedlaethol Eryri. 

Llawr Gwaelod 

Mae'r ardal fyw agored yn eich gwahodd i eistedd nôl ac ymlacio mewn steil. 

Lolfa - soffa a stôl gyfforddus yn berffaith ar gyfer nosweithiau clyd o flaen ffilm dda a'r stôf nwy.

Cegin/ardal fwyta - cegin fodern gyda wyneb gweithio gwenithfaen a bar brecwast. Yr holl offer angenrheidiol yn cynnwys popty trydan a hob nwy, meicrodon, oergell a rhewgell fach oddi mewn a pheiriant golchi llestri.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 1 - ystafell fawr gyda gwely maint king, cypyrddau dillad a theledu ar y wal.

Ystafell gawod en-suite gyda gwres dan y llawr, cawod fawr, 2 basn, toiled a rheilen sychu tywelion. 

Cwrt

Cwrt caeedig yn y cefn yn cael ei rannu, ond anaml ei ddefnyddio, gan drws nesaf. Lle delfrydol ar gyfer cwn. 

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, Prosseco a siocledau    
  • Gwres canolog nwy a thrydan yn gynwysedig    
  • Gwres dan y llawr yn yr ystafell gawod    
  • Dillad gwelyau, tywelion ac 1 sychwr gwallt ar gael     
  • Cot trafeilio, cadair uchel a gât i'r grisiau ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot     
  • Wifi ar gael
  • Croesewir hyd at 2 gi    
  • Dim ysmygu tu mewn   
  • Darperir y canlynol: Cegin - pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, clytiau, ffoil a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: sebon a 2 rolyn papur toiled    
  • Parcio ar y stryd os oes lle. Meysydd parcio gerllaw (bydd rhaid talu yma)    

Lleoliad