Bwthyn Nant Bach

Caernarfon, North Wales Snowdonia

  • 5 Star
  • This property can be found on Niche Retreats
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £730 yr wythnos
  • £104 y noson
  • 5 Star
  • This property can be found on Niche Retreats

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau king/super-king
  • 1 gwely dwbl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Ystafell wlyb
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Storfa tu allan
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn
  • Ystafell wlyb

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:30
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Lleoliad delfrydol yng nghalon Eryri. Gyda Porthmadog, Caernarfon, traethau euraidd Pen Llŷn, a throed y Wyddfa i gyd o fewn radiws o 10 milltir, mae'r bwthyn 5 seren hwn yn berffaith ar gyfer eich gwyliau yng Ngogledd Cymru. Wedi ei adnewyddu'r ddiweddar, golygfeydd pellgyrhaeddol o'r Parc Cenedlaethol, stôf losgi coed - mae'r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen ......

Llawr Gwaelod

Ardal fyw agored, modern a chyfforddus sy'n eich croesawu yn Bwthyn Nant Bach. Soffa a chadeiriau, teledu ar y wal a stôf losgi coed sy'n eich annog i ymlacio o'r eiliad yr ydych yn cyrraedd.

Cegin hardd gyda'r holl offer yn cynnwys popty dwbwl (yn cynnwys meicrodon/gril), hob induction, oergell/rhewgell, peiriant golchi llestri, yn ogystal â sinc Belfast a tap Quooker gyda dŵr berwedig.

Ystafell wely 1 - gwely super-king (gellir ei wneud yn ddau wely sengl os dymunir) gyda cwpwrdd dillad, cadair, a chypyrddau ger y gwely.

Ystafell wely 2 - gwely dwbwl gyda teledu ar y wal, cwpwrdd dillad, cadair a chypyrddau ger y gwely.

Ystafell gawod gyda cawod wlaw fawr, basn, toiled a rheilen sychu tywelion.

Ardal iwtiliti gyda peiriannau golchi a sychu dillad, storfa a phegiau cotiau.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 3 - grisiau hardd yn arwain i ystafell wely helaeth gyda gwely super-king a digon o le i storio. Mae'r en-suite yn cynnwys cawod wlaw fawr, baddon, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.

Gardd

Gardd breifat a chaeedig sy'n ddelfrydol i ymlacio a mwynhau golygfeydd pellgyrhaeddol o dirwedd Eryri. Bwrdd, cadeiriau a Barbaciw nwy ar gyfer bwyta yn yr awyr agored.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig   
  • Coed ar gael ar gyfer y stôf   
  • Dillad gwelyau (yn cynnwys gobenyddion hypoallergenic) a thywelion yn gynwysedig   
  • 3 sychwr gwallt ar gael
  • Wifi ar gael
  • Cot a chadair uchel ar gael os dymunir. Dewch â'ch dillad eich hun i'r cot    
  • Mae 2 step yn arwain o'r ardal fyw i'r ystafelloedd gwely, ystafell ymolchi ac iwtiliti ar y llawr gwaelod  
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu y tu mewn i'r bwthyn   
  • Digon o le parcio oddi mewn i dir y bwthyn 
  • Fe ddarperir hylif golchi llestri a thabledi i'r peiriant golchi llestri, yn ogystal â 2 rolyn o bapur toiled ym mhob ystafell ymolchi   
  • *Noder pan yn archebu sut yr hoffech y gwely yn Ystafell wely 1
  • **Noder hefid bod y llety yma ond yn derbyn uchafswm o 6 bobl (gan gynnwys babanod)

Lleoliad

Wedi ei leoli ar fferm yng nghalon y Parc Cenedlaethol, dyma wyliau hunan ddarpar yn Eryri ar ei orau. Mae eich bwthyn yn mwynhau lleoliad heddychlon ar gyrion pentref bychan Pant Glas, ac yn ganolog i brif atyniadau Gogledd Cymru, yn cynnwys Porthmadog (9 milltir), Caernarfon (10 milltir), Pwllheli (11.5 milltir), yn ogystal â'r Wyddfa, mynydd uchaf Cymru. Wedi ei amgylchynu gan olygfeydd godidog, mae Pant Glas hefyd yn enwog am gynhyrchu un o brif gantorion opera Cymru a'r byd, Bryn Terfel.

Mae'r dafarn/bwyty agosaf (Tafarn yr Afr/Goat Inn - gyda cinio dydd Sul blasus) ond 2 filltir i ffwrdd ym mhentref Bryncir, ac fe leolir tŷ curry hefyd o fewn 2 filltir. Fe argymhellir y bwytai canlynol - Dylan's yng Nghriccieth (7 milltir), Yr Hen Fecws ym Mhorthmadog, a Blas yng Nghaernarfon. Mae'r siop groser agosaf ym Mhenygroes (4 milltir), hefyd yn gartref i Winllan Pant Du ble gellir galw i flasu gwîn.

Gyda llwybrau cerdded a beicio gwych o stepen y drws, a Chastell Criccieth, Castell Caernarfon, traethau euraidd a rheilffyrdd lein fach i gyd o fewn 10 milltir, dyma leoliad delfrydol ar gyfer eich gwyliau yng Ngogledd Cymru. Atyniad mawr arall yn yr ardal yw Zip Wire, ac eto, mae eich bwthyn yn ganolog i'r un ym Methesda ac ym Mlaenau Ffestiniog (y ddau yn 21.5 milltir). Mae Bethesda yn cynnig y reid zip hiraf a'r cyflymaf yn Ewrop, tra fod Blaenau Ffestiniog hefyd yn cynnig Bounce Below, yr unig un o'i fath yng nghrombil y ddaear, ac hefyd y Ceudyllau Llechi. 

Un o'r atyniadau agosaf i'r bwthyn yw Melin Wlân Bryncir (2 filltir), tra fod Parc Glasfryn (7 milltir) gyda'i wîb gartio, beiciau cwod, bowlio deg ayb yn le delfrydol ar gyfer pob tywydd. Mwynhewch antur i'r holl deulu ym Mharc Fforest Gelli Gyffwrdd (16 milltir), a'r Mynydd Trydan yn Llanberis (19 milltir), ble mae hefyd yn bosib dal trên i gopa'r Wyddfa. Ar gyfer traethau hardd, cildraethau cuddiedig, a phentrefi glan môr trawiadol, beth am ymweld â Phenryn Llŷn, ac Ynys Enlli. Mae'n werth ymweld â phentref Eidalaidd Portmeirion (12 milltir), tra fod Porthmadog yn cynnig dwy reilffordd lein fach ble gellir teithio drwy'r Parc Cenedlaethol i un ai Blaenau Ffestiniog neu i Gaernarfon.

Traethau

Traeth Criccieth - dau draeth poblogaidd bob ochr i'r Castell. Tywod a graean yn gymysg (7 milltir) 

Traeth Morfa Bychan (Black Rock) - un o'r traethau prydferthaf ym Mhrydain ble gellir talu i yrru eich car ymlaen i'r traeth (11 milltir)  

Nifer o draethau hardd eraill ar Benrhyn Llŷn ac ardal Caernarfon  

Beicio

Lôn Eifion - hen drac rheilffordd o Bryncir i Gaernarfon. Gellir ymuno â'r trac 0.5 milltir o Bant Glas

Cerdded

Lôn Eifion (fel uchod)

Lôn Goed - rhodfa o goed 6 milltir o hyd sydd yn nefoedd i gerddwyr (5 milltir o'r bwthyn)  

Llwybr Arfordirol Llŷn (rhan o Lwybr Arfordirol Cymru) – nifer o rannau heb fod ymhell gyda'r pwynt ymuno agosaf yng Nghriccieth (7 milltir)  

Nifer o lwybrau cerdded mynydd i ddewis ohonynt yn Eryri. Yr Wyddfa yw'r uchaf, gyda'r llwybr agosaf yn cychwyn o Rhyd-ddu (11 milltir), neu gellir dal tren o Lanberis i'r caffi ar y copa (19 milltir)  

Pysgota

Pysgodfeydd Eisteddfa - nifer o lynnoedd hardd gyda tacl, cyngor a lluniaeth ar gael (7 milltir)   

Neu beth am drip pysgota o amgylch Ynysoedd Sant Tudwal, dwy ynys fechan oddi ar Abersoch (19 milltir). Neu, gellir eistedd yn nol a gwylio'r dolffiniaid neu forloi yn eu cynefin naturiol   

Golff

Nifer o opsiynau yn cynnwys Caernarfon, Porthmadog a Phwllheli   

Marchogaeth

Canolfan Weithgareddau a Marchogaeth Porthmadog – mwynhewch filltiroedd o drecio mewn golygfeydd anhygoel. Addas ar gyfer plant o 4 oed hyd at oedolion (10 milltir)   
 
Chwaraeon Dŵr

Clwb Hwylio Pwllheli, Marina Pwllheli – adnoddau gwych ac o bosib y dyfroedd hwylio gorau yn y DU (11 milltir)   

Mae traeth Abersoch yn cynnig dŵr llonnydd ar gyfer pob math o chwaraeon dŵr (19 milltir)