Cwrt y Llyn

Caernarfon, North Wales Snowdonia

  • 5 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £573 yr wythnos
  • £82 y noson
  • 5 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Balconi
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Bwthyn trawiadol yng ngwir ystyr y gair. Cegin a bwrdd wedi eu gwneud â llaw, stôf goed, mewn lleoliad anhygoel rhwng mynyddoedd Eryri ac arfordir Gogledd Cymru. Golygfeydd o'r môr o'r ardd ac ar ddiwrnod clir gellir gweld y trên yn mynd i fyny'r Wyddfa. Yn ganolog i nifer o draethau euraidd a chestyll yn ogystal â rhai o'r atyniadau gorau yng Nghymru, yn cynnwys Parc Gelli Gyffwrdd, Zipworld a Portmeirion. Yn agos i Lanllyfni, mae hefyd yn ganolog i dref boblogaidd Caernarfon (8 milltir), Criccieth (10 milltir), Porthmadog (12.5 milltir) a Pwllheli (16 milltir). Dyma'r lle i fwynhau Gogledd Cymru mewn steil.

Wedi ei leoli ar fferm weithiol, arferai'r bwthyn 5 seren hwn fod yn hen ysgubor ble arferai 5 cenhedlaeth o'r un teulu ordro'r buchod. Fel rhan o'r Croeso Cynnes Cymreig y gellir ei ddisgwyl yma, mae'r teulu hefyd yn rhedeg busnes gwneud bara llwyddiannus ar y fferm, yn cyflenwi cacennau megis Bara Brith a danteithion eraill i dros 100 o siopau ar draws Gogledd Orllewin Cymru. Fe gewch sampl o'r rhein yn eich pecyn croeso, gyda'r opsiwn o brynu mwy yn syth o'r popty!

Llawr Gwaelod

Cegin ac ardal fyw agored. 

Cegin wedi eu gwneud â llaw gyda silffoedd agored ac offer yn cynnwys peiriant golchi llestri, popty a hob trydan, sinc Belfast ac oergell/rhewgell. Bwrdd bwyta gyda golygfeydd o Eryri.

Mae'r ardal fyw gyda 2 soffa ledr, teledu Smart a stôf goed. Drysau Ffrengig yn arwain allan i'r dec a gardd gaeedig gyda golygfeydd.

Ystafell ymolchi fawr a moethus gyda baddon dwfn, cawod arwahan a basn dwbwl.

Ystafell iwtiliti yn cynnwys peiriant golchi dillad, meicrodon a sinc.

Cyntedd helaeth gyda grisiau derw.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 1 - gyda gwely maint king ac ensuite yn cynnwys cawod a thoiled.

Ystafell wely 2 - dau wely sengl gyda blancedi Cymreig ar y gwely.

Gardd

Gardd gaeedig yn arwain o'r ystafell fyw. Dec yn ymestyn allan i'r lawnt gyda bwrdd picnic, barbaciw a lle i eistedd. Lleoliiad perffaith i ymlacio a mwynhau'r golygfeydd tuag at y Wyddfa. 

O'r iard gellir gweld i lawr i Dinas Dinlle ar yr arfordir ac ar ddiwrnod braf gellir gweld Caergybi a drosodd i Iwerddon. Edrychwch allan am y llongau yn croesi rhwng Caergybi ac Iwerddon!

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi (Poblado), siwgwr a llaeth. Cynnyrch lleol
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
  • Basgedaid gyntaf o goed ar gyfer y stôf. Gellir prynu mwy am £5 y fasged
  • 2 sychwr gwallt ar gael
  • Cot trafeilio a chadair uchel ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot
  • Croesewir dau gi am gôst o £30 yr un - dewch â gwely eich hun i'r ci. Ni chaniateir i gwn fynd i'r llawr cyntaf, ar y soffas na'r gwelyau
  • Wifi ar gael
  • Dim ysmygu  tu mewn y bwthyn
  • Mae'r canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri, clytiau, ffoil a ffilm glynu; Ystafell ymolchi: sebon a 2 rolyn papur i bob toiled; Cynnyrch glanhau cyffredinol
  • Digon o le parcio

Lleoliad