- Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
- Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May
- Special Offer10% October Half Term offer for stays between 18th until 31st October 2024
- £483 yr wythnos
- £69 y noson
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Ar un lefel, dim grisiau
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Os ydych yn chwilio am leoliad gwledig a heddychlon, gyda phopeth sydd ei angen arnoch ychydig funudau o drothwy'r drws, dyma’r lle i chi. Mae’r bwthyn hunan-ddarpar ysblennydd hwn yng Ngogledd Cymru wedi cadw llawer o’i nodweddion gwreiddiol, gan gynnwys ffenestri o’r llawr hyd at y to a phatio er mwyn gwneud y mwyaf o’r amgylchiadau hardd. Mae Parc Coedwig y Gelli Gyffwrdd lai na milltir i ffwrdd o’r bwthyn, tra bod y ganolfan chwarae Hwylfan, y Ganolfan Chwaraeon Dwr Genedlaethol, Yr Wyddfa (mynydd uchaf Cymru), a gwifren zip hiraf Ewrop a llawer mwy i gyd o fewn 7 milltir.
Llawr Gwaelod
Mae’r ardal gegin / byw / bwyta sydd ar gynllun agored yn cynnwys y trawstiau gwreiddiol, ffenestri crwm o’r llawr i’r to a drws patio sy’n arwain at y patio a’r ardd. Mae’r atmosffer ysgafn yma yn cael ei fwyhau gan do uchel a ffenestri to tra bod waliau carreg a bric yn gorffen yr edrychiad.
Mae’r gegin fodern yn cynnig amrywiaeth o declynnau, gan gynnwys popty a hob trydanol, peiriant golchi llestri, oergell gyda bocs rhew a microdon.
Yn yr ardal fyw mae yna deledu/chwaraewr DVD 32” wedi ei godi ar y wal a dodrefn lledr. Bwrdd bwyd gyda chadeiriau hynafol a golygfeydd prydferth o’r ardd a’r caeau tu hwnt.
Ystafell Wely 1 - Ystafell ddwbl ysgafn gyda chwpwrdd dillad, cist ddroriau a byrddau wrth y gwely. Ffenestr fawr, wreiddiol gyda golygfeydd gwych o’r ardal.
Ystafell Wely 2 – Ystafell twin gyda wal gerrig, trawstiau a ffenestr fawr sy’n dangos yr un olygfa hardd ag ystafell 1.
Yn yr Ystafell Ymolchi mae bath gyda chawod drosto, rheilen cynhesu tywelion a phlwg eillio. Mae yno hefyd drawstiau, ffenestri to a goleuo sbot.
Gardd
Mae gan y bwthyn ardal batio fawr gyda dodrefn patio modern, mannau tân a waliau cerrig traddodiadol. Yn debyg i’r ardal fyw cynllun agored, mae’r golygfeydd sydd i’w cael o’r patio yn syfrdanol ac mae’n fan hyfryd er mwyn gwylio adar a bywyd gwyllt.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae Beudy Menai yn un o ddau fwthyn pâr a all hefyd gael eu cysylltu i wneud un bwthyn mawr i hyd at 8 o westai. Enw’r bwthyn drws nesaf yw Ty Menai sydd hefyd â lle i 4 mewn dwy ystafell wely.
Darperir dillad gwely, tywelion bath a llaw a sychwr gwallt.
Gwres a thrydan yn gynwysedig.
Wi-Fi ar gael - band llydan fibre BT.
Darperir cot a chadair uchel ar gais.
Digonedd o le parcio tu allan i’r bwthyn.
Peiriant golchi llestri a lle i rewi bwyd ar gael yn nhy’r perchennog sydd ar y safle ar gais
Lleoliad
Gallwch fynd am dro ar lwybr gwledig (1.6 milltir o’r bwthyn) i gyrraedd y dafarn leol yn Llanddeiniolen lle cewch hefyd hyd i siop bentref Bethel, dwy filltir i ffwrdd. O deithio tair milltir gallwch ymlacio ar lan y dwr yn Y Felinheli tra bod tref gastell Caernarfon a dinas Bangor dim ond pum milltir i ffwrdd. Mae Tesco Extra bedair milltir i ffwrdd. Ymhlith rhai o’r llefydd gorau i fwyta’n lleol mae Garddfon (Y Felinheli - 2 filltir), Gors Bach (Llanddeiniolen - 1.6 milltir) a Ty’n Rhos (Seion - 2 filltir / 1 milltir ar lwybr troed cyhoeddus).
Mae gan wyliau yn y bwthyn hunan-ddarpar hwn rhywbeth i bawb. Mae Parc y Gelli Gyffwrdd (parc thema wedi’i ysbrydoli gan natur) sydd lai na milltir i ffwrdd, Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Dwr ym Mhlas Menai dair milltir i ffwrdd, sawl llwybr cerdded a beicio (rhestrir isod) a Rheilffordd Mynydd Yr Wyddfa sy’n mynd a chi i gopa'r mynydd uchaf (a chaffi uchaf) yng Nghymru. Mae Canolfan Hwylfan (canolfan hwyl dan do fwyaf Gogledd Cymru - 5.4 milltir) yn ddelfrydol ar gyfer plant a dros y bont yn Ynys Môn cewch hyd yn oed fwy o atyniadau gan gynnwys Pili Palas, Sw Môr Môn a thref gastell hyfryd Biwmares.
Dyddiau hamdden eraill poblogaidd yw ymweliadau â Rheilffordd Eryri, Mynydd Gwefru Llanberis, rownd o golff ar lan Afon Menai, pentref Eidalaidd Portmeirion a Gerddi Bodnant, ac i’r rhai dewr yn eich mysg beth am roi cynnig ar y reid gwifren zip hiraf yn Ewrop ym Methesda?
Cerdded
Mae’r llwybr i’ch bwthyn hunan-ddarpar yng Ngogledd Cymru yn cynnig taith gerdded hyfryd ac mae’n arwain at y dafarn wledig yn Llanddeiniolen ac at amrywiaeth gogoneddus o lonydd gwledig, 0 milltir.
Llwybr Arfordir Cymru - Mae’r man ymuno agosaf yn Y Felinheli a gallwch fynd tua’r Gogledd Ddwyrain tuag Ynys Môn a Bangor neu tua’r Gogledd Orllewin tua Chaernarfon a Phenrhyn Llyn. Dwy filltir o’r bwthyn.
Yr Wyddfa - mynydd uchaf Cymru - llwybr Llanberis (4.7 milltir - 3 awr) yw’r agosaf. Saith milltir o’r bwthyn.
Carneddau (llwybrau mynyddig Eryri) - teithiau cerdded heriol, gan gynnwys yr ail a’r trydydd copa uchaf yng Nghymru. Llwybr agosaf yn dechrau yn Gerlan, uwchben Bethesda, 8 milltir.
Beicio
Mae’r llwybr i’r bwthyn hefyd yn wych ar gyfer beicio ac ar ddiwedd y llwybr gallwch barhau ar hyd lonydd gwledig tawel i bob cyfeiriad, 0 milltir.
Lôn Las Cymru - Mae’r llwybr hwn yn rhedeg am dros 250 o filltiroedd ar hyd Cymru gyfan. Y man agosaf i ymuno yw Y Felinheli ac mae llwybr oddi ar y ffordd yn mynd yr holl ffordd i Gricieth, 2 filltir o’r bwthyn.
Lôn Feicio Eifion - llwybr beicio llawn golygfeydd sy’n ddeuddeg milltir a hanner o hyd, o Gaernarfon i Fryncir, 3.5 milltir o’r bwthyn.
Chwaraeon Dwr
Plas Menai - Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Dwr sy’n cynnig cyrsiau dydd ac amrywiaeth eang o weithgareddau, ar gyfer pob lefel, 3 milltir.
Golff
Clwb Golff Caernarfon - cwrs golff 18 twll, 3.5 milltir.
Clwb Golff Henllys - Biwmares. Cwrs golff 18 twll, 9 milltir.
Marchogaeth
Stablau Marchogaeth Eryri - Waunfawr - rhwng Yr Wyddfa a’r môr. Addas i bob oed a gallu, 7 milltir.
Traethau
Mae gan Ddinas Dinlle draeth hir a thywodlyd, a dyma’r traeth mwyaf gogleddol ym Mhenrhyn Llyn, 8 milltir
Traeth Llanddona - traeth hir a thywodlyd sydd â Baner Las. Poblogaidd iawn gan deuluoedd, canw-wyr, pysgotwyr a llongwyr, 11 milltir.
Pysgota
Pysgota ar afon - Dyffryn Ogwen - 8 milltir.
Pysgota môr o amgylch Ynys Môn o bier Fictorianaidd hardd Biwmares, 9 milltir.