- £525 yr wythnos
- £75 y noson
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi llestri
Ystafell ymolchi
- Tywelion ar gael
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Ar un lefel, dim grisiau
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Bwthyn syfrdanol ym mhob ystyr y gair. Wedi ei adnewyddu'n ddiweddar, mae’r bwthyn wedi cadw ei holl nodweddion gwreiddiol, gan gynnwys ffenestri o’r llawr hyd at y to, to uchel gyda ffenestri to, trawstiau a waliau cerrig. I ychwanegu at hynny mae’r amgylchedd heddychlon a gwledig yn cynnig y llecyn perffaith i ymlacio a gwneud dim byd. Fodd bynnag, mae'n werth nodi fod mynydd uchaf Cymru (yr Wyddfa), Parc Coedwig Gelli Gyffwrdd, Canolfan Chwaraeon Dwr Genedlaethol a gwifren zip hiraf Ewrop i gyd o fewn munudau o’ch stepen ddrws, sydd hefyd yn ei wneud yn fan perffaith ar gyfer gwyliau antur yng Nghymru.
Llawr Gwaelod
Cegin wen newydd a chyfoes sy’n cynnwys popty trydanol, peiriant golchi llestri, oergell gyda bocs rhew a microdon. Golygfeydd hyfryd o’r ardd, waliau cerrig gwreiddiol, trawstiau uchel a goleuadau sbot - oll i greu atmosffer ysgafn ac ymlaciol. Drysau stabl (yr hanner top yn wydr) sy’n agor tuag at yr ardal batio sydd yn y cefn.
Yn yr ardal fyw/fwyta mae trawstiau gwreiddiol, waliau cerrig a drysau patio mawr mewn ffrâm gron sy’n dangos golygfeydd syfrdanol o gefn gwlad. Mae’r rhain yn arwain at yr ardal batio a’r caeau tu hwnt. Gallwch dreulio’r diwrnod cyfan yn eistedd ar y soffas lledr neu ar y patio yn edmygu’r amgylchedd heddychlon a gwyrdd. Fel arall, os ydych yma am wyliau anturiaethus yng Nghymru, nid oes ffordd well o orffen y diwrnod na dod adref i soffa gyfforddus gyda golygfeydd gosteg ac eang. Yn yr ardal fyw mae yna hefyd fwrdd bwyta Georgaidd a theledu / chwaraewr DVD 32” wedi ei godi ar y wal.
Ystafell Wely 1 – Ystafell ddwbl ysgafn gyda tho uchel, trawstiau gwreiddiol, waliau cerrig a golygfeydd o gefn gwlad. Bwrdd ymbincio a digonedd o le storio yn y cwpwrdd a’r droriau.
Ystafell Wely 2 – Ystafell wely twin gyda digonedd o le, gyda waliau cerrig a thrawstiau gwreiddiol hefyd. Ffenestr ar y to, cwpwrdd dillad mawr a chist ddroriau.
Yn yr Ystafell Ymolchi mae bath gyda chawod uwch ei ben a rheilen cynhesu tywelion. Drych wedi ei oleuo, plwg eillio, waliau cerrig gwreiddiol a goleuo sbot.
Gardd
Ardal batio fawr gyda dodrefn patio modern, llefydd tân a waliau cerrig traddodiadol. Yn debyg i’r ardal fyw cynllun agored, mae’r golygfeydd sydd i’w cael o’r patio yn syfrdanol ac mae’n fan hyfryd er mwyn gwylio’r adar a bywyd gwyllt.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae Beudy Menai yn un o ddau fwthyn pâr a all hefyd gael eu cysylltu i wneud un bwthyn mawr i hyd at 8 o westai. Enw’r bwthyn drws nesaf yw Beudy Menai sydd hefyd â lle i 4 mewn dwy ystafell wely.
Darperir dillad gwely, tywelion bath a llaw a sychwr gwallt.
Gwres a thrydan yn gynwysedig.
Wi-Fi ar gael - BT band llydan fibre.
Signal ffon symudol yn gyfyngedig.
Darperir cot a chadair uchel os bydd cais.
Digonedd o le parcio tu allan i’r bwthyn.
Peiriant golchi llestri a lle i rewi bwyd ar gael yn nhy’r perchennog sydd ar y safle os bydd cais.