Jasmine Bach

Llanberis, North Wales Snowdonia

  • 3 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special OfferEarly Bird offer - 10% discount between 24th May and 25th July
  • Special Offer10% offer on any 14 night stay during 2024
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 5th September 2024

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £592 yr wythnos
  • £85 y noson
  • 3 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 4 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Dim tywelion ar gael

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Saif bwthyn gwyliau Jasmine Bach mewn lleoliad gwych ger Llanberis a Chaernarfon, yng Ngogledd Cymru, 4 milltir yn unig o droed y Wyddfa. Ymhlith yr atyniadau lleol ceir Castell Caernarfon, trên stêm i Ryd Ddu, trac beicio, Trên Bach yr Wyddfa a llwybr cerdded i’r pegwn, Llyn Padarn, Mynydd Trydan a Rheilffordd Llyn Llanberis. Mae’r bwthyn hefyd o fewn 1 filltir i bentref Llanrug gyda nifer o siopau cornel, cigydd arbennig, swyddfa’r post a thafarn.

Llawr Gwaelod

Mae’r Gegin, a’r Ystafell Fyw / Bwyta yn ardal gymdeithasol. Cynllun agored gyda nenfwd uchel a llawr teils. Cegin siâp L yn cynnwys oergell / rhewgell dal, popty a hob, microdon, golchwr llestri, tegell a thostiwr. Bwrdd bwyd ar un pen a’r lolfa ar y pen arall gyda seti lledr, teledu a sianeli am ddim, DVD a ffenestr fawr yn edrych dros yr iard, y caeau a Sir Fôn ar y gorwel.

Ystafell wely ddwbl mewn lleoliad heddychlon ar ben pellaf y bwthyn gyda ffenestr fawr sy’n gadael llawer o olau i mewn. Carped ar lawr a cherrig gwreiddiol y wal yn dangos, cwpwrdd dillad mawr gyda droriau, drych a byrddau ger y gwely gyda goleuadau cyffwrdd.

Ceir dwy ffenestr yn yr ystafell twin cyntaf – gyda silffoedd mawr, un tu ôl i bob gwely. Cwpwrdd dillad sengl hen ffasiwn gyda drych, gwaith cerrig gwreiddiol ar y waliau, carped a byrddau ger y gwely gyda goleuadau cyffwrdd.

Mae’r to ar osgo yn ychwanegu cymeriad a chynhesrwydd i’r ail ystafell twin. Ystafell heddychlon gyda charped, drych a chwpwrdd dillad yn y wal.

Noder fod un gris fechan yn arwain i'r ystafell ddwbl ac i un o'r ystafelloedd twin.

Bathrwm golau gyda ffenestr velux. Llawr teils, bath gyda chawod drydan drosto, sinc a thoiled.

Iwtiliti yn cynnwys peiriant golchi dillad, dadleithydd fel y gellir sychu golch, dillad gwlyb ac esgidiau yn hwylus dros nos.

Gardd

Iard breifat gyda waliau cerrig a phlanhigion dringo sy’n creu preifatrwydd. Golygfeydd dros gaeau agored draw i Sir Fôn (gall machlud haul fod yn wefreiddiol gyda’r nos). Un fainc ardd, bwrdd metal a dwy gadair fetel.

Gwybodaeth Ychwanegol

Caniateir anifeiliaid anwes – Dau gi ufudd, canolig eu maint, £20 yr un yn ychwanegol yn daladwy wrth archebu.    Ni chaniateir i gwn gael eu gadael ar eu pennau eu hunain yn y ty oni bai eu bod mewn cawell.

Dillad gwely yn gynwysedig

Tyweli £2.50 y pen

Darperir cot a chadair uchel

Gwres a thrydan yn gynwysedig

Parcio am ddim

Dim ysmygu yn y bwthyn

Lleoliad

Saif Bwthyn Gwyliau Jasmine Bach i fyny lôn breifat, wedi ei amgylchynnu gan res o goed aeddfed sy’n ei wneud yn fan deiliog, heddychlon yn yr haf ac yn encilfa gysgodol yn y gaeaf. Y tu hwnt i’r rhain ceir caeau agored sy’n cynnig amreadiad o lwybrau cerdded lleol ac y tu draw i’r rheini ceir golygfeydd ar draws y Fenai i Ynys Môn (Ynys Llanddwyn).

Mae Jasmine Bach 1 filltir o bentref Llanrug gyda nifer o siopau cornel, cigydd arbennig, swyddfa bost, tafarn ayb. Bydd dim prinder pethau i’w gwneud na lleoedd i ymweld â hwy, ac mae gan yr ardal ddigonedd o atyniadau i ymwelwyr, cestyll ac amgueddfeydd, ynghyd â mynyddoedd, dyffrynnoedd a thraethau trawiadol.

Mae tref Caernarfon mewn lleoliad arbennig, gyda mynyddoedd Eryri yn gefndir iddi, a golygfeydd gwych dros y Fenai i Ynys Môn. Gyda’r castell mawreddog a’r waliau canoloesol yn arglwyddiaethu dros y dref, mae Caernarfon bellach yn dref farchnad brysur, ac iddi un o’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.

Ewch ar daith o amgylch Gwaith Llechi Inigo Jones, ewch i ben mynydd uchaf Cymru ar Drên Bach yr Wyddfa a manteisiwch ar y cyfleoedd diddiwedd i gerdded, beicio a mynydda yn Eryri. Mae Rheilffordd Eryri, y Mynydd Gwefru yn Llanberis, rownd o golff ar lannau’r Fenai ac ymweliad â phentref Eidalaidd hardd Portmeirion hefyd yn siwr o’ch ysbrydoli.

I ymwelwyr iau, mae Parc Glasfryn yn cynnig gweithgareddau dan do ac awyr agored, yn cynnwys cartio, bowlio a beiciau modur pedair olwyn. Mae’r Hwylfan, canolfan hwyl dan do fwyaf gogledd Cymru, yn lle delfrydol i’r plant ddefnyddio’u hegni, ac mae Parc Coedwig Greenwood yn barc hamdden ar thema natur, sydd â char sglefrio (rollercoaster) yn cael ei yrru gan bwer pobl. Dros y bont ar Ynys Môn, mae rhagor o atyniadau, yn cynnwys Pili Palas a Sw Môr Môn.

Traethau

Dinas Dinlle traeth tywod hir – traeth mwyaf gogleddol Penrhyn Llyn. 8 milltir

Ewch i weld 10 traeth gorau Penrhyn Llyn

Chwaraeon Dwr

Plas Menai - Canolfan chwaraeon dwr genedlaethol, sy'n cynnig cyrsiau dydd mewn amrywiaeth eang o weithgareddau, ar bob lefel. 5 milltir

Cerdded

Rhaeadr Fawr – taith gerdded 3 milltir hwylus at raeadr syfrdanol. 4 milltir o’r bwthyn.

Llwybr Arfordir Llyn – 84 milltir o amgylch Penrhyn Llyn, o Gaernarfon (4 milltir) i Borthmadog.

Yr Wyddfa – mynydd uchaf Cymru – llwybr Llanberis (4.7 milltir - 3 awr) yw’r agosaf. 5 milltir o’r bwthyn.

Moel Siabod (Llwybrau Mynyddig Eryri) – Capel Curig. Taith dda i gerddwyr profiadol. 16 milltir o’r bwthyn.

Carneddau (Llwybrau Mynyddig Eryri) – Taith heriol, sy’n cynnwys 2il a 3ydd mynydd uchaf Cymru. Mae’r daith agosaf yn cychwyn yn Helyg, Capel Curig. 18 milltir

Golff

Cwrs golff Caernarfon – cwrs golff 18 twll. 6 milltir.

Beicio

Llwybr Seiclo Lôn Eifion – Llwybr 12.5 milltir llawn golygfeydd o Gaernarfon (4 milltir) i Fryncir.

Marchogaeth Ceffylau

Stablau Marchogaeth Eryri – Addas ar gyfer pob oed a gallu. 2 filltir