Ysgubor Cae'r Blaidd (The Haybarn)

Blaenau Ffestiniog, North Wales Snowdonia

  • 5 Star Gold
  • Special OfferUp to 20% off Special Offer Discount - selected dates

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £1,134 yr wythnos
  • £162 y noson
  • 5 Star Gold

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 3 o welyau king/super-king
  • 2 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)
  • 2 o welyau soffa

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Popty Range/Aga
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 3 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Storfa tu allan
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 09:00

Disgrifiad

Yng nghalon Eryri, mae Ysgubor Cae'r Blaidd yn cynnig lleoliad trawiadol ar gyfer darganfod y Parc Cenedlaethol gyda'i ystod o atyniadau. Wedi ei amgylchynu gan fynyddoedd, cestyll a fforestydd, digon o ddiwylliant a threftadaeth, llynnoedd hyfryd a nifer o draethau euraidd, dyma'n wir y lleoliad delfrydol ar gyfer aduniadau teulu neu ffrindiau. Yr eiliad y cyrhaeddwch yr ysgubor, byddwch yn teimlo'n gartrefol, gyda gardd helaeth a golygfeydd anhygoel o'r mynyddoedd i'w mwynhau.

Mae'r bwthyn yn sefyll ar ben ei hun ar gyrion Llanffestiniog, lai na milltir o dafarn/bwyty ac o fewn 3 milltir o Blaenau Ffestiniog a'i atyniadau rhyfeddol. Mae'r rhain yn cynnwys Zip World Titan a thrampolinau tanddaearol Bounce Below, beicio mynydd Antur Stiniog a thrên stêm Ffestiniog, sy'n mynd â chi i Porthmadog a'r arfordir, lai na 10 milltir i ffwrdd. Mae Brailsford Way (beicio) a'r Llwybr Llechi hefyd ar stepen y Drws. Mae atyniadau lleol eraill yn cynnwys pentref Eidalaidd Portmeirion, Canolfan Genedlaethol Dŵr Gwyn ger y Bala, Zip World Forest yn Betws y CoedClwb Golff Royal St David's yn Harlech a llawer mwy.

Gellir cerdded i unrhyw gyfeiriad o'r ysgubor gan fwynhau bryniau, dyffrynnoedd a mynyddoedd garw. Mae yna hefyd raeadr hardd ond dwy funud o'r llety. Mae Ysgubor Cae'r Blaidd yn wir leoliad ysbrydoledig ar gyfer eich gwyliau nesaf yn Eryri.

Llawr Gwaelod

  • Mynedfa - gwres dan y llawr, yn arwain i ardal cynllun agored, gyda -
  • Cegin - offer yn cynnwys popty trydan, peiriant golchi llestri, oergell/rhewgell, meicrodon a pheiriant coffi. Golygfeydd anhygoel o'r mynyddoedd.
  • Ardal bwyta - gyda bwrdd mawr i eistedd 12. 
  • Lolfa - gyda soffas a chadeiriau i eistedd 12. Eisteddwch nôl ac ymlaciwch o flaen y stôf goed, neu fe fedrwch fwynhau golygfeydd Eryri drwy ddrws llithro mawr sy'n agor allan i'r patio. Teledu Freeview a chwpwrdd sy'n llawn o lyfrau, gemau, mapiau, a digon o syniadau am bethau i'w gweld a'u gwneud.
  • Ystafell wely 1 - gwely maint king (gellir ei droi'n ddau wely sengl 2'6") a gwres dan y llawr.
  • Ystafell wely 2 - gwely maint king (gellir ei droi'n ddau wely sengl 2'6").
  • Ystafell ymolchi - cawod fawr, uned ymolchi a rheilen sychu tywelion.
  • Toiled/Iwtiliti - Toiled, sinc ac uned ymolchi. Peiriannau golchi a sychu dillad yn yr Iwtiliti.

Llawr Cyntaf

  • Ystafell wely 3 - gwely king mawr (gellir ei droi'n ddau wely sengl 3') ac ystafell gawod ensuite. Gyda gwely dwbl soffa, gall yr ystafell fod yn ystafell deulu i 4  (1 oedolyn neu 2 blentyn),am gost ychwanegol drwy son wrth archebu. Golygfeydd o'r ardd a'r mynyddoedd.
  • Ystafell wely 4 - gwely king mawr (gellir ei droi'n ddau wely sengl 3') ac ystafell ymolchi ensuite gyda bath. Gellir gwneud yr ystafell hon hefyd yn ystafell deulu i 4(1 oedolyn neu 2 blentyn) drwy ddefnyddio'r gwely soffa dwbl am gost ychwanegol drwy son wrth archebu. Golygfeydd o'r ardd a'r mynyddoedd, ynghŷd â ffenestri mawr yn edrych dros y lolfa.

Gardd

  • Gyda golygfeydd anhygoel o'r mynyddoedd, mae'r bwthyn â gardd fawr gaeedig, gyda nant a pwll ym mhen draw'r ardd.
  • Patio mawr gyda dodrefn gardd. Pydew tân a barbaciw siarcol - un bag o siarcol yn gynwysedig.
  • Garej gyda storfa beiciau diogel.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig  
  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig      
  • Cyflenwad cychwynnol o goed a glô yn gynwysedig. Mwy o goed ar gael i'w prynu    
  • Croesewir hyd at 2 o gŵn. Bydd yn rhaid iddynt fod o leiaf blwydd oed, wedi eu brechu a'u trin rhag chwain. 
  • Dim ysmygu tu mewn y llety   
  • Parcio ar gyfer 4 neu fwy o geir    

Lleoliad