- £679 yr wythnos
- £97 y noson
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- 1 Pet
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Pecyn croeso
- Golygfeydd o'r afon
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 10.00
Disgrifiad
Yn eistedd yn falch uwchben Pont Waterloo yn Betws y Coed, arferai Coedfa Bach fod yn adain gweision y prif dŷ, Coedfa. Mae nifer o nodweddion traddodiadol yn parhau drwy'r bwthyn, fel system gloch y gweision/morwynion ar gyfer y prif dŷ. Lleoedd tân nodweddiadol a lloriau gwreiddiol, dyma leoliad perffaith ar gyfer cwtsio o flaen y stôf goed, mwynhau golygfeydd anhygoel o Ddyffryn Lledr, neu gerdded y daith fer i atyniadau niferus Betws y Coed.
Arferai Coedfa, y prif dŷ drws nesaf, fod yn cyn gartref Bonheddwr, a gellir archebu'r ddau lety ar gyfer grwpiau o deulu a ffrindiau estynedig.
Gall gwestai hefyd gael defnydd o gyfleusterau hamdden Gwesty Waterloo, yn rhad ac am ddim, ble gellir mwynhau pwll nofio dan do gyda Jacwsi, cawod a chyfleusterau newid, sawna, ystafell stêm a campfa.
Llawr Gwaelod
Cyntedd - gyda'r hen system gloch ar gyfer y prif dŷ, a llawr llechi gwreiddiol. Toiled.
Cegin - traddodiadol gyda lle tân Fictorianaidd. Sinc Belfast gyda tapiau efydd a wyneb gweithio gwenithfaen. Popty trydan a hob nwy, oergell/rhewgell a pheiriant golchi/sychu dillad. Bwrdd a chadeiriau.
Lolfa - ystafell gysurus gyda dwy ffenestr, un yn wynebu'r ardd a'r llall yn edrych allan dros y dyffryn a'r afon. Nodweddion gwreiddiol megis trawstiau agored, lloriau llechi a lle tân gyda stôf goed (coed ar gael am bris ychwanegol). Soffa a chadeiriau cyfforddus ar gyfer nosweithiau ymlaciol o flaen y tân. Teledu a radio/chwaraewr CD.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 1 - ystafell llawn cymeriad gyda gwely pedwar postyn, dwy ffenestr gyda golygfeydd o'r ardd a'r dyffryn.
Ystafell wely 2 - ystafell hyfryd gyda dau wely sengl, lle tân, golygfeydd o'r ardd a llawr pren gwreiddiol.
Ystafell ymolchi - gyda bath a chawod oddi mewn, basn a thoiled. Dwy ffenestr a llawr pren gwreiddiol.
Gardd
Wedi ei amgylchynu gan 3/4 acer o erddi Fictorianaidd, gyda lawnt, coetir a nant. Golygfeydd anhygoel dros Ddyffryn Lledr a'r afon. Mae'r ardal hon yn cael ei rhannu gyda Coedfa. Bwrdd a chadeiriau gyda barbaciw (dim cyflenwad o siarcol).
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, siwgwr a llaeth
- Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig
- Coed tân ar gyfer y stôf (bydd yn rhaid talu ar ddiwedd y gwyliau)
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- Sychwr gwallt ar gael
- Wi-fi ar gael
- Cadair uchel
- Dim ysmygu tu mewn y llety
- Darperir y canlynol:
- Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, clytiau, ffoil a ffilm glynu
- Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur i bob toiled
- Cynnyrch glanhau cyffredinol
- Lle parcio i 2 gar ar y safle
- Barbaciw (dim cyflenwad o siarcol)
- Gall gwesteion ddefnyddio cyfleusterau hamdden Gwesty'r Waterloo, yn rhad ac am ddim