- £767 yr wythnos
- £110 y noson
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Twb poeth
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Balconi
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Wedi ei leoli ger pentref trawiadol Betws y Coed, y fynedfa i Barc Cenedlaethol Eryri. Bwthyn hardd gyda twb poeth oddi mewn i barc gwyliau bychan. Mewn lleoliad heddychlon ond eto o fewn pellter cerdded i fwytai, caffis, siopau a bariau. Mae Llyn Brenig Lodge hefyd yn leoliad delfrydol i fwynhau ystod eang o atyniadau, gweithgareddau a'r diwylliant cyfoethog sydd gan Gogledd Cymru i'w gynnig.
Gyda gweithgareddau gerllaw yn cynnwys Zip World a Bounce Below yn ogystal â nifer o lwybrau cerdded mynyddig, rafftio dwr gwyn ac Adventure Park Snowdonia, mae yna ddigon i gadw pawb yn hapus. Os am wyliau mwy ymlaciol, gellwch ddarganfod ysblander Eryri oddi ar drên stêm, mwynhau taith gerdded i'r Rhaeadr Ewynnol, ymweld â threfi marchnad ac atyniadau megis cestyll lleol a thraethau godidog Llandudno a Black Rock.
Llawr Gwaelod
Llety wedi ei ddylunio'n gywrain, gyda mynediad i fyny 3 step. Twb poeth wedi ei suddo i mewn i'r patio caeedig, sydd yn arwain i ystafell fyw agored a steilus.
Lolfa - gyda 2 soffa gyfforddus, bwrdd coffi a theledu Smart mawr.
Cegin - gyda'r holl offer angenrheidiol yn cynnwys popty a hob, meicrodon a pheiriant golchi llestri, oerydd gwîn, oergell/rhewgell a pheiriant golchi/sychu llestri.
Ardal fwyta - bwrdd i 4 yn edrych allan dros y patio, twb poeth a golygfeydd o gefn gwlad.
Ystafell wely 1 - gwely maint king o flaen teledu Smart. Cypyrddau dillad ac ensuite gyda cawod wlaw, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.
Ystafell wely 2 - dau wely sengl, teledu Smart a chwpwrdd dillad.
Ystafell ymolchi yn cynnwys baddon a chawod oddi mewn, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.
Tu Allan
Patio caeedig gyda twb poeth wedi'i suddo i mewn i'r dec ac wedi ei amgylchynu gan wydr frosted er mwyn preifatrwydd.
Bwrdd steilus gyda 4 cadair gyfforddus. Mae'r parc wedi ei amgylchynu gan wyrddni gyda golygfa anhygoel o'r coed cyfagos.
Gwybodaeth ychwanegol
- Pecyn croeso yn null hamper tymhorol. Yn cynnwys Prosecco, caws, bisgedi, bara, menyn, jam, cacennau cri, te, coffi, llaeth a siwgwr
- Gwn a sliperi ar gael ar gyfer y twb poeth
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- 2 sychwr gwallt ar gael
- Wifi ar gael
- Gât ar ben y stepiau yn sicrhau llety caeedig
- Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu tu mewn y bwthyn
- Mae'r canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad:
- Cegin: pupur a halen, olew a fineg balsamic, papur cegin, hylif golchi llestri a thabledi i'r peiriant, clytiau, ffoil a ffilm glynu
- Ystafell ymolchi: siampw, sebon a 2 rolyn papur toiled
- Cynnyrch glanhau cyffredinol
- Lle parcio i hyd at 2 gar gerllaw'r llety