- £857 yr wythnos
- £122 y noson
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Twb poeth
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Balconi
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Mwynhewch y lleoliad gwych hwn, o fewn pellter cerdded i Betws y Coed, y porth i Barc Cenedlaethol Eryri gyda digon o lwybrau cerdded, gweithgareddau ac atyniadau. Wedi ei leoli oddi mewn i barc tawel ac heddychlon, mae Llety Dinas Lodge yn un o bedwar llety 5 seren ar y safle - i gyd gyda twb poeth preifat.
Mae yna fwytai, caffis, siopau a thafarndai o fewn pellter cerdded tra fod Zip World Forest a Rhaeadr Ewynnol ond cwpwl o filltiroedd i ffwrdd. Gellir hefyd dod o hyd i gestyll, trên stêm, gweithgareddau a thrampolîn tanddaearol, reidiau zip wire, a llawer mwy o fewn ychydig filltiroedd. Am ddyddiau allan mwy ymlaciol, mae arfordir Gogledd Cymru a threfi marchnad yn cynnig digon i weld a gwneud.
Yn cael ei redeg gan deulu lleol mae'r llety steilus yn leoliad gwych i fwynhau y profiadau cyflawn sydd gan Eryri i'w cynnig.
Llawr Gwaelod
Mynediad i fyny 4 step i'r llety, sydd ar un llawr. Ardal fyw agored a modern yn cynnwys lolfa, cegin ac ardal fwyta sy'n arwain allan i'r dec a'r twb poeth.
Cegin - yn cynnwys popty, hob a meicrodon, oergell/rhewgell a pheiriant golchi llestri. Mae yna hefyd ynys gyda rac i gadw gwîn.
Lolfa - sofas a chadeiriau cyfforddus o flaen bwrdd coffi a theledu mawr Smart. Golygfeydd gwych.
Ardal fwyta - bwrdd a chadeiriau i bedwar o flaen y drysau patio.
Ystafell wely 1 - gwely maint king, teledu Smart a chwpwrdd dillad. En-suite gyda cawod bwerus, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.
Ystafell wely 2 - dau wely sengl, cwpwrdd dillad a theledu Smart.
Ystafell ymolchi - baddon a chawod oddi mewn, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.
Ystafell iwtiliti gyda sinc, peiriant golchi/sychu dillad a digon o le i storio.
Tu Allan
Dec mawr wedi ei amgylchynu gan wydr frosted, gyda twb poeth suddedig er mwyn preifatrwydd. Bwrdd a chadeiriau.
Mae'r safle wedi ei amgylchynu gan wyrddni ac yn elwa o olygfeydd gwych o'r coed gerllaw.
Gwybodaeth ychwanegol
- Pecyn croeso yn null hamper tymhorol. Yn cynnwys Prosecco, caws, bisgedi, bara, menyn, jam, cacennau cri, te, coffi, llaeth a siwgwr
- Gwn a sliperi ar gael ar gyfer y twb poeth
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- 1 sychwr gwallt ar gael
- Wifi ar gael
- Gât ar ben y stepiau yn sicrhau llety caeedig
- Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu tu mewn y bwthyn
- Mae'r canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad:
- Cegin: pupur a halen, olew a fineg balsamic, papur cegin, hylif golchi llestri a thabledi i'r peiriant, clytiau, ffoil a ffilm glynu
- Ystafell ymolchi: siampw, sebon a 2 rolyn papur toiled
- Cynnyrch glanhau cyffredinol
- Lle parcio i hyd at 2 gar gerllaw'r llety