Trem Machno

Betws-y-Coed, North Wales Snowdonia

  • 3 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 5th September 2024

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £359 yr wythnos
  • £51 y noson
  • 3 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael

Teuluoedd

  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Parcio preifat

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Os ydych yn chwilio am leoliad heddychlon, gyda golygfeydd hardd yng nghalon Eryri, mae’r bwthyn hunan-ddarpar hwn ym Metws y Coed yn berffaith i chi. Saif ar ymyl y dyffryn ac mae’n mwynhau golygfeydd dros bentref gwledig Penmachno a chadwyn trawiadol o fynyddoedd ar y gorwel. Pum milltir o dref ymwelwyr poblogaidd Betws-y-Coed, mae’r bwthyn hefyd yn ganolog i fynyddoedd a llynnoedd Eryri ac i arfordir godidog Gogledd Cymru. Am wyliau cwbwl ymlaciol gydag ystod o atyniadau gerllaw, mae Trem Machno yn fan delfrydol.

Mae Plas y Brenin (y Ganolfan Fynydd Genedlaethol), mynyddoedd Eryri, llwybrau beicio sydd wedi ennill gwobrau, siopau ffasiwn a bwytai o ansawdd i gyd o fewn cyrraedd. Atyniadau eraill sy’n rhagori yw Tree Tops Aventure, canwio a caiacio a’r wifren hedfan (zip wire) hiraf yn Ewrop ym Methesda.

Llawr Gwaelod

Cegin - Ystod o unedau modern, peiriant golchi, oergell gydag adran rhewgell fechan, micro-don, popty trydan/hob a bwrdd bwyta.

Ystafell fyw – gyda llawr newydd wedi ei lamineiddio, soffa a chadeiriau lledr sydd yn gostwng yn eu hôl, teledu a chwaraewr DVD.

Llawr Cyntaf

Ystafell 1 – Pâr o wlâu gyda golygfeydd bendigedig, bwrdd gwisgo a chwpwrdd dillad.

Ystafell 2 – Ystafell ddwbl gyda basn golchi dwylo, bwrdd gwisgo, cwpwrdd dillad a golygfa o’r dyffryn.

Ystafell ymolchi – Baddon gyda chawod, toiled a basn golchi dwylo.

Gardd

Gydag ardal batio wedi ei dodrefnu o flaen y bwthyn gellir eistedd yno mewn tawelwch gan edmygu golygfeydd panoramig o Eryri.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r bwthyn wedi ei leoli drws nesaf i fwthyn gwyliau arall sydd hefyd yn cysgu pedwar. Ar gyfer grwpiau hyd at wyth byddai hyn yn ddelfrydol gan y gellid archebu’r ddau eiddo ar yr un pryd.

Gwres a thrydan yn gynwysedig.

Wi-fi ar gael

Dillad gwely, tywelion dwylo a baddon a sychwr gwallt yn gynwysedig.

Croeso i un anifail anwes ar y llawr gwaelod yn unig. Dim cwn ar y dodrefn.

Os oes angen mwy o le i fwyd wedi ei rewi mae’r perchnogion yn fwy na hapus i’w cadw nhw yn eu rhewgell nhw ichi.

Digonedd o lefydd parcio preifat oddi ar y ffordd.

Lleoliad

Mae’r bwthyn dymunol hunan-ddarpar hwn ym Metws-y-Coed wedi ei leoli ar fferm mewn lleoliad gwledig godidog, dwy filltir o’r A5. Mae tref ymwelwyr boblogaidd Betws-y-Coed bum milltir i ffwrdd ac mae’n darparu ar gyfer eich holl anghenion, ac mae’r dafarn leol, Silver Fountain, dair milltir i ffwrdd.

Gellir mwynhau cerdded a beicio o garreg eich drws ac mae’r ardal yn fyd-enwog am ei llwybrau beicio mynydd. Mae gan Fetws-y-Coed amrywiaeth o lefydd da i fwyta gan gynnwys y Ty Gwyn, y Waterloo, y Royal Oak a’r Stables. Mae gan y dref ei gorsaf ei hun ac mae’n arbenigo mewn dillad o ansawdd uchel ar gyfer yr awyr agored. Yn sicr, mae’r ardal boblogaidd hon yn darparu ar gyfer pawb a gellwch fwynhau marchogaeth, golff, pysgota, canwio, dringo a cherdded o fewn ychydig filltiroedd i’r bwthyn.

Atyniadau poblogaidd eraill yw Rhaeadr Ewynnol (Swallow Falls), Melin Wlân Trefriw, Castell Conwy a holl harddwch tref glan môr Llandudno. Mae Rheilffordd Fynyddig Llanberis, yr Amgueddfa Lechi a Chastell Caernarfon yn weithgareddau hamdden poblogaidd hefyd.

Cerdded a Dringo

I gerddwyr mae yna ddigonedd o goedwigoedd, llynoedd a mynyddoedd i’w cerdded sydd yn addas ar gyfer cerddwyr o bob gallu.

Yr Wyddfa – Mae mynydd uchaf Cymru a phedwar copa ar ddeg arall Eryri, sydd dros dair mil o droedfeddi uwch law lefel y môr i gyd o fewn cyrraedd – ll milltir.

Tree Tops Adventure – 120 o aceri ar gyrion Betws-y-Coed lle gall ymwelwyr fwynhau'r llwybr coed arbennig i blant, y reid ‘siglen’ awyr newydd a chwrs rhaffau uchel – 5 milltir.
Wal ddringo dan do yng Nghanolfan Fynydd Cenedlaethol Blas y Brenin ar gyfer y Deyrnas Unedig a chyrsiau i bob lefel – ll milltir.

Beicio

Beicio Mynydd – Gellir llogi beiciau o Beics Betws er mwyn cael y profiad enwog o herio’r llwybrau ym Mhenmachno (2 filltir), Marin (5 milltir), Antur Stiniog (15 milltir) a Choed y Brenin (22 milltir).

Marchogaeth

Marchogaeth ar gael yn lleol yn Stablau Gwydyr, Penmachno – addas ar gyfer pob gallu, 2 filltir.

Chwaraeon dwr

Canwio ym Metws-y-Coed. 3 milltir.

Gellir caiacio a chanwio a herio’r dwr gwyn ym Mhlas y Brenin, 11 milltir i ffwrdd.

Mae’n bosib caiacio hefyd ar Lyn Gwynant – 6 milltir.

Ewyn Eryri - 10 milltir

Golff

Cwrs golff naw twll yng nghlwb golff Betws-y-Coed – 6 milltir i ffwrdd.

Pysgota

Gellir pysgota bum milltir i ffwrdd o’r bwthyn ac mae tocynnau diwrnod ar gael o Betws-y-Coed Anglers Club ar gyfer pysgota brithyll ac eogiaid.

Traethau

Traethau Baner Las Llandudno gyda’r Pier Fictorianaidd a’r Promenâd – 24 milltir.