Llys y Wennol

Betws-y-Coed, North Wales Snowdonia

  • 4 Star
  • Llety ger Betws y Coed gyda golygfeydd anhygoel ar gyfer 4. Llety sy'n caniatau anifeiliaid, a dim ond 5 milltir o Betws y Coed sy'n cynnig amrywiaeth eang o atyniadau a thai bwyta.

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £398 yr wythnos
  • £57 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad

Ystafell ymolchi

  • Tywelion ar gael

Teuluoedd

  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 7:00pm
  • Amser gadael: 9:00am

Disgrifiad

Wedi ei leoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri, mae Llys y Wennol wedi ei osod mewn safle godigog a dyrchafedig yn edrych dros bentref gwledig Penmachno, gyda golygfeydd panoramig o fynyddoedd Eryri ar y gorwel. Dim ond 5 milltir i'r gogledd o'r llety hwn sy'n caniatáu anifeiliaid mae Betws y Coed, un o brif atyniadau twristiaeth Eryri, yn cynnig amrywiaeth eang o atyniadau, gweithgareddau, siopau unigryw a thai bwyta. Mae'n ganolog i fynyddoedd a llynnoedd y Parc Cenedlaethol ac arfordir gogoneddus Gogledd Cymru.

Llawr Gwaelod

Mae'r gegin yn cynnwys y darpariaethau angenrheidiol i gyd ac yn cynnwys popty trydan, microdon, oergell gyda rhewgell bach ynddo a golchwr dillad.

Mae gan yr ystafell fyw lawr newydd wedi ei lamineiddio sydd yn ddelfrydol ar gyfer anifeiliaid anwes, soffa a dwy gadair gyfforddus, teledu a chwaraewr DVD.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 1 - Dau wely, cwpwrdd, bwrdd gwisgo a golygfeydd panoramig ysblennydd.

Ystafell wely 2 - Gwely dwbl gyda chwpwrdd a bwrdd gwisgo a golygfeydd hyfryd o gefn gwlad.

Ystafell ymolchi gyda chawod, toilet a basn golchi dwylo.

Gardd

Ma patio gyda dodrefn o flaen y bwthyn yn golygu y gallwch eistedd yn heddychlon a mwynhau'r olygfa banoramig o Fynyddoedd Eryri.

Ardal arwahân i’w rhannu gyda’r bwthyn drws nesaf, gyda glaswellt a dodrefn gardd - lle gwych i blant ac anifeiliaid redeg yn rhydd.

Gwybodeath Ychwanegol

Mae gan y bwthyn hwn fwthyn gwyliau arall drws nesaf sydd hefyd yn cysgu 4. Ar gyfer grwpiau o 8 byddai hyn yn galluogi archebu’r ddau fwthyn ar yr un pryd.

Gwres a thrydan wedi eu cynnwys.

Llieiniau gwely, tywelion dwylo, baddon a sychwr gwallt wedi eu cynnwys.

Croeso i 1 anifail anwes, ar y llawr gwaelod yn unig, dim cwn ar y dodrefn.

Os oes gofyn am fwy o le i fwyd wedi ei rewi, mae'r perchnogion yn hapus i'w gadw yn eu rhewgell i chi.

Digonedd o lefydd parcio preifat oddi ar y lôn

Lleoliad