- £533 yr wythnos
- £76 y noson
- 3 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 1 gwely sengl
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Cawod
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Balconi
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Ar un lefel, dim grisiau
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Caban pren clyd a moethus yn Eryri, wedi ei leoli mewn llecyn prydferth ger Betws y Coed ac yn berffaith ar gyfer teuluoedd bychain. Saif y caban yng nghalon Eryri gyda golygfeydd godidog o gefn gwlad ac mae ganddo ddigonedd o weithgareddau ac atyniadau ar drothwy ei ddrws. Mae hyn yn cynnwys Tree Tops Adventure, Chwarel Lechi Llechwedd, canolfan beicio mynydd, Sw Fynydd Bae Colwyn, llwybrau mynyddoedd Eryri, golff a Chanolfan Awyr Agored Plas y Brenin. Nifer o fwytai a thafarndai da a chyfleusterau eraill o fewn 2 filltir.
Llawr Gwaelod
Mae gan Gaban Betws ystafell fyw agored sy’n cynnwys cegin, le bwyta a lolfa. Mae’r gegin yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch - microdon, oergell gyda rhewgell bach oddi mewn, popty, hob a gril trydan, sinc, crochenwaith, cytleri, sosbenni a phadelli, offer cegin, gwydrau, tostiwr a thegell. Bwrdd bwyd gyda 4 cadair a gwresogydd ar y wal.
Yn ardal y lolfa ceir soffa lledr i 3 ac un gadair ledr, bwrdd coffi, teledu a DVD, consol gemau a lamp fawr ar gyfer darllen. Gwresogydd trydan ar ffurf stôf llosgi coed.
Cyntedd bychan rhwng yr ystafelloedd gwely a’r ystafell ymolchi i hongian cotiau.
Ystafell wely 1: Gwely dwbl gyda droriau bob ochr, lamp bwrdd, drych, cwpwrdd dillad dwbl a gwresogydd trydan ar y wal.
Ystafell wely 2: Gwely sengl, cwpwrdd dillad a 2 lamp. Gwresogydd trydan ar y wal.
Ystafell ymolchi yn cynnwys cawod drydan, rheilen cynhesu tywelion, drych â gwres, pwynt eillio, toiled a basn ymolchi.
Gardd
Deciau wedi eu goleuo’n dda gyda 2 wely haul, bwrdd picnic a pharasol.
Sied fechan ar gyfer storio offer ayb.
Gwybodaeth Ychwanegol
Dillad gwely, tywelion bath a dwylo yn gynwysedig
Gwres a thrydan yn gynwysedig
Llefydd parcio wrth ymyl y caban
Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu.