Melin Pandy

Betws-y-Coed, North Wales Snowdonia

  • 4 Star Gold
  • Llety hunan-ddarpar moethus i 10 ger Betws y Coed wedi ei amgylchynu gan erddi estynedig.

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £1,056 yr wythnos
  • £151 y noson
  • 4 Star Gold

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau king/super-king
  • 1 gwely dwbl
  • 4 o welyau bync

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Baddon

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 09:30

Disgrifiad

Llety gwyliau mawr a moethus ger Betws y Coed wedi ei leoli mewn llecyn hardd a thawel ger yr afon. Mae’r tŷ melin hwn wedi ei adnewyddu’n grefftus ac wedi ei amgylchynu gan erddi estynedig. Mae Betws y Coed wedi ei leoli yng nghalon Eryri ac mae ganddo fwytai sydd wedi ennill gwobrau, gweithgareddau awyr agored di-ri a nifer fawr o atyniadau. Mae gan y bwthyn gwyliau 5 seren hwn stôf llosgi coed hefyd ac mae’n croesawu anifeiliaid anwes.

Llawr Gwaelod

Cegin/ystafell fwyta helaeth gyda wynebau gweithio gwenithfaen, sinc Belfast, phopty trydan mawr a hobs, oergell, peiriant golchi llestri, microdon, teledu Sky sylfaenol a chwaraewr CD. Ardal fwyta gyda stôf llosgi coed mewn lle tân enfawr a bwrdd bwyd mawr.

Lolfa hyfryd gyda theledu lloeren a DVD yn ogystal â fideo. Dwy soffa lledr yn eistedd 3 yr un.

Ail lolfa gyda dwy soffa ledr hufen ac yn eistedd 4-5, gyda theledu lloeren a DVD, llyfrau ayb.

Ystafell ymolchi gyda bath a chawod drosto, tolied a basn ymolchi.

Ystafell iwtiliti yn cynnwys oergell/rhewgell fawr gyda drysau dwbl, peiriant golchi a pheiriant sychu dillad a digonedd o fachau a silffoedd ar gyfer cotiau, esgidiau ayb.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 1: yn cynnig golygfeydd o’r afon a cyn cynnwys gwely maint king gyda ffrâm bren hyfryd, yn creu effaith gwely sled. Dillad gwely mewn lliwiau meddal er mwyn creu awyrgylch ymlaciol. Byrddau wrth y gwely a digon o lefydd storio.

Ystafell wely 2: eto gyda golygfeydd o’r afon, gwely dwbl a dillad gwely urddasol. Wedi ei ddodrefnu gyda chypyrddau wrth y gwely a llefydd i storio.

Ystafell wely 3: yn cynnig golygfeydd o’r ardd a gwely dwbl. Llefydd i storio gydag unedau’n sefyll ar eu pen eu hunain a chypyrddau. Lliwiau ysgafn er mwyn parhau â’r steil ymlaciol drwy’r bwthyn.

Ystafell wely 4: gwlâu bync, delfrydol ar gyfer aelodau ieuengach y teulu.

Ystafell ymolchi gyda chawod ddwbl, toiled a basn ymolchi.

Gardd

Gerddi helaeth yn ymestyn at y goedwig.

Barbeciw nwy mawr gyda bwrdd picnic a lle i 12 eistedd. Goleuadau allanol yn ogystal â chadeiriau a gwlâu haul ychwanegol wedi eu gwasgaru o amgylch y gerddi. Hyd yn oed mwy o lefydd i eistedd ger yr afon.


Gwybodaeth Ychwanegol

Darperir yr holl ddillad gwely a thywelion (dim tywelion ar gyfer gwyliau 3 noson)

Trydan a gwres canolog yn gynwysedig yn ogystal â stôf llosgi coed (darperir y bag cyntaf o goed tân am ddim)

Darperir cot a chadair uchel ar gais. Dewch a’ch dillad gwely eich hun ar gyfer y cot.

Darperir haearn a bwrdd smwddio

Croesewir anifeiliaid anwes - £25 ychwanegol yr un, i aros yn y gegin yn unig a ni chanieteir ar dodfren na fyny stair. 

Wifi ar gael

Digonedd o le parcio

Mae gan y ty hwn gyflenwad dwr ei hun sydd yn cael ei ffiltro, mae'r perchennog yn darparu poteli o ddwr yfed i'r gwestai yn ystod eu arhosiad.

6 milltir o bysgota preifat ar yr afon Alwen sydd hefyd yn cynnwys brithyll brown sylweddol eu maint. *Mae angen trwydded ar gyfer pysgota - cysylltwch gyda ni os oes angen cyngor arnoch i gael hyn.

Lleoliad

Mae'r llety mawr hwn ym Metws y Coed wedi ei osod mewn man hyfryd a heddychlon, dim ond 1.5 milltir o'r pentref ei hun. Wedi ei leoli i fyny lôn fach wledig, a'i amyglychynu gan ei dir eang ei hun gyda golygfeydd hyfryd. 

Mae Betws y Coed yng nghanol Eryri gyda bwytai a thafarndai gwych, siopau nwyddau a siopau anrhegion. Mae Llanrwst tua 4 milltir i ffwrdd gydag archfarchnad a mwy o dafarndai a bwytai.
Mae'r ardal hon yn cynnig gweithgareddau di-bendraw fydd at ddant pawb.

Cerdded

Moel Siabod (Llwybrau Mynyddig Eryri) – Capel Curig. Taith dda i gerddwyr profiadol. 0 milltir – o drothwy’r drws.

Coedwig Gwydir i Bont y Pair - taith 5 milltir o Fetws-y-coed. Addas i bob oed (2-3 awr). 6 milltir o’r bwthyn.

Taith Llanrwst – Llanrwst. Taith gylchol 3.5 milltir hawdd / ganolig (tua 2 awr). 10 milltir o’r bwthyn.

Carneddau (Llwybrau Mynyddig Eryri) – Taith heriol, sy’n cynnwys 2il a 3ydd mynydd uchaf Cymru. Mae’r daith agosaf yn cychwyn yn Helyg, Capel Curig. 11 milltir

Glyderau (Llwybrau Mynyddig Eryri) – Llyn Ogwen. Taith heriol sy’n cynnwys 5 o’r 14 copa uchaf yng Nghymru. 11 milltir o’r bwthyn.

Llynnoedd Geirionnydd a Chrafnant (gan fynd heibio Fairy Falls) - Trefriw. Taith gylchol ganolig (tua 3 awr). 12 milltir o’r bwthyn.

Llyn Cowlyd (Llwybrau Hamdden Eryri) – Trefriw. Taith ganolig / egniol (tua 3 awr). 12 milltir o’r bwthyn.

Pysgota

Afon Llugwy - Betws-y-coed. Mae yma 2.5 milltir o afon y gellir ei physgota ag abwyd neu bluen. 6 milltir

Llyn Crafnant – Beth am roi tro ar ddal brithyll lleol yng nghanol golygfeydd hardd Dyffryn Conwy. 12 milltir

Golff

Clwb Golff Betws-y-coed - cwrs golff 18 twll, ar agor i rai sydd ddim yn aelodau trwy’r flwyddyn. 6 milltir

Beicio

Coedwig Gwydir – Beicio mynydd gyda milltiroedd o lwybrau coedwig, addas i bob lefel. 8 milltir o’r bwthyn.

Llwybr Penmachno – Mae’r llwybr 18 milltir hwn yn mynd â chi drwy gefn gwlad hardd Dyffryn Conwy. 10 milltir

Marchogaeth Ceffylau

Stablau Gwydyr – Penmachno. Mae croeso i unigolion a grwpiau. Staff cwbl gymwys a dewis o 30 o geffylau, yn dibynnu ar eich maint a’ch gallu. 8 milltir

Chwaraeon Dwr

Fairy Glen - Profiad gwefreiddiol ger Betws-y-coed. 6 milltir.