Uwch Ogwen

Bethesda, North Wales Snowdonia

  • 4 Star Gold
  • Tŷ chwarel traddodiadol gyda naws gyfoes. Parc Cenedlaethol Eryri, ZipWorld, Castell Penrhyn, Dyffryn Ogwen a chymaint mwy ar garreg eich drws.

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £461 yr wythnos
  • £66 y noson
  • 4 Star Gold

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Dringo
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 1 gwely sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Preferred changeover day: Friday or Saturday
  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Tŷ chwarel traddodiadol o'r 19eg ganrif gyda naws gyfoes, groesawgar. Ar gyrion pentref hanesyddol Bethesda, gyda harddwch Dyffryn Ogwen a Pharc Cenedlaethol Eryri ar garreg eich drws, heb sôn am ZipWorld, sydd i'w weld ar ben y mynydd agosaf. Gardd breifat gyda golygfeydd pellgyrhaeddol o'r mynyddoedd cyfagos.

Digon o fwytai, siopau a thafarndai o fewn milltir. Yn ychwanegol at Zip World, mae'r ystod eang o atyniadau lleol yn cynnwys mynyddoedd Y Carneddau, sy'n arddel ail a thrydydd copa uchaf Cymru, Cwm Idwal, Castell Penrhyn a llawer iawn mwy. Mantais arall o ymweld â Dyffryn Ogwen yw'r cyfle i weld rhan o Dirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, bellach yn un o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO. 

Llawr Gwaelod

Lolfa: Ystafell glyd, groesawgar gyda digon o olau naturiol. Dau soffa lledr o flaen teledu 'Smart' a stôf draddodiadol yr olwg gyda thân nwy.
Cegin / ystafell fwyta: Cegin gyfoes gyda'r holl gyfleusterau ynghyd ag ardal fwyta. Mae'r gegin yn cynnwys oergell, rhewgell, microdon, popty a hob a pheiriant golchi llestri. Golygfeydd tuag at y mynyddoedd.
Ystafell iwtiliti: Ystafell ar wahân yn y cefn gyda pheiriant golchi a sychwr dillad.

Llawr Cyntaf

Ystafell Wely 1: Ystafell hardd gyda gwely maint 'king' a dodrefn cyfoes.
Ystafell Wely 2: Ail ystafell wely sydd hefyd wedi'i dodrefnu'n hyfryd gyda gwely sengl.
Ystafell Ymolchi: Ystafell fawr ac ymlaciol gyda chawod fawr, baddon ar wahân, toiled, basn dwylo a rheilen cynhesu tywelion. Darperir sebonau Cymreig hefyd.

Gardd

  • Gardd breifat, amgaeedig gyda golygfeydd o'r mynyddoedd, yn cynnwys golygfa o ZipWorld ar gopa'r mynydd agosaf. Amrywiaeth o blanhigion a choed. Ardal patio gyda bwrdd a chadeiriau o flaen craig lechen hardd a naturiol.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Gwresogi a thrydan: wedi'i gynnwys.
  • Darperir dillad gwely, tywelion llaw a baddon.
  • Ni ddarperir cot teithio, cadair uchel na giât i'r grisiau.
  • Sychwr gwallt: 2 wedi'u darparu.
  • Anifeiliaid anwes: ni chaniateir.
  • Dim ysmygu y tu mewn i'r llety os gwelwch yn dda.
  • Dŵr: Prif gyflenwad.
  • Parcio: parcio ar gael ar gyfer 1 car.

Lleoliad