Ysgubor Llew Coch

Bala, North Wales Snowdonia

  • 5 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £676 yr wythnos
  • £97 y noson
  • 5 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 3 o welyau king/super-king
  • 2 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Wedi ei leoli mewn safle unigryw ar gyrion tref farchnad y Bala, mae'r bwthyn hardd hwn o fewn tafliad carreg i bopeth yr ydych eu hangen. Mae Ysgubor Llew Coch yn cynnig lleoliad cefn gwlad, gyda manteision bwytai, caffis, tafarndai a siopau ar stepen y drws.

Eisteddwch o amgylch y stôf goed neu y tu allan ar y patio preifat i fwynhau golygfeydd ar draws caeau agored. Mae Llyn Tegid a'i holl weithgareddau dwr ond 500 metr i ffwrdd. Mae yna hefyd stêm trên yn rhedeg gydag ochr y llyn, yn ogystal â nifer o atyniadau gerllaw yn cynnwys canolfan rafftio dwr gwyn, Zip World Bounce Below. 

Os hoffech aduniad mwy gyda'ch teulu neu ffrindiau, yna mae dau fwthyn arall ar yr un safle - Stabal Llew Coch (cysgu 4) a Côr Llew Coch (cysgu 2).

Llawr Gwaelod

Cegin - cegin foethus gyda'r holl offer, bwrdd bwyta derw ac 8 cadair. Yn cynnwys meicrodon, popty, oergell/rhewgell, peiriant golchi llestri a pheiriant golchi/sychu dillad. Gwres o dan y llawr gwaelod. 

Lolfa - soffa gornel a soffa arall i ddau. Stôf goed, teledu ar y wal, drysau patio yn arwain i'r tu allan. 

Ystafell wely 1 - gwely derw moethus maint king, cypyrddau dillad a theledu ar y wal. 

Ystafell ymolchi - cawod wlaw, basn, toiled a rheilen sychu tywelion. 

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 2 - gwely maint king y gellir ei rannu'n ddau wely sengl 2'6" (dywedwch wrth archebu sut yr hoffech y gwely). Dodrefn derw a theledu. 

Ystafell wely 3 - ystafell helaeth gyda gwely maint king, nenfwd uchel gyda trawstiau. Cypyrddau dillad a theledu. 

Ystafell ymolchi - gyda basn fodern a thoiled. Cawod dros y baddon a rheilen sychu tywelion. 

Gardd

Patio preifat gyda dodrefn gardd a gwely blodau, gyda mynediad drwy ddrysau patio. Golygfeydd dros gaeau agored tuag at fryniau Eryri ar y gorwel.  

Barbaciw siarcol ar gael - gellir gwneud cais amdano gan y perchennog yn ystod eich arhosiad. Bydd yn rhaid talu blaendal o £20 fydd yn cael ei ad-dalu os bydd y barbaciw yn cael ei ddychwelyd yn yr un cyflwr. Siarcol ar gael yn nhref Bala. 

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, siwgwr, llaeth a chacennau cri  
  • Dillad gwelyau, tywelion a 3 sychwr gwallt ar gael   
  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig. Gwres dan y llawr gwaelod.
  • Basged cychwynol o goed tân. Mwy o goed ar gael am £5 y fasged. 
  • Cot a chadair uchel ar gael os dymunir 
  • Digon o le parcio y tu allan i'r bwthyn   
  • Mae'r perchnogion ar gael ar y safle i ateb unrhyw gwestiynau, gwybodaeth lleol ayb os oes angen   
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu y tu mewn i'r bwthyn      
  • WIFI ar gael
  • Dywedwch wrth archebu sut yr hoffech y gwely wedi ei wneud fyny yn ystafell wely 2
  • Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad -
    • Cegin - pupur a halen, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, hylif/tabledi i'r peiriant golchi dillad, clytiau newydd, tywel sychu llestri a ffoil    
    • Ystafell ymolchi - sebon hylif a 2 rolyn papur ar gyfer pob toiled   

Lleoliad

Mae Ysgubor Llew Coch yn mwynhau lleoliad unigryw - oddi mewn i fuarth caeedig â arferai fod yn rhan o fferm deuluol y perchennog, ond tafliad carreg o dref y Bala a'i hadnoddau. Mae'r bwthyn gyda'i gornel preifat ei hun oddi mewn y buarth, yn edrych allan ar gaeau amaethyddol a bryniau Eryri. Mae gennych hefyd yr opsiwn o ddod â theulu a ffrindiau gyda chi i ddau fwthyn arall ar y safle (yn cysgu 2 a 4). 

Mae tref farchnad Gymreig gartrefol y Bala, yn cynnig amrywiaeth eang o siopau, caffis, bwytai a thafarndai. Mae yna ganolfan hamdden (ystafell ffitrwydd, pwll dan do a llithren) ond 500 metr i ffwrdd. Y Cwrt, Y Plas Coch a’r Llew Gwyn yw rhai o dafarndai gorau’r dref ac maent i gyd o fewn pellter cerdded.

Ymhlith y llefydd gorau i fwyta mae Gwesty’r Llew Gwyn, Y Plas Coch, Plas yn Dre, Bala Spice ac Y Cwrt. Mae’n werth mynd am dro yn y car i westy'r Eryrod yn Llanuwchllyn (5 milltir) a Bwyty Llyn Efyrnwy (13 milltir). Fodd bynnag, oherwydd eich bod ar wyliau mewn bwthyn gyda twb poeth, efallai byddai'n well gennych gael bwyd parod wedi ei gludo i’ch bwthyn.

Ystyrir tref y Bala fel prif ddinas antur Cymru gan ei bod yn darparu gweithgareddau chwaraeon dwr o’r radd flaenaf gyda Llyn Bala (500 metr i ffwrdd) sy'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau megis canwio, hwylio, hwylfyrddio, cerdded ceunentydd a’r Ganolfan Rafftio Dwr Gwyn (4 milltir). Gellir hefyd fynd i wîb-gartio ar gyflymder uchel yng Ngherrigydrudion (12 milltir), Sorbio (8 milltir) a nifer o weithgareddau eraill megis cwrs rhaffau uchel ym Metws y Coed a chanolfan beicio mynydd yng Nghoed y Brenin. Mae’r cwrs Go Ape hefyd yn cynnig diwrnod llawn hwyl.

Os ydy’n well gennych ymlacio ar eich gwyliau, mae yna nifer o fynyddoedd a theithiau cerdded hardd gerllaw, heb son am y llwybr beicio a thrên bach Llyn Tegid, y llyn naturiol mwyaf yng Nghymru. Mae eich bwthyn hunan-ddarpar yn darparu sylfaen wych i archwilio Eryri a Gogledd Cymru. Argymhellir nifer o weithgareddau megis Portmeirion (25 milltir) a Rheilffordd Ucheldir Cymru (27 milltir).

Cerdded

Llyn Tegid - taith gerdded hyd at 10 milltir o amgylch y llyn prydferth 4 milltir o hyd (0.3 milltir o’r bwthyn)

Mae cadwyn mynyddoedd yr Aran yn cynnig 14 copa uwchben 2000 o droedfeddi. Mae’r llwybr cerdded ar hyd y gefnen yn cynnwys dau o’r prif gopaon, Aran Fawddwy (2969 troedfedd) ac Aran Benllyn (2904 troedfedd). Llwybr yn cychwyn yn Llanuwchllyn (5 milltir)

Mae gan gadwyn mynyddoedd yr Arenig 13 o gopaon dros 2,000 o droedfeddi, gan gynnwys Arenig Fawr a Moel Llyfnant. Llwybr yn cychwyn ger Llyn Celyn (4 milltir)

Beicio / Beicio Mynydd

Llyn Bala - gellir beicio ar hyd y llwybr 10 milltir hardd hwn o amgylch y llyn (0.3 milltir o’ch bwthyn)

Llyn Celyn - 15 milltir o lwybr cylchol o amgylch y llyn (4 milltir)

Canolfan Beicio Mynydd Antur Stiniog, Blaenau Ffestiniog (18 milltir)

Canolfan Beicio Mynydd Coed-y-Brenin - llwybrau addas ar gyfer pob oed (23 milltir)

Gellir llogi beiciau yn yr ardal

Pysgota

Y man agosaf yw Llyn Bala (0.3 milltir)

Chwaraeon Dwr

Llyn Bala - hwylio, canwio, caiacio, hwylfyrddio, adeiladu rafft a.y.b. (0.3 milltir)

Canolfan Rafftio Dwr Gwyn, Canolfan Tryweryn - rafftio dwr gwyn, caiacio a chanwio (4 milltir)

Golff

Clwb Golff Bala - cwrs golff 10 twll gyda golygfeydd bendigedig dros gefn gwlad Gogledd Cymru (1 filltir)

Merlota

Canolfan Ferlota Bwlchgwyn. Addas i bawb dros 4 oed (25 milltir)

Traethau

Traeth Abermaw - traeth hir, tywodlyd sydd â gwobr Baner Las (27 milltir)

Traeth Morfa Bychan - 3 milltir o draeth tywodlyd (27 milltir)