- £616 yr wythnos
- £88 y noson
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
Nodweddion Arbennig
- Tân agored neu stôf goed
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 3 o welyau king/super-king
- 2 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Wedi ei leoli mewn safle unigryw ar gyrion tref farchnad y Bala, mae'r bwthyn hardd hwn o fewn tafliad carreg i bopeth yr ydych eu hangen. Mae Ysgubor Llew Coch yn cynnig lleoliad cefn gwlad, gyda manteision bwytai, caffis, tafarndai a siopau ar stepen y drws.
Eisteddwch o amgylch y stôf goed neu y tu allan ar y patio preifat i fwynhau golygfeydd ar draws caeau agored. Mae Llyn Tegid a'i holl weithgareddau dwr ond 500 metr i ffwrdd. Mae yna hefyd stêm trên yn rhedeg gydag ochr y llyn, yn ogystal â nifer o atyniadau gerllaw yn cynnwys canolfan rafftio dwr gwyn, Zip World a Bounce Below.
Os hoffech aduniad mwy gyda'ch teulu neu ffrindiau, yna mae dau fwthyn arall ar yr un safle - Stabal Llew Coch (cysgu 4) a Côr Llew Coch (cysgu 2).
Llawr Gwaelod
Cegin - cegin foethus gyda'r holl offer, bwrdd bwyta derw ac 8 cadair. Yn cynnwys meicrodon, popty, oergell/rhewgell, peiriant golchi llestri a pheiriant golchi/sychu dillad. Gwres o dan y llawr gwaelod.
Lolfa - soffa gornel a soffa arall i ddau. Stôf goed, teledu ar y wal, drysau patio yn arwain i'r tu allan.
Ystafell wely 1 - gwely derw moethus maint king, cypyrddau dillad a theledu ar y wal.
Ystafell ymolchi - cawod wlaw, basn, toiled a rheilen sychu tywelion.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 2 - gwely maint king y gellir ei rannu'n ddau wely sengl 2'6" (dywedwch wrth archebu sut yr hoffech y gwely). Dodrefn derw a theledu.
Ystafell wely 3 - ystafell helaeth gyda gwely maint king, nenfwd uchel gyda trawstiau. Cypyrddau dillad a theledu.
Ystafell ymolchi - gyda basn fodern a thoiled. Cawod dros y baddon a rheilen sychu tywelion.
Gardd
Patio preifat gyda dodrefn gardd a gwely blodau, gyda mynediad drwy ddrysau patio. Golygfeydd dros gaeau agored tuag at fryniau Eryri ar y gorwel.
Barbaciw siarcol ar gael - gellir gwneud cais amdano gan y perchennog yn ystod eich arhosiad. Bydd yn rhaid talu blaendal o £20 fydd yn cael ei ad-dalu os bydd y barbaciw yn cael ei ddychwelyd yn yr un cyflwr. Siarcol ar gael yn nhref Bala.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, siwgwr, llaeth a chacennau cri
- Dillad gwelyau, tywelion a 3 sychwr gwallt ar gael
- Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig. Gwres dan y llawr gwaelod.
- Basged cychwynol o goed tân. Mwy o goed ar gael am £5 y fasged.
- Cot a chadair uchel ar gael os dymunir
- Digon o le parcio y tu allan i'r bwthyn
- Mae'r perchnogion ar gael ar y safle i ateb unrhyw gwestiynau, gwybodaeth lleol ayb os oes angen
- Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu y tu mewn i'r bwthyn
- WIFI ar gael
- Dywedwch wrth archebu sut yr hoffech y gwely wedi ei wneud fyny yn ystafell wely 2
- Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad -
- Cegin - pupur a halen, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, hylif/tabledi i'r peiriant golchi dillad, clytiau newydd, tywel sychu llestri a ffoil
- Ystafell ymolchi - sebon hylif a 2 rolyn papur ar gyfer pob toiled