Cor Llew Coch

Bala, North Wales Snowdonia

  • 5 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer20% offer on Spring holidays - 12th April - 2nd May

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £412 yr wythnos
  • £59 y noson
  • 5 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mwynhewch wyliau i ddau yn Eryri yn y bwthyn hwn sydd wedi ei adnewyddu'n foethus yn nhref farchnad y Bala. Mae'r bwytai, caffis, siopau a thafarndai i gyd o fewn pellter cerdded, yn ogystal â Llyn Tegid gyda'i ystod o weithgareddau dwr, llwybr cylchol a trên stêm, Mae nifer o atyniadau eraill heb fod ymhell, yn cynnwys rafftio dwr gwyn, Zip World, Bounce Below, beicio mynydd a thraethau hardd. 

Os hoffech aduniad mwy gyda'ch teulu neu ffrindiau, yna mae dau fwthyn arall ar yr un safle - Ysgubor Llew Coch (cysgu 6) a Stabal Llew Coch (cysgu 4).

Llawr Gwaelod

Cegin/lolfa ar gynllun agored gyda gwres dan y llawr.   

Cegin gyda peiriant golchi llestri, meicrodon, popty, hob serameg, oergell/rhewgell a pheiriant golchi dillad.    

Mae'r lolfa yn cynnwys soffa fawr, teledu ar y wal a bwrdd bwyta.    

Llawr Cyntaf

Ystafell hardd gyda gwely maint king, teledu, dodrefn derw a thrawstiau.   

Ystafell ymolchi gyda cawod dros y baddon, basn fodern, toiled, rheilen sychu tywelion, drych gyda goleuadau a pwynt siafio.   

Gardd

Patio bach yng nghefn ac o flaen y llety. Bwrdd a chadeiriau i 2. 

Barbaciw siarcol ar gael - gellir gwneud cais amdano gan y perchennog yn ystod eich arhosiad. Bydd yn rhaid talu blaendal o £20 fydd yn cael ei ad-dalu os bydd y barbaciw yn cael ei ddychwelyd yn yr un cyflwr. Siarcol ar gael yn nhref Bala. 

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, siwgwr, llaeth a chacennau cri  
  • Dillad gwelyau, tywelion a sychwr gwallt ar gael   
  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig
  • Cot a chadair uchel ar gael os dymunir 
  • Haearn a bwrdd smwddio ar gael 
  • Digon o le parcio y tu allan i'r bwthyn   
  • Mae'r perchnogion ar gael ar y safle i ateb unrhyw gwestiynau, gwybodaeth lleol ayb os oes angen   
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu y tu mewn i'r bwthyn      
  • WIFI ar gael
  • Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad -
    • Cegin - pupur a halen, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, hylif/tabledi i'r peiriant golchi dillad, clytiau newydd, tywel sychu llestri a ffoil    
    • Ystafell ymolchi - sebon hylif a 2 rolyn papur toiled   

Lleoliad

Wedi ei leoli oddi mewn i fuarth caeedig ar gyrion tref farchnad y Bala, mae Côr Llew Coch yn cynnig safle preifat gyda'r fantais o fod o fewn pellter cerdded i fwytai, caffis, siopau a thafarndai. Rhan o adeiladau fferm wedi eu hadnewyddu ar beth oedd ar un adeg yn fferm deuluol y perchennog, mae gennych hefyd yr opsiwn o ddod â theulu a ffrindiau gyda chi i ddau fwthyn arall ar y safle (yn cysgu 4 a 6). 

Mae tref farchnad Gymreig gartrefol y Bala, yn cynnig amrywiaeth eang o siopau, caffis, bwytai a thafarndai. Mae yna ganolfan hamdden (ystafell ffitrwydd, pwll dan do a llithren) ond 500 metr i ffwrdd. Y Cwrt, Y Plas Coch a’r Llew Gwyn yw rhai o dafarndai gorau’r dref ac maent i gyd o fewn pellter cerdded.

Ymhlith y llefydd gorau i fwyta mae Gwesty’r Llew Gwyn, Y Plas Coch, Plas yn Dre, Bala Spice ac Y Cwrt. Mae’n werth mynd am dro yn y car i westy'r Eryrod yn Llanuwchllyn (5 milltir) a Bwyty Llyn Efyrnwy (13 milltir). Fodd bynnag, oherwydd eich bod ar wyliau mewn bwthyn gyda twb poeth, efallai byddai'n well gennych gael bwyd parod wedi ei gludo i’ch bwthyn.

Ystyrir tref y Bala fel prif ddinas antur Cymru gan ei bod yn darparu gweithgareddau chwaraeon dwr o’r radd flaenaf gyda Llyn Bala (500 metr i ffwrdd) sy'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau megis canwio, hwylio, hwylfyrddio, cerdded ceunentydd a’r Ganolfan Rafftio Dwr Gwyn (4 milltir). Gellir hefyd fynd i wîb-gartio ar gyflymder uchel yng Ngherrigydrudion (12 milltir), Sorbio (8 milltir) a nifer o weithgareddau eraill megis cwrs rhaffau uchel ym Metws y Coed a chanolfan beicio mynydd yng Nghoed y Brenin. Mae’r cwrs Go Ape hefyd yn cynnig diwrnod llawn hwyl.

Os ydy’n well gennych ymlacio ar eich gwyliau, mae yna nifer o fynyddoedd a theithiau cerdded hardd gerllaw, heb son am y llwybr beicio a thrên bach Llyn Tegid, y llyn naturiol mwyaf yng Nghymru. Mae eich bwthyn hunan-ddarpar yn darparu sylfaen wych i archwilio Eryri a Gogledd Cymru. Argymhellir nifer o weithgareddau megis Portmeirion (25 milltir) a Rheilffordd Ucheldir Cymru (27 milltir).

Cerdded

Llyn Tegid - taith gerdded hyd at 10 milltir o amgylch y llyn prydferth 4 milltir o hyd (0.3 milltir o’r bwthyn)

Mae cadwyn mynyddoedd yr Aran yn cynnig 14 copa uwchben 2000 o droedfeddi. Mae’r llwybr cerdded ar hyd y gefnen yn cynnwys dau o’r prif gopaon, Aran Fawddwy (2969 troedfedd) ac Aran Benllyn (2904 troedfedd). Llwybr yn cychwyn yn Llanuwchllyn (5 milltir)

Mae gan gadwyn mynyddoedd yr Arenig 13 o gopaon dros 2,000 o droedfeddi, gan gynnwys Arenig Fawr a Moel Llyfnant. Llwybr yn cychwyn ger Llyn Celyn (4 milltir)

Beicio / Beicio Mynydd

Llyn Bala - gellir beicio ar hyd y llwybr 10 milltir hardd hwn o amgylch y llyn (0.3 milltir o’ch bwthyn)

Llyn Celyn - 15 milltir o lwybr cylchol o amgylch y llyn (4 milltir)

Canolfan Beicio Mynydd Antur Stiniog, Blaenau Ffestiniog (18 milltir)

Canolfan Beicio Mynydd Coed-y-Brenin - llwybrau addas ar gyfer pob oed (23 milltir)

Gellir llogi beiciau yn yr ardal

Pysgota

Y man agosaf yw Llyn Bala (0.3 milltir)

Chwaraeon Dwr

Llyn Bala - hwylio, canwio, caiacio, hwylfyrddio, adeiladu rafft a.y.b. (0.3 milltir)

Canolfan Rafftio Dwr Gwyn, Canolfan Tryweryn - rafftio dwr gwyn, caiacio a chanwio (4 milltir)

Golff

Clwb Golff Bala - cwrs golff 10 twll gyda golygfeydd bendigedig dros gefn gwlad Gogledd Cymru (1 filltir)

Merlota

Canolfan Ferlota Bwlchgwyn. Addas i bawb dros 4 oed (25 milltir)

Traethau

Traeth Abermaw - traeth hir, tywodlyd sydd â gwobr Baner Las (27 milltir)

Traeth Morfa Bychan - 3 milltir o draeth tywodlyd (27 milltir)