Llety Llew Coch

Bala, North Wales Snowdonia

  • 5 Star
  • Special OfferUp to 20% off Special Offer Discount - selected dates

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £997 yr wythnos
  • £142 y noson
  • 5 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 3 o welyau king/super-king
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 3 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Y lleoliad delfrydol ar gyfer ad-duniad teulu neu ffrindiau, mae Llety Llew Coch yn mwynhau safle unigryw ar gyrion tref farchnad y Bala, o fewn pellter cerdded i fwytai, caffis, siopau a thafarndai. Mae Llyn Tegid, y llyn naturiol mwyaf yng Nghymru hefyd ar stepen y drws, a gellir teithio ar drên stêm ar hyd ochr y llyn i Lanuwchllyn. Ychydig filltiroedd ymhellach mae Canolfan Dwr Gwyn Tryweryn, Zip World, Bounce Below a nifer o atyniadau eraill yn Eryri.

Wedi ei adnewyddu'n foethus gyda nodweddion trawiadol, stôf goed groesawgar, gwres o dan y llawr gwaelod, a patio preifat gyda golygfeydd dros gae agored. Teimlad o gefn gwlad gyda chyfleusterau'r dref. Os hoffech ddod â rhagor o ffrindiau neu deulu, mae yna hefyd fwthyn arall i 4 o'r enw Stabal Llew Coch ar yr un safle.  

Llawr Gwaelod

Cegin 1 - cegin drawiadol gyda'r holl offer angenrheidiol, bwrdd bwyta derw ac wyth cadair. Yn cynnwys meicrodon, popty, oergell/rhewgell, peiriant golchi llestri, a pheiriant golchi/sychu dillad. 

Prif Lolfa - soffa cornel a soffa arall i 2 yn edrych allan dros gae agored. Stôf goed, teledu ar y wal, a drysau patio yn arwain i'r tu allan.

Cegin 2 a Lolfa 2 - cegin/ardal fyw agored arwahan. Cegin yn cynnwys peiriant golchi llestri, meicrodon, popty, hob serameg, oergell/rhewgell a pheiriant golchi dillad. Yn yr ardal fyw fe geir soffa gyfforddus, teledu ar y wal a bwrdd bwyta. 

Ystafell wely 1 - gwely derw maint king a chypyrddau dillad gyda teledu ar y wal.

Ystafell ymolchi - gyda cawod wlaw, basn, toiled a rheilen sychu tywelion. 

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 2 - gwely maint king y gellir ei rannu yn ddau wely sengl 2'6" (dywedwch sut yr hoffech y gwelyau wrth archebu, os gwelwch yn dda). Dodrefn derw a theledu.

Ystafell wely 3 - ystafell helaeth gyda gwely maint king, nenfwd uchel a thrawstiau derw. Cypyrddau derw wedi eu peintio, a theledu. 

Ystafell ymolchi 1 - ystafell steilus gyda basn a thoiled, cawod dros y baddon a rheilen sychu tywelion.

Ystafell wely 4 - gyda gwely dwbwl, teledu, cypyrddau dillad a thrawstiau.

Ystafell ymolchi 2 - cawod dros y baddon, basn, toiled, rheilen sychu tywelion, drych gyda goleuadau a pwynt siafio. 

Gardd

Patio preifat gyda dodrefn gardd a gwely blodau, yn union y tu allan i'r brif lolfa gyda mynediad drwy ddrysau patio dwbwl. Golygfeydd dros gae agored a thuag at fryniau Eryri ar y gorwel. 

Barbaciw siarcol ar gael - gellir gwneud cais amdano gan y perchennog yn ystod eich arhosiad. Bydd yn rhaid talu blaendal o £20 fydd yn cael ei ad-dalu os bydd y barbaciw yn cael ei ddychwelyd yn yr un cyflwr. Siarcol ar gael yn nhref Bala. 

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, siwgwr, llaeth a chacennau cri  
  • Dillad gwelyau, tywelion a 4 sychwr gwallt ar gael   
  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig. Gwres o dan y llawr gwaelod     
  • Basgedaid cychwynol o goed tân ar gael. Coed ychwanegol ar gael am £5 y fasged   
  • Cot a chadair uchel ar gael os dymunir  
  • Digon o le parcio y tu allan i'r bwthyn   
  • Mae'r perchnogion ar gael ar y safle i ateb unrhyw gwestiynau, gwybodaeth lleol ayb os oes angen   
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu y tu mewn i'r bwthyn      
  • WIFI ar gael
  • Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad -
    • Cegin - pupur a halen, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, hylif/tabledi i'r peiriant golchi dillad, clytiau newydd, tywel sychu llestri a ffoil    
    • Ystafell ymolchi - sebon hylif a 2 rolyn papur ar gyfer pob toiled   
  • Dywedwch sut yr hoffech y gwelyau yn ystafell wely 2 wrth archebu - gwely maint king neu dau wely sengl   

Lleoliad

Mwynhewch ystod o adnoddau ac atyniadau ar stepen drws Llety Llew Coch. Wedi ei leoli oddi mewn i breifatrwydd iard gaeedig (a arferai fod yn fuarth fferm y perchnogion), mae'r bwthyn dafliad carreg o dref farchnad y Bala gyda'i ystod o gaffis, bwytai, siopau a thafarndai. Gyda'i gornel preifat ei hun oddi mewn i'r iard, mae'r bwthyn yn gwynebu allan dros dir amaethyddol a thuag at fryniau Eryri.  

Mae tref farchnad Gymreig gartrefol y Bala, yn cynnig amrywiaeth eang o siopau, caffis, bwytai a thafarndai. Mae yna ganolfan hamdden (ystafell ffitrwydd, pwll dan do a llithren) ond 500 metr i ffwrdd. Y Cwrt, Y Plas Coch a’r Llew Gwyn yw rhai o dafarndai gorau’r dref ac maent i gyd o fewn pellter cerdded.

Ymhlith y llefydd gorau i fwyta mae Gwesty’r Llew Gwyn, Y Plas Coch, Plas yn Dre, Bala Spice ac Y Cwrt. Mae’n werth mynd am dro yn y car i westy'r Eryrod yn Llanuwchllyn (5 milltir) a Bwyty Llyn Efyrnwy (13 milltir). Fodd bynnag, oherwydd eich bod ar wyliau mewn bwthyn gyda twb poeth, efallai byddai'n well gennych gael bwyd parod wedi ei gludo i’ch bwthyn.

Ystyrir tref y Bala fel prif ddinas antur Cymru gan ei bod yn darparu gweithgareddau chwaraeon dwr o’r radd flaenaf gyda Llyn Bala (500 metr i ffwrdd) sy'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau megis canwio, hwylio, hwylfyrddio, cerdded ceunentydd a’r Ganolfan Rafftio Dwr Gwyn (4 milltir). Gellir hefyd fynd i wîb-gartio ar gyflymder uchel yng Ngherrigydrudion (12 milltir), Sorbio (8 milltir) a nifer o weithgareddau eraill megis cwrs rhaffau uchel ym Metws y Coed a chanolfan beicio mynydd yng Nghoed y Brenin. Mae’r cwrs Go Ape hefyd yn cynnig diwrnod llawn hwyl.

Os ydy’n well gennych ymlacio ar eich gwyliau, mae yna nifer o fynyddoedd a theithiau cerdded hardd gerllaw, heb son am y llwybr beicio a thrên bach Llyn Tegid, y llyn naturiol mwyaf yng Nghymru. Mae eich bwthyn hunan-ddarpar yn darparu sylfaen wych i archwilio Eryri a Gogledd Cymru. Argymhellir nifer o weithgareddau megis Portmeirion (25 milltir) a Rheilffordd Ucheldir Cymru (27 milltir).

Cerdded

Llyn Tegid - taith gerdded hyd at 10 milltir o amgylch y llyn prydferth 4 milltir o hyd (0.3 milltir o’r bwthyn)

Mae cadwyn mynyddoedd yr Aran yn cynnig 14 copa uwchben 2000 o droedfeddi. Mae’r llwybr cerdded ar hyd y gefnen yn cynnwys dau o’r prif gopaon, Aran Fawddwy (2969 troedfedd) ac Aran Benllyn (2904 troedfedd). Llwybr yn cychwyn yn Llanuwchllyn (5 milltir)

Mae gan gadwyn mynyddoedd yr Arenig 13 o gopaon dros 2,000 o droedfeddi, gan gynnwys Arenig Fawr a Moel Llyfnant. Llwybr yn cychwyn ger Llyn Celyn (4 milltir)

Beicio / Beicio Mynydd

Llyn Bala - gellir beicio ar hyd y llwybr 10 milltir hardd hwn o amgylch y llyn (0.3 milltir o’ch bwthyn)

Llyn Celyn - 15 milltir o lwybr cylchol o amgylch y llyn (4 milltir)

Canolfan Beicio Mynydd Antur Stiniog, Blaenau Ffestiniog (18 milltir)

Canolfan Beicio Mynydd Coed-y-Brenin - llwybrau addas ar gyfer pob oed (23 milltir)

Gellir llogi beiciau yn yr ardal

Pysgota

Y man agosaf yw Llyn Bala (0.3 milltir)

Chwaraeon Dwr

Llyn Bala - hwylio, canwio, caiacio, hwylfyrddio, adeiladu rafft a.y.b. (0.3 milltir)

Canolfan Rafftio Dwr Gwyn, Canolfan Tryweryn - rafftio dwr gwyn, caiacio a chanwio (4 milltir)

Golff

Clwb Golff Bala - cwrs golff 10 twll gyda golygfeydd bendigedig dros gefn gwlad Gogledd Cymru (1 filltir)

Merlota

Canolfan Ferlota Bwlchgwyn. Addas i bawb dros 4 oed (25 milltir)

Traethau

Traeth Abermaw - traeth hir, tywodlyd sydd â gwobr Baner Las (27 milltir)

Traeth Morfa Bychan - 3 milltir o draeth tywodlyd (27 milltir)