Glan Donau

Bala, North Wales Snowdonia

  • 4 Star Gold
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £451 yr wythnos
  • £64 y noson
  • 4 Star Gold

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Ystafell chwaraeon
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 3 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Ar un lefel, dim grisiau
  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Bwthyn wedi ei adnewyddu yn ddiweddar, yn sefyll ar ben ei hun, gydag ystafell chwaraeon a gardd gaeedig. Wedi ei leoli oddi mewn i Barc Cenedlaethol Eryri, gyda golygfeydd trawiadol o'r mynyddoedd o gwmpas, a mynediad cyfleus i'r adnoddau gwych sydd i'w darganfod yn yr ardal. Mae tref farchnad Bala yn cynnig ystod o siopau, tafarndai a bwytai, ac yn gartref i Lyn Tegid, y llyn naturiol mwyaf yng Nghymru sy'n adnabyddus am ei gyfleoedd chwaraeon dŵr a hwylio.

Llawr Gwaelod

Cegin, ardal fwyta a lolfa cynllun agored gyda digon o olau naturiol.

Cegin - modern gyda peiriant golchi llestri, popty a hob infusion, oergell/rhewgell fawr a meicrodon. Ystafell iwtiliti gyda peiriant golchi/sychu dillad a toiled.

Ardal fwyta gyda bwrdd derw a chadeiriau gyda golygfeydd o gefn gwlad drwy'r drysau patio sy'n arwain allan i'r ardd gefn.

Lolfa gysurus gyda teledu Smart 40" a chwaraewr DVD, stôf drydan a soffas lledr. Llyfrau a gemau bwrdd ar gael.

Ystafell wely 1 - gwely maint king, byrddau bach ger y gwely a lle i storio dillad.

Ystafell wely 2 - dau wely sengl, cypyrddau a storfa.

Ystafell wely 3 - gwely sengl a chypyrddau dillad.

Ystafell ymolchi gyda cawod fawr, baddon, toiled a basn.

Gardd

Mae'r garej wedi ei thrawsnewid i ystafell chwaraeon gyda bwrdd pŵl llechen a cabinet dartiau.

Lawnt fawr a chaeedig yn amgylchynu'r bwthyn. Lleoliad heddychlon â golygfeydd anhygoel o gefn gwlad a mynydd Arenig gyda bwrdd picnic a chadeiriau. 

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, siwgwr a llaeth, yn ogystal â chacen gartref a menyn Cymreig  
  • Dillad gwelyau, tywelion a sychwr gwallt ar gael   
  • Gwres ganolog a thrydan yn gynwysedig   
  • Cot a chadair uchel ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot    
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu tu mewn y bwthyn    
  • Wifi ar gael
  • Haearn a bwrdd smwddio ar gael   
  • Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri, tabledi i'r peiriant golchi llestri, clytiau newydd, ffoil, a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: sebon hylif, 2 bapur toiled 
  • Digon o le parcio preifat y tu allan i'r bwthyn   

Lleoliad

Bwthyn yn sefyll ar ben ei hun, oddi mewn i ardd dawel a chaeedig sy'n mwynhau golygfeydd gwych o gefn gwlad. Hanner milltir o bentref y Parc sy'n sefyll ar lan yr afon Llafar ac yn fan cychwyn i nifer o lwybrau cerdded a beicio. Mae'r bwthyn yn cynnig mynediad i holl adnoddau gwych yr ardal. 

Mae'r dafarn/bwyty agosaf, Tafarn yr Eryrod, ym mhentref Llanuwchllyn (3.5 milltir), ac mae hefyd yn gartref i siop y pentref. Mae tref farchnad brysur y Bala (4 milltir) yn cynnig ystod o adnoddau, yn cynnwys archfarchnad, siopau annibynnol, caffis, tafarndai a bwytai. Mae yma hefyd sinema draddodiadol a Chanolfan Hamdden.

Fe orwedd y Bala oddi mewn i Barc Cenedlaethol Eryri ger Llyn Tegid, llyn naturiol mwyaf Cymru a chartref i bysgodyn unigryw o'r enw y Gwyniad, sydd wedi goroesi o Oes yr Iâ. Yn enwog fel canolfan chwaraeon dŵr megis pysgota, hwylio, canŵio, syrffio a rafftio, mae'r Bala hefyd yn bencadlys Rheilffordd lein fach Llyn y Bala. Wedi ei amgylchynu gan fynyddoedd y Berwyn ar un ochr a chadwyn Mynyddoedd Eryri ar yr ochr arall, dyma fan delfrydol ar gyfer dringo, cerdded, beicio mynydd a nifer o weithgareddau awyr agored eraill megis Zip World Bounce Below (20 milltir). 

Lleoliad delfrydol ar gyfer teithio o gwmpas Gogledd a Chanolbarth Cymru, ac arfordir trawiadol Bae Ceredigion. Gellir ymweld â thref boblogaidd Dolgellau (16 milltir) ble cynhelir marchnad y ffermwyr yn fisol, neu Betws y Coed, sy'n enwog am ei rhaeadr ewynnog a'i phyllau dŵr. Gydag atyniadau a gweithgareddau niferus drwy'r ardal, dyma leoliad gwych sydd yn darparu ar gyfer pob diddordeb.

Cerdded

  • Digon o lwybrau cerdded o stepen y drws, drwy dir fferm ac o bentref y Parc (o fewn 0.5 milltir)  
  • Llyn Tegid – llwybr hyd at 10 milltir o gwmpas y llyn 4 milltir o hyd (2 filltir)   
  • Mynyddoedd yr Aran - 14 copa dros 2,000 troedfedd, yn cynnwys Aran Fawddwy (2969tr) ac Aran Benllyn (2904tr). Llwybr yn cychwyn o Lanuwchllyn (3.5 milltir)   
  • Mynyddoedd Arenig - 13 copa dros 2,000tr, yn cynnwys Arenig Fawr a Moel Llyfnant. Llwybr yn cychwyn ger Llyn Celyn (10 milltir)   

Beicio

  • Mae'r lonydd tawel o gwmpas y bwthyn yn berffaith ar gyfer beicio gyda llwybr beicio penodol yn cychwyn o'r Parc (0.5 milltir) 
  • Llyn Tegid - gellir beicio y 10 milltir o gwmpas y llyn (2 filltir)  
  • Llyn Celyn – llwybr cylchol 15 milltir o hyd o gwmpas y llyn (10 milltir)   
  • Canolfan Beicio Mynydd Antur Stiniog, Blaenau Ffestiniog (20 milltir)
  • Canolfan Beicio Mynydd Coed-y-Brenin – addas ar gyfer pob oed (23 milltir)   
  • Gellir llogi beiciau yn yr ardal   

Pysgota

Nifer o gyfleoedd i bysgota yn yr ardal - yr agosaf yw Llyn Tegid (2 filltir)  

Chwaraeon Dŵr

Golff

Clwb Golff y Bala - cwrs 10 twll gyda golygfeydd anhygoel (5 milltir)   

Marchogaeth

Canolfan Farchogaeth Bwlchgwyn - addas ar gyfer unrhyw un dros 4 oed (24 milltir)   

Traethau