Nant y Llyn

Bala, North Wales Snowdonia

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special OfferEarly Bird offer - 10% discount between 24th May and 25th July
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 5th September 2024

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £873 yr wythnos
  • £125 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Twb poeth
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Golygfeydd o'r llyn

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 2 o welyau dwbl
  • 3 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Llety preifat, yn sefyll ar ben ei hun gyda golygfeydd tuag at Lyn Tegid; mae'r bwthyn hardd a helaeth hwn wedi ei amgylchynu gan ardd gaeedig, 1 filltir o dref farchnad y Bala. Gyda dec mawr yn y ffrynt, dyma leoliad delfrydol i ymgynull, mwynhau pryd o fwyd tu allan, ac eistedd nôl i wylio machlud haul gyda'r nôs. 

Mae Llyn Tegid (llyn naturiol mwyaf Cymru) o fewn taith gerdded 15 munud, yn cynnig ystod o chwaraeon dwr a taith ar drên stêm gydag ochr y llyn. Mae tref Bala 20 munud i ffwrdd ar droed, gyda caffis, siopau, tafarndai a bwytai. Mae nifer o lwybrau cerdded a beicio o stepen y drws a nifer o atyniadau ac anturiaethau heb fod ymhell. Mae rhain yn cynnwys Canolfan Genedlaethol Dwr Gwyn, Zip World a Bounce Below, trefi marchnad a chestyll, i enwi ond rhai. 

Llawr Gwaelod

  • Prif Ardal Fyw: Cynllun agored gyda cegin newydd sy'n cynnwys offer modern. Bwrdd fferm mawr gyda meinciau a chadeiriau. Soffa gornel ledr, teledu, system wresogi Stanley. Gyda golygfeydd o bob ffenestr tuag at Lyn Tegid, mae'r ardal fyw gyda mynediad drwy ddrysau gwydr allan i'r dec, sydd yn rhannol dan do.  
  • Lolfa Arwahan: Ardal dawel, heddychlon a chysurus. Soffa gornel, bwrdd coffi, teledu gyda chwaraewr DVD. Mynediad allan i'r dec a golygfeydd tuag at Lyn Tegid.    
  • Ystafell Wely 1: Gwely dwbl ac un gwely sengl gyda lle i eistedd i fwynhau golygfeydd o'r ardd drwy ddrysau gwydr. Mynediad rhwydd i gadair olwyn.  
  • Ystafell Gawod: cawod gyda basn a thoiled - mynediad rhwydd o'r cyntedd a'r ystafell wely.   

Llawr Cyntaf

  • Ystafell Wely 2: Ystafell fodern hufen a glâs gydag un gwely maint king ac un gwely sengl. Cypyrddau dillad a golygfeydd tuag at fynyddoedd y Berwyn. 
  • Ystafell Wely 3: Ystafell fawr arall gydag un gwely dwbl ac un gwely sengl. Ffenestri Velux i wneud y mwyaf o'r golygfeydd. Cypyrddau dillad.  
  • Ystafell Ymolchi: Dull modern gyda bath cornel, basn a thoiled. Rheilen tywelion a ffenestr Velux.  

Gardd

  • Dec o amgylch y llety yn rhannol o dan do. Bwrdd picnic pren ac ardal eistedd fodern ar gyfer ymlacio. Gardd fawr ar wahanol lefelau, gyda mynediad o'r dec.    
  • Golygfeydd panoramig o Lyn Tegid a'r mynyddoedd.   
  • Barbaciw nwy ar gael.  
  • Twb poeth ar gael

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig      
  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig      
  • Cot trafeilio, cadair uchel a gât i'r grisiau ar gael os dymunir. Dewch â'ch dillad eich hun i'r cot. Gât y grisiau ar y llawr cyntaf. 
  • Dim anifeiliaid anwes   
  • Dim ysmygu tu mewn y llety  
  • Parcio ar gyfer 5+ o geir oddi mewn i'r ardd gaeedig     

Lleoliad