- £407 yr wythnos
- £58 y noson
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- 1 Pet
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
Nodweddion Arbennig
- WiFi
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Mwynhewch y llety hunan ddarpar chwaethus hwn sy’n caniatáu anifeiliaid, wedi ei leoli yng nghanol cefn gwlad hyfryd. Mae Bala a Corwen 10 munud i ffwrdd yn y car o fwthyn gwyliau Crud y Werin. I’r de, mae tref farchnad Bala yng nghanol ysblander Eryri ac mae’n enwog am ei lyn enwog, chwaraeon dwr ac atyniadau poblogaidd i dwristiaid. Mae taith fer i’r gogledd yn dod a chi i Gorwen, cwrs go-cartio pencampwriaeth, tref gamlas Llangollen a llawer mwy. Mae Crud y Werin felly’n fan gwych os ydych yn edrych am hoe heddychlon neu wyliau’n llawn gweithgareddau.
Llawr Gwaelod
Cegin / Ystafell fwyta – Mae’r ysgubor yma sydd wedi ei adnewyddu’n ddiweddar wedi cadw nifer o’i drawstiau a nodweddion gwreiddiol. Mae gan y gegin / ystafell fwyta lawr llechfaen, unedau cegin derw a modern gydag oergell ac adran rewgell ynddo, micro-don a phopty.
Golau, eang ac wedi ei addurno’n chwaethus gyda bwrdd bwyta i bedwar a llefydd eistedd cyfforddus ar gyfer darllen neu wylio’r teledu.
Ystafell fyw - Dau ris lechfaen yn arwain lawr at ystafell eistedd glud gyda sofa lliw hufen a dwy gadair. Mae gan yr ystafell hon lawr derw cadarn, trawstiau traddodiadol a silffoedd ffenestr ddofn. Mae’n ystafell olau iawn gyda theledu, chwaraewr DVD a bocs o deganau i blant.
Llawr Cyntaf
Ceir grisiau derw cadarn goleuedig yn arwain at y llawr cyntaf a dau banel gwydr â rheilen law dderw ar y balconi. Mae gan y balconi eang lawr a drysau o dderw cadarn. Wrth yr ystafell dwin mae cadair ddarllen a bwrdd gwisgo bach.
Ystafell wely ddwbl - Tri gris derw yn arwain lawr i’r brif ystafell ddwbl. Mae’r ystafell yn fawr ac agored gyda tho uchel yn gostwng, trawstiau traddodiadol, dwy ffenestr velux yn y to ac un ffenestr ar lefel y llawr gyda bracedau diogelwch. Llawr derw cadarn gyda bwrdd gwisgo hynafol, cistiau ger y gwely a chadair, teledu a gwely dwbl modern ar gyfer moethusrwydd llwyr. Ystafell gawod en-suite gyda chawod, toiled a rheilen dywel wedi’i chynhesu.
Ystafell wely twin - Mae’r ystafell hon eto’n fawr a golau gyda ffenestr fawr â bracedau diogelwch ac un ffenestr velux. Mae’r dillad gwely’n lliwgar a hwylus, ac mae’r ystafell yn cynnwys trawstiau traddodiadol, llawr a drysau derw cadarn, to sy’n gostwng, cwpwrdd a chistiau ger y gwely.
Ystafell ymolchi - bath gydag uned gawod ar y tapiau, toiled, basn gyda chwpwrdd, rheilen dywel wedi’i chynhesu a phwynt eillio. Ystafell wedi ei theisio i gyd.
Gardd
Mae gan fwthyn gwyliau Crud y Werin ardd gaeedig ei hun gyda golygfeydd hyfryd dros y dyffryn. Dodrefn patio, barbeciw ac ardal gyda lawnt yn gynwysedig.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Mae Crud y Werin drws nesaf i fwthyn Crud y Wennol sy’n cysgu 2. Byddai hyn, os fyddai angen yn darparu llety i 6 gwestai i gyd.
- Lleiniau gwely, tywelion dwylo a bath yn cael eu darparu.
- Gwres a thrydan yn gynwysedig.
- Croeso i anifeiliaid anwes – 1 ci bach. Tâl ychwanegol o £10.00.
- Darperir wi-fi ond yn gyfyngedig ac ond yn addas ar gyfer pori’r we.
- Darperir cot a chadair uchel a gais.
- Digon o lefydd parcio tu allan i’r bwthyn.