- Cysgu 6 o bobl
- 3 Ystafell wely
- 2 Ystafell ymolchi
- Ymddiheuriadau, ni chaniateir anifeiliaid anwes
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
Disgrifiad
Mae Stabal y Cwrt yn adeilad cerrig ar fferm weithiol sydd wedi ei adnewyddu’n chwaethus gyda thoeau trawstiog a stôf llosgi coed, sy’n creu awyrgylch gynnes a chlud. Mae hefyd ystafell gemau ar y safle a digon o gyfleoedd i weld yr anifeiliaid fferm. Mae’r bwthyn gwyliau hwn yn Aberdyfi hefyd wedi ei leoli rhwng tref glan y môr Aberdyfi (6 milltir) a Machynlleth, prifddinas hynafol Cymru (5 milltir). Traeth tywodlyd, llwybrau cerdded mynydd, atyniadau poblogaidd a bwytai hyfryd i gyd ar garreg eich drws, heb anghofio Llwybr Arfordirol Cymru, 400 llath yn unig i ffwrdd.
Llawr Gwaelod
Ystafell fyw / ystafell fwyta / cegin ar gynllun agored gyda stôf losgi coed. Mae gan yr ystafell fyw deledu a chwaraewr DVD.
Mae’r gegin yn cynnwys popty trydan, oergell (gyda blwch rhewgell fach), micro-don a pheiriant golchi llestri. Mae yna hefyd rewgell fawr yn y golchdy drws nesaf os oes angen mwy o le.
Mae’r ystafell wely ddwbl, en-suite ar y llawr gwaelod yn addas ar gyfer gwestai anabl. Mae’n cynnwys wal gerrig ac mae gan yr ystafell en-suite sedd yn y gawod.
Llawr Cyntaf
Ystafell ddwbl mawr gyda gwely “sleigh”, cistiau ger y gwely, bwrdd gwisgo a chwpwrdd dillad. Mae’n cynnwys wal gerrig ac ardal eistedd.
Ystafell twin gyda tho trawstiog, cwpwrdd dillad a chistiau. Golygfeydd bendigedig yn edrych dros y cwm.
Prif ystafell ymolchi gyda bath maint llawn, toiled a basn golchi.
Gardd
Mae gan y bwthyn gwyliau yma yn Aberdyfi lawnt gyda dodrefn gardd.
Mae adeilad fferm sydd wedi ei adnewyddu hefyd yn cael ei ddefnyddio fel ystafell olchi dillad ac ystafell gemau ar gyfer y tri bwthyn gwyliau ar y safle. Mae’r ystafell gemau yn cynnwys bwrdd p?l a bwrdd dartiau.
*Nid yw'r ystafell olchi dillad/gemau a'r gael tan Mis Chwefror 2015*
Bydd hefyd cyfleoedd i weld yr anifeiliaid fferm ar y buarth ac yn y caeau o’ch amgylch.
Gwybodaeth Ychwanegol
- I’ch croesawu bydd te, coffi ayb a chacennau cri cartref.
- Lleiniau gwely, tywelion dwylo a bath a sychwr gwallt yn cael eu darparu.
- Gwres canolog olew a thrydan yn gynwysedig.
- Darperir cot teithio a chadair uchel ar gais. Dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot.
- Dim ysmygu nac anifeiliaid anwes tu mewn i’r bwthyn gwyliau hwn.
- Digon o lefydd parcio preifat.
Nodweddion
- Cysgu 6 o bobl
- 3 Ystafell wely
- 2 Gwely dwbl
- 2 Gwely sengl
- 2 Ystafell ymolchi
- Ymddiheuriadau, ni chaniateir anifeiliaid anwes
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Saturday newid
- 6 o draeth
- 1.5 milltir o dafarn
- 1.5 o siop
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ar fferm weithredol
- Parcio preifat
- Dillad gwely yn gynwysedig
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
- Ystafell chwaraeon
- Dim ysmygu
- Tywelion yn gynwysedig
- Dim peiriant sychu dillad
- Dim peiriant golchi
- Addas i'r llai abl
- Cot
- Cadair uchel
- Dim cot symudol ar gael
Prisiau
Map
Calendr
Eitemau Ychwanegol
Holiday Extras
We've hand-picked a selection of Holiday Extras from trusted partners to make your holiday extra special. When you make your booking, you'll see all the Extras on offer at your chosen property and be able to add them to your holiday. Booking them in advance gives you more time to relax when you arrive, and remember - many of these offers are exclusive so you won’t find them anywhere else.

Rib Ride Boat Tours 10% off Anglesey Boat Tour
Book an unbeatable adventure with Wales’ best adventure boat tour company and get 10% off any trip.

Corris Mine Explorers 10% off Mine Exploration Tours
First excavated in 1836, Braich Goch Slate Mine closed around 40 years ago. Go underground and see first-hand the kind of conditions miners had to work in.

King Arthur's Labyrinth 10% off Underground Adventures
Take an exciting trip to the underground caverns and tunnels and learn about the myths and legends of King Arthur where your adventure begins by boat!

Virgin Wines 12 Bottle Classic Wine Selection
This classic case oozes class and is perfect to give you various flavours from across the globe! Enjoy 2 bottles of each wine to encourage sharing or indulgence...
- Normal price
- £115.87
- Price
- £95.50

Virgin Wines 12 Bottle Luxury Wine Selection
This 12 bottle case is packed full of wines to blow you away with flavours and complexities all round – a case guaranteed to impress all who get the pleas...
- Normal price
- £175.87
- Price
- £131.90

Cadw 20% I FFWRDD O AELODAETH CADW
Wrth fod yn aelod o Cadw, mi gewch fynediad diderfyn i dros 100 o safloedd hanesyddol ar draws Cymru.Ar ben hynny, mae aelodaeth Cadw yn cynnwys:50% i ffwrdd o ...

Virgin Wines 6 Bottle Celebratory Wine Selection
A true Prosecco lover's case! No excuse is needed for this beautiful selection (so don’t let others tell you any different!). Start with the wonderful flo...
- Normal price
- £74.93
- Price
- £61.75

Virgin Wines 6 Bottle Classic Wine Selection
This 6 bottle classic case is perfect for those wanting to try something of everything – carefully selected to incorporate crowd pleasers from across the ...
- Normal price
- £60.93
- Price
- £47.95

Europcar Car Hire
Europcar, our preferred car hire partner, are offering you great quality UK car hire at affordable prices. With our dedicated offer you will save up to 20%.

Dineindulge Dineindulge - private dining service
Enjoy private dining in the comfort of your holiday property. Dineindulge offer a personal chef service with restaurant quality cuisine from only £25 per perso...
Pages
Ardal leol
Mae Stabal y Cwrt wedi ei leoli ar fferm yn ne Eryri, hanner milltir o’r briffordd ble mae croeso cynnes Cymreig yn sicr o gael ei roi i chi. Mae hefyd ystafell gemau gyda bwrdd pwl a bwrdd dartiau yn yr ystafell gemau drws nesaf sy’n cael ei rhannu. Mae'r bwthyn clud hwn yn Aberdyfi hefyd mewn lleoliad canolog rhwng traeth tywodlyd pentref glan y môr Aberdyfi (6 milltir) a thref hanesyddol Machynlleth (5 milltir).
Mae siop fach a bwyty/tafarn hyfryd 1.5 milltir i ffwrdd ym mhentref hanesyddol Pennal. Gallwch hefyd gael tylino’r corff a thriniaethau harddwch eraill, neu fwynhau pyllau nofio tu mewn a thu allan yng nghanolfan sba Plas Talgarth ym Mhennal.
Bob ochr i’r llety mae Aberdyfi (6 milltir) a Machynlleth (5 milltir), ac mae’r ddau yn cynnig rhywbeth arbennig. Mae Aberdyfi wedi ei leoli mewn lleoliad hyfryd ble mae’r mynyddoedd yn cyfarfod y môr ac mae’r traeth tywodlyd yno’n ymestyn am 4 milltir, yr holl ffordd i Dywyn. Rhai o’r gweithgareddau sydd ar gael i’w gwneud yno yw cwrs golff 18 twll, llwybrau cerdded hyfryd, chwaraeon dwr, caffis hardd a siopau a nifer o fwytai, ac argymhellir Pharoah’s Cellar Bistro a Sea Breese.
Mae taith fer i’r cyfeiriad arall yn dod a chi i Fachynlleth, prifddinas hynafol Cymru ble mae Senedd-dy cyntaf Cymru’n bodoli hyd heddiw. Mae gan Fachynlleth hefyd y farchnad stryd hynaf ym Mhrydain bob dydd Mercher ac mae’r pethau eraill sydd i’w gwneud yno’n cynnwys llwybrau beicio mynydd, canolfan hamdden ac archfarchnad. Argymhellir bwyty Bistro Twenty One a’r Wynnstay.
Mae atyniadau eraill hefyd o fewn pellter byr i’r bwthyn hwn yn Aberdyfi, o’r Ganolfan Dechnoleg Amgen sy’n enwog yn fyd eang i Ganolfan Grefftau Corris a Labrinth y Brenin Arthur. Mae trên stêm Tal-y-llyn yn cynnig diwrnod gwych ac yn darparu mynediad i nifer o lwybrau cerdded hyfryd. Mae Gwarchodfa Natur Ynys Las yn atyniad poblogaidd arall tra mae Cader Idris yn cynnig golygfeydd anhygoel o’r copa.
Traethau
Traeth Aberdyfi – traeth tywod hir – perffaith ar gyfer gwyliau i’r teulu. 6 milltir o’r bwthyn
Ceir hefyd nifer o draethau eraill cyfagos ar hyd arfordir gogledd Cymru
Cerdded
Llwybr Arfordirol Cymru – gellir ymuno 0.2 milltir o’r bwthyn.
Llwybr y Llyn Barfog – bydd y llwybr 10 milltir yn mynd â chi i fyny i’r bryniau y tu cefn i Aberdyfi at y Llyn Barfog. 6 milltir.
Mae Llwybr Dyffryn Dyfi yn dilyn Afon Dyfi o’r aber yn Aberdyfi at ei tharddiad wrth gopa’r Aran Fawddwy ac yna’n ô li lawr ar hyd ochr ddeheuol yr afon trwy dref Machynlleth a lawr i’r Borth. Gellir cael mapiau a chyfeirlyfrau yn y Ganolfan Croeso yn Aberdyfi. 0.2 milltir o’r bwthyn.
Cadair Idris (llwybr mynydd) – mae’r llwybr agosaf yn cychwyn o Lanfihangel-y-Pennant ac yn dringo’n raddol ar ran deheuol llwybr pilin pwn. 10 milltir i’r copa – gradd ganolig/caled. 18 milltir o’r bwthyn. Llwybrau hefyd ym Minffordd a Dolgellau.
Beicio
Mae’r lôn wledig o’r bwthyn yn ddelfrydol ar gyfer beicio. 0 milltir
Beicio Mynydd Dyfi - Amrywiaeth o lwybrau beicio mynydd, i gyd yn dechrau o Fachynlleth. 5 milltir
Golff
Clwb Golff Aberdyfi – cwrs golff 18 twll. 6 milltir
Clwb Golff Machynlleth – cwrs golff 9 twll. 3.5 milltir
Pysgota
Mae Afon Dyfi yn cynnig pysgota gwych ac mae’n enwog am ei brithyll brown, eog a sewin. 0.5 milltir
Wedi’i amgylchynu gan y môr, afonydd a llynnoedd, dyma un o’r lleoedd gorau sydd ar gael i bysgota. Rhowch dro ar bysgota o’r lan yn Aberdyfi a Thywyn (4 milltir) neu bysgota llyn yn Nhal-y-llyn (14 milltir). Darllenwch ragor am bysgota yn Aberdyfi a’r ardal amgylchynol.
Chwaraeon Dwr
Mae’r Chwaraeon Dwr yn Aberdyfi yn cynnwys hwylio, hwylfyrddio, rhwyfo, canwio, pysgota a thripiau cychod. 6 milltir
Merlota
Canolfan Ferlota Fferm Bwlchgwyn – addas i unrhyw un dros 4 oed. 23 milltir
Adolygiadau