Bwthyn y Cipar

Aberdyfi, North Wales Snowdonia

  • 4 Star
  • Awaiting Grading
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
  • Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May
  • Special Offer15% May Half term - 24th May - 31st May 2024
  • Special Offer15% offer - 31st May - 7th June 2024
  • Special Offer10% october Half Term offer for stays between 18th until 31st October 2024
  • Special Offer15% offer 28th June – 18th July
  • Special Offer10% offer w/c 19th July

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £470 yr wythnos
  • £67 y noson
  • 4 Star
  • Awaiting Grading

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Dringo
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mae’r bwthyn hyfryd hwn yn dyddio o ganol y ddeunawfed ganrif, ac mae ganddo le tân agored. Dyma’r lle perffaith i gael gwyliau ar fferm weithredol yng Nghymru. Mae Ciperdy hefyd mewn lleoliad gwych ger y môr a’r mynyddoedd, gyda digonedd o atyniadau ar eich stepen drws. Mae’r rhain yn cynnwys llwybr arfordirol y gallwch ymuno ag ef 400 llath i ffwrdd, bwytai lleol gwych, traeth tywod godidog Aberdyfi, pentref hanesyddol Pennal a phrifddinas hynafol Cymru, Machynlleth – a hynny heb sôn am Ganolfan y Dechnoleg Amgen a llawer mwy.


Llawr Gwaelod

Mae gan y lolfa / ystafell fwyta groesawgar le tân agored a thrawstiau ar y nenfwd sy’n creu awyrgylch cynnes a chlyd. Darperir teledu a chwaraewr DVD, ynghyd â dodrefn ‘antique’.

Mae amrywiaeth dda o gyfarpar yn y gegin newydd, gan gynnwys ffwrn drydan, oergell a microdon, ac mae hyd yn oed hen ffwrn fara o frics a ganfuwyd wrth wneud gwaith adnewyddu (rhewgell yn yr adeilad fferm allanol). 

Ystafell ymolchi fawr ar y llawr gwaelod gyda bath maint llawn, cawod ddwbl mewn uned ar wahân, tŷ bach a sinc.

Llawr Cyntaf

Mae’r grisiau’n arwain yn syth at ystafell wely ddwbl fawr gyda bwrdd gwisgo a byrddau wrth ochr y gwely a lampau arnynt. Er diogelwch, mae giât ar ben y grisiau a drws ar waelod y grisiau.

Drwy’r ystafell ddwbl hon, cewch fynediad i ail ystafell wely glyd gyda 2 wely sengl, cwpwrdd dillad, byrddau wrth ochr y gwely a lampau. Mae gan y ddwy ystafell nenfwd ar osgo gyda thrawstiau. 

Gardd

Mae’r drysau stabl traddodiadol o’r gegin yn arwain at ardal amgaeedig fechan â phatio gyda dodrefn gardd.

Mae adeilad fferm allanol wedi’i addasu, sy’n gweithredu fel ystafell golchi dillad ar gyfer y bwthyn gwyliau ar y safle.

Yn ystod eich gwyliau ar fferm weithredol yng Nghymru, cewch gyfle i weld anifeiliaid ar glos y fferm ac yn y caeau o’ch cwmpas.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pan gyrhaeddwch, bydd hambwrdd gyda the a theisennau cri cartref yn eich disgwyl.
  • Darperir dillad gwely, tyweli bach a mawr, a sychwr gwallt.
  • Mae’r gwres canolog olew a’r trydan yn gynwysedig.
  • Wi-fi ar gael.
  • Cot teithio a sedd uchel ar gael ar gais. Dewch â’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot os gwelwch yn dda.
  • Dim ysmygu a dim anifeiliaid anwes y tu mewn.
  • Bydd hylif golchi llestri, cadach llestri, sbwng sgwrio, a llieiniau sychu llestri ar gael.
  • Mae mannau parcio preifat oddi ar y ffordd ar gael.

Lleoliad

Mae Ciperdy wedi’i leoli i lawr lôn dawel, hanner milltir o’r brif ffordd, ar fferm yn ne Eryri lle cewch groeso Cymreig cynnes heb os. Mae’r bwthyn yn berffaith ar gyfer gwyliau ar fferm weithiol yng Nghymru gyda chyfleoedd i weld anifeiliaid fferm o stepen eich drws – ar glôs y fferm ac yn y caeau o’ch cwmpas.

Dim ond 1.5 milltir i ffwrdd mae pentref hanesyddol Pennal, sydd â siop bentref fach, a bwyty / bar hyfryd a chyfadeilad iechyd a hamdden Plas Talgarth. Yma, gallwch sbwylio eich hun drwy gael sesiwn dylino corff ac amrywiaeth o driniaethau harddwch, neu beth am fwynhau’r pyllau nofio cynnes – un o dan do ac un y tu allan – neu hyd yn oed sesiwn yn y gampfa?

Mae’r bwthyn hefyd wedi’i leoli rhwng Aberdyfi (6 milltir) a Machynlleth (5 milltir), ac mae gan y ddwy dref rywbeth arbennig i’w gynnig. Mae Aberdyfi wedi’i leoli mewn llecyn hyfryd lle mae’r mynydd yn cwrdd â’r môr ac mae’r traeth tywod yn ymestyn am 4 milltir, yr holl ffordd i Dywyn. O blith ei gyfleusterau mae cwrs golff 18 twll, teithiau cerdded hardd, chwaraeon dŵr, caffis a siopau gwych, a nifer o fwytai – argymhellwn Bistro Selar Pharoah a Sea Breeze.

Dim ond taith fer i’r cyfeiriad arall mae Machynlleth, sef prifddinas hynafol Cymru, lle mae senedd gyntaf Cymru yn parhau i sefyll hyd heddiw. Machynlleth sydd hefyd yn cynnal y farchnad stryd hynaf ym Mhrydain bob dydd Mercher, ac mae yno nifer o gyfleusterau eraill gan gynnwys llwybrau beicio mynydd, canolfan hamdden ac archfarchnad. Mae’r bwytai a argymhellir ym Machynlleth yn cynnwys Bistro Number Twenty One a’r Wynnstay.

Mae nifer o atyniadau agos eraill i ymweld â nhw yn ystod eich gwyliau ar fferm weithiol yng Nghymru, gan gynnwys Canolfan y Dechnoleg Amgen, Canolfan Grefftau Corris a Labrinth y Brenin Arthur. Mae rheilffordd stêm Tal-y-llyn yn ddiwrnod allan gwych ac mae hefyd yn rhoi mynediad i nifer o deithiau cerdded sydd â golygfeydd. Mae Gwarchodfa Natur Ynyslas hefyd yn atyniad poblogaidd tra bo’r daith gerdded i fyny Cadair Idris yn werth yr ymdrech heb os, gyda golygfeydd rhagorol i’ch gwobrwyo o’r copa.

Traethau

Traeth Aberdyfi – traeth tywod hir a phrydferth. 6 milltir

Traethau eraill ar hyd arfordir y Gogledd-orllewin.

Cerdded

Llwybr Arfordirol Cymru – mae modd ymuno â hwn 0.2 milltir o’r bwthyn.

Mae Llwybr Dyffryn Dyfi yn dilyn afon Dyfi o’r aber yn Aberdyfi i’r ffynhonnell ar gopa yr Aran Fawddwy ac yn ôl i lawr ar hyd ochr ddeheuol yr afon drwy Machynlleth ac i lawr i Borth. Mae mapiau a chanllawiau ar gael o’r ganolfan gwybodaeth i dwristiaid yn Aberdyfi. Ymunwch â’r llwybr ar stepen eich drws yn Cwrt. 0.2 milltir.

Llwybr Llyn Barfog – Bydd y daith gerdded 10 milltir hon yn mynd â chi i fyny’r bryniau y tu ôl i Aberdyfi i Lyn Barfog.

Cadair Idris (llwybr mynydd) – 3 prif lwybr yn dechrau o Finffordd (13 milltir), Llanfihangel-y-Pennant (18.5 milltir) a Dolgellau (20 milltir).

Beicio

Mae’r llwybr gwledig o’r bwthyn yn ddelfrydol ar gyfer beicio. 0 milltir

Beicio Mynydd Dyfi – Amrywiaeth o lwybrau beicio mynydd, i gyd yn dechrau o Fachynlleth. 5 milltir.


Golff

Clwb Golff Aberdyfi – cwrs golff 18 twll. 6 milltir

Clwb Golff Machynlleth – cwrs golff 9 twll. 5 milltir

Pysgota

Mae afon Dyfi yn cynnig cyfleoedd pysgota gwych, ac mae’n enwog am ei brithyll brown, ei eog a’r brithyll môr. 0.5 milltir

Mae’r ardal hon wedi’i hamgylchynu gan y môr, afonydd a llynnoedd, ac mae’n un o’r lleoliadau pysgota cyffredinol gorau sydd i gael. Rhowch gynnig ar bysgota ar lan y môr yn Aberdyfi (6 milltir) a Thywyn (10 milltir) neu bysgota ar lyn Tal-y-llyn (13.5 milltir). Darllenwch fwy am bysgota yn Aberdyfi a’r ardal o amgylch.

Chwaraeon dŵr

Mae’r chwaraeon dŵr sydd i’w cael yn Aberdyfi yn cynnwys hwylio, hwylfyrddio, rhwyfo, canŵio, pysgota a thripiau mewn cwch. 6 milltir.

Merlota

Canolfan Ferlota Bwlchgwyn – yn addas i unrhyw un dros 4 oed. 23 milltir.