- £557 yr wythnos
- £80 y noson
- 5 Guests
- 3 Bedrooms
- 1 Bathroom
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 2 o welyau dwbl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Bwthyn hunan-ddarpar llawn cymeriad ym mhentref glan môr Aberdyfi, o fewn 2 funud ar droed i draeth tywodlyd hir, caffis, bwytai a thafarndai. Mae Aberdyfi yn dref glan y môr fechan sy’n ddelfrydol ar gyfer gwyliau teulu ac yn berffaith er mwyn ymlacio. Mwynhewch rownd o golff, teithiau cychod a physgota o’r harbwr, neu rhowch gynnig ar chwaraeon dwr megis canwio, hwylio a syrffio gwynt. Mae gan y bwthyn gwyliau clyd hwn yn Aberdyfi deras blaen heulog ac ardaloedd patio yn yr ardd gefn, y cyfan yn cynnig golygfeydd gwych o aber y Ddyfi a’r mynyddoedd.
Llawr Gwaelod
Mae gan y bwthyn cartrefol yma yn Aberdyfi ystafell fyw/bwyta a chegin agored gyda llenni deniadol rhwng y lle byw a’r lle bwyta y gellir ei gau er mwyn creu naws glud iawn.
Ystafell fyw wedi ei dodrefnu’n chwaethus gyda seddi cyfforddus i 5 o amgylch stôf llosgi coed addurniadol yn unig. Darperir digonedd o fyrddau bychain a blancedi er mwyn gwneud y lle’n hyd yn oed mwy cysurus. Teledu LCD gyda sianeli am ddim, BT vision. Gwresogir yr ystafell gan wresogyddion trydan newydd ar y wal.
Ystafell fwyta yn cynnwys bwrdd bwyd steil bwthyn a chadeiriau ar gyfer chwech. Ceir rhesel addurniadol yn gwahanu’r lle bwyta a’r gegin.
Cegin agored gyda’r holl gyfarpar angenrheidiol yn cynnwys popty trydan dwbl Belling, golchwr llestri, oergell / rhewgell, popty micro-don, tostiwr, tegell, peiriant gwneud coffi, sosbenni ac offer coginio ansawdd uchel.
Mae estyniad y gegin yn cynnwys peiriant golchi, bwrdd smwddio a haearn, rheilen sychu dillad, sugnwr llwch, bocs oer ar gyfer picnics ayb.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 1 - Ystafell olau a helaeth wedi ei dodrefnu a’i haddurno yn chwaethus. Mae hon wedi ei lleoli ym mhen blaen y bwthyn gyda gwely maint king a digonedd o lefydd i hongian a chadw dillad. Bleindiau tywyllu ar y ffenestri.
Ystafell wely 2 - Ystafell olau a helaeth wedi ei dodrefnu a’i haddurno yn ddeniadol. Mae’r ystafell hon yng nghefn y bwthyn ac yn cynnwys gwely dwbl (gyda mynediad o un ochr) a digonedd o le i hongian a chadw dillad. Bleind tywyllu ar y ffenestr.
Ystafell ymolchi fodern braf gyda chawod bwerus uwchben y bath; rheilen cynhesu tywelion a phwynt eillio. Gwresogydd trydan newydd ar y wal. Canllaw cadarn ar y wal ger y gawod.
Ail Lawr
Ystafell wely 3 – Ystafell hyfryd yn y to gyda gwely dwbl, cwpwrdd dillad a chist o ddroriau i gyd mewn pinwydd. Ffenestr Velux fawr yn y to gyda bar diogelwch ar ei thraws.
NODER, gan mai ystafell yn y to yw hon, mae’r nenfwd ar osgo ac yn isel mewn mannau. Hefyd, mae’r grisiau sy’n arwain i fyny i’r ystafell hon yn serth a chul. Mae’r ystafell hon yn addas felly i blant a plant yn eu harddegau yn unig. Mae giât ddiogelwch wedi ei gosod ar waelod y grisiau.
Gardd
Teras blaen hardd a heulog gyda bwrdd a chadeiriau a mainc bren. Golygfeydd hyfryd o’r aber a’r mynyddoedd. Perffaith ar gyfer eistedd / bwyta tu allan i’r bwthyn gwyliau hwn yn Aberdyfi ar unrhyw adeg o’r dydd.
Iard fach gefn gyda phalmant o lechi Cymreig, planhigion mewn potiau a lein ddillad.
Mynedfa ar hyd yr ochr sy’n eiddo i gymydog caredig yn caniatáu gwesteion i’w ddefnyddio i sychu dillad.
Mae gan y bwthyn hunan-ddarpar hwn yn Aberdyfi hefyd ardd patio yn y cefn wedi ei dirlunio’n ddiweddar gan ddefnyddio llechfaen Cymreig hyfryd. Y patios ar ddwy lefel gyda golygfeydd trawiadol dros aber y Ddyfi. Yr ardd wedi ei ddylunion greadigol gyda phlanhigion blodeuog persawrus a llysiau blas llesol wedi eu dewis yn ofalus er mwyn cynyddu peillio. Dodrefn gardd (tri bwrdd a digonedd o seti) gyda sensor a golau synhwyro.
Noder fod mynediad i’r ardd gefn gerfydd grisiau serth gyda chanllawiau cadarn bob ochr.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Dillad gwely, tywelion dwylo a bath a 2 sychwr gwallt yn gynwysedig
- Gwres (gwresogyddion trydan) a thrydan yn gynwysedig
- Blancedi trydan ar y gwlâu i gyd yn ystod y misoedd oerach
- 3 ffan trydan ar gyfer yr ystafelloedd gwely
- Ffôn BT gyda galwadau am ddim i rifau yn cychwyn gyda 01,02 ac 03
- Ceir rhyngrwyd diwifr anghyfyngedig yn y bwthyn (dewch a gliniadur eich hun)
- Darperir cot teithio (dewch a dillad eich hun i’r cot)
- Darperir cadair uchel a giât diogelwch i blant
- Dim ysmygu nac anifeiliaid anwes
- Parcio ymyl y ffordd tu allan i’r bwthyn a gerllaw – ddim yn benodol i’r bwthyn (ar sail cyntaf i’r felin).
- Darperir label parcio i’w ddefnyddio ar gyfer un car. Mae’r label yn caniatáu parcio am ddim am 12 awr y dydd yn un o’r ddau faes parcio talu ac arddangos yn Aberdyfi (2 funud o gerdded, a pharcio dros nos am ddim).
- Pedwar gris llydan o’r ffordd i fyny at ramp esmwyth yn arwain i’r ty.