Llidiart y Llyn

Aberdyfi, North Wales Snowdonia

  • 4 Star Gold
  • Mwynhewch wyliau ymlaciol yn y llety modern, croesawgar a chartrefol hwn yn Eryri.

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £597 yr wythnos
  • £85 y noson
  • 4 Star Gold

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Dringo
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Ystafell chwaraeon
  • Twb poeth
  • Pwll nofio
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mwynhewch wyliau ymlaciol yn y llety modern, croesawgar a chartrefol hwn yn Eryri. Gyda nodweddion yn cynnwys twb poeth a stôf losgi coed, mae Llidiart y Llyn wedi ei leoli mewn safle tawel a gwledig gyda golygfeydd gwych i lawr Cwm Maethlon. Ardal hardd gyda mynyddoedd ysblennydd, traethau euraidd, atyniadau niferus a llwybrau gwych ar stepen eich drws.

Llawr Gwaelod

Cegin fodern yn cynnwys peiriant golchi llestri, oergell/rhewgell, meicrodon, popty trydan a peiriant coffi. Bwrdd bwyta mawr yn edrych allan dros y patio a golygfeydd i lawr y dyffryn hardd.

Lolfa gyda stôf losgi coed, seddi cyfforddus ar gyfer 6 a golygfeydd ysblennydd. Teledu â sgrîn fflat gyda Sky, chwaraewr DVD a dewis o DVDs.

Ystafell chwarae gyda gwely soffa i 2, teledu mawr, gemau Wii, teganau a gemau bwrdd. Pêldroed bwrdd a chasgliad o lyfrau hefyd ar gael. 

Ystafell iwtiliti gyda wyneb gweithio llechen. Peiriant golchi a sinc Belfast.

Ystafell wely 1 - gwely dwbwl gyda chypyrddau dillad. Ystafell gawod ynghlwm.

Ystafell wely 2 - dau wely sengl gyda byrddau bach a lampau ger y gwely, cypyrddau dillad.

Ystafell wely 3 - gwely maint king gyda golygfeydd anhygoel i lawr y dyffryn. Cypyrddau dillad, byrddau bach a lampau ger y gwely.

Ystafell ymolchi eang gyda baddon a chawod uwch ei ben, toiled a basn.

Gardd

Lawnt gyda patio a golygfeydd anhygoel. Mainc gardd a bwrdd picnic.

Patio gyda twb poeth a mainc i eistedd.

Ardd gaeedig wrth ochr y bwthyn sydd yn addas ar gyfer cŵn.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Gwres a thrydan yn gynwysedig 
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig   
  • Sychwr gwallt ar gael   
  • Wifi ar gael
  • Cot a chadair uchel ar gael   
  • Croesewir hyd at 2 gi am gost o £25 yr un - yn y gegin a'r iwtiliti yn unig  
  • Dim ysmygu y tu mewn  
  • Digon o le parcio  

Lleoliad

Mae'r bwthyn hwn yn sefyll ar ben ei hun yn Eryri ac yn mwynhau lleoliad gwledig gyda golygfeydd di-dor i lawr Cwm Maethlon yn ardal ddeheuol ac arfordirol y Parc Cenedlaethol. Wedi ei leoli ar fferm deuluol ac ym man cychwyn llwybr cerdded hardd sy'n arwain i fyny at Llyn Barfog o ble y gellir mwynhau golygfeydd anhygoel dros y dyffryn ac allan i'r môr ger Aberdyfi.                                     

Mae pentref hanesyddol Pennal (4 milltir) yn cynnig bwyty/bar gwych o'r enw Glan yr Afon, siop bentref a bwyty Y Garth yng nghanolfan iechyd a hamdden Plas Talgarth. Dyma le delfrydol i ddyluno'r corff, derbyn ystod o driniaethau harddwch neu i fwynhau y pyllau nofio wedi eu cynhesu y tu mewn a thu allan. Am ystod ehangach o gyfleusterau, mae tref glan môr Tywyn (4 milltir i'r cyfeiriad arall) yn cynnwys archfarchnad, gorsaf drên stêm a chysylltiadau cludiant cyhoeddus gwych.                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                              Mae tref glan môr Aberdyfi (6 milltir) hefyd yn cynnig ystod dda o gyfleusterau, yn cynnwys caffis, siopau a thafarndai, a bwytai megis Sea Breeze, Pharoah's Cellar Bistro a Penhelig Arms. Mae tref Aberdyfi wedi ei lleoli mewn llecyn hardd ble mae'r mynyddoedd yn cwrdd â'r môr, gyda traeth tywodlyd am 4 milltir, yr holl ffordd i Tywyn. Mae yma hefyd gwrs golff 18 twll, llwybrau cerdded hardd a chwaraeon dŵr.

O fewn 8 milltir mae tref Machynlleth, Prifddinas Hanesyddol Cymru ble mae Senedd gyntaf Cymru yn dal i sefyll heddiw. Cynhelir y farchnad stryd hynaf ym Mhrydain yn nhref Machynlleth bob dydd Mercher, ac fe geir yno gyfleusterau eraill yn cynnwys traciau beicio mynydd, canolfan hamdden ac archfarchnad. Cymeradwyir y bwytai Bistro Number 21 a'r Wynnstay ym Machynlleth. 

Mae yna lawer o atyniadau eraill o fewn taith fer o'ch llety yn Eryri, o'r Ganolfan Dechnoleg Amgen sy'n fyd enwog, i Ganolfan Grefftau Corris a Labyrinth y Brenin Arthur. Mae rheilffordd stêm Talyllyn yn cynnig diwrnod allan gwych gyda mynediad i nifer o lwybrau cerdded. Mae gwarchodfa natur RSPB Ynys Las yn atyniad poblogaidd, tra fod y daith gerdded i fyny Cader Idris werth yr ymdrech er mwyn mwynhau'r golygfeydd anhygoel o'r copa.

Cerdded

  • Llwybr Llyn Barfog - fe fydd y llwybr 10 milltir o hyd yn mynd â chi i fyny i'r bryniau y tu ôl i Aberdyfi at Lyn Barfog. Ymunwch â'r llwybr o stepen y drws  
  • Llwybr Arfordirol Cymru – gellir ymuno â'r llwybr hwn 0.5 milltir o'r bwthyn ar y rhan â elwir 'Panorama Walk' sydd yn arwain i lawr i Aberdyfi  
  • 12 milltir, llwybr cylchol anhygoel sy'n cynnwys ymweliad â Chastell y Bere (castell Cymreig o'r drydedd ganrif ar ddeg) a Craig y Deryn, nodwedd trawiadol o ble y gwelir golygfeydd gwych (10 milltir)  
  • Cader Idris (llwybr mynydd) – 3 llwybr o Lanfihangel y Pennant (12 milltir), Minffordd (14 milltir) a Dolgellau (23 milltir)   

Beicio

  • Mae'r lôn wledig sy'n arwain o'r bwthyn yn ddelfrydol ar gyfer beicio (0 milltir)   
  • Beicio Mynydd Dyfi – ystod o draciau beicio mynydd, i gyd yn cychwyn o Fachynlleth (8 milltir)  
  • Canolfan Beicio Mynydd Coed-y-Brenin – llwybrau addas ar gyfer pob oed (30 milltir) 

Traethau

  • Traeth Tywyn - traeth tywod gyda promenâd a phwll padlo (4 milltir)   
  • Traeth Aberdyfi - traeth tywod hir a hardd (6 milltir)  

Pysgota

  • Mae Afon Dyfi yn cynnig pysgota gwych ac mae'n enwog am frithyll brown, eog a brithyll y môr (4 milltir)  
  • Gyda môr, afonydd a llynnoedd gerllaw, dyma un o'r lleoliadau pysgota gorau posib. Beth am roi cynnig ar bysgota o'r lan yn Nhywyn (4 milltir) ac Aberdyfi (4 milltir), neu bysgota llyn yn Nhal y Llyn (13 milltir)  

Golff

Chwaraeon Dŵr

Marchogaeth