Ty'r Mynach

Sarn Mellteyrn, North Wales Coast

  • 5 Star
  • Awaiting Grading
  • This property can be found on Niche Retreats
  • Special OfferUp to 20% off Special Offer Discount - selected dates

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £2,870 yr wythnos
  • £410 y noson
  • 5 Star
  • Awaiting Grading
  • This property can be found on Niche Retreats

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Sawna
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 4 o welyau king/super-king
  • 2 o welyau sengl
  • 4 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)
  • 1 gwely bync

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • Tywelion ar gael

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mae’r llety gwyliau hwn yng Ngogledd Cymru yn cynnig y lleoliad perffaith i grwpiau ddod at ei gilydd. Helaeth, trawiadol ac yn sefyll ar ben ei hun, ceir yma yr holl nodweddion sydd eu hangen i sicrhau amser arbennig, gan gynnwys preifatrwydd, golygfeydd anhygoel, stofiau coed croesawus, sawna, ardal chwarae tu allan, a chae pêl droed. Wedi ei leoli ar Benrhyn Llŷn, mae’r llety’n ganolog i sawl traeth hardd a llwybrau, ac o fewn pellter cerdded i dafarndai ac adnoddau’r pentref.

Mae Penrhyn Llŷn yn ardal o harddwch naturiol neilltuol sydd yn enwog am draethau syfrdanol a chwaraeon dŵr, ac yn fan lle gellir mwynhau seiniau hudolus y dafodiaith Gymreig leol.

Gellir archebu’r llety siap ‘L’ hwn yn ei gyfanrwydd, neu fel dwy adain arwahan sydd yn cysgu 10 ac 14. Mae’r llety cyfan wedi ei gynllunio’n arbennig ar gyfer anghenion partion mawr, gydag ystafelloedd eang i ymgynnull ynddynt, yn ogystal ag ardaloedd llai a thawel.

Llawr Gwaelod Is

Cegin agored hardd gydag unedau moethus lliw hufen a thopiau gwenithfaen. Dau bopty sengl a hob anwythol mawr. Oergell, peiriant golchi llestri a meicrodon wedi eu gosod i mewn yn yr unedau, a ‘cafetiere’. Bwrdd bwyta helaeth gyda lle i 14 o westeion, a theledu mawr. Llawr wedi ei deilio a’i gynhesu, a drysau patio yn agor i ardal fwyta tu allan.

Sawna Infrared mewn ciwbicl, gyda llawr wedi ei deilio

Llofft G1 - Gwely maint ‘king’ mawr (gellir ei wneud yn 2 wely sengl - *gadewch i ni wybod os ydych am ddewis gwelyau sengl pan yn archebu) gydag ystafell ymolchi ynghlwm sydd â chawod gyda mynediad ar y lefel. Mae’r ystafell hon yn addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn.

Llawr gwaelod

Llofft G2 - i fyny cwpwl o stepiau o’r gegin - gwely maint ‘king’ mawr (gellir ei wneud yn 2 wely sengl - *gadewch i ni wybod os ydych am ddewis gwelyau sengl pan yn archebu)

Llofft G3 - llofft deuluol gydag 1 gwely maint ‘king’ ac hefyd gwelyau bync maint llawn

Mae llofftydd G2 a G3 yn rhannu ystafell ymolchi sydd â chiwbicl cawod-stêm, basn, toiled a llawr wedi ei deilio

Ystafell iwtiliti gyda peiriannau golchi a sychu dillad, a lle i gadw cotiau ac esgidiau.

Ystafell iwtiliti y tu allan gyda rhewgell, a lle i gadw cotiau ac esgidiau. Boiler ar gyfer gwresogi dan y llawr.

Mae’r ystafell haul yn gyswllt rhwng y ddwy aden - gellir eistedd yma i fwynhau golygfeydd anhygoel o fynydd y Rhiw, neu wylio’r teledu. Mae’r llawr wedi ei deilio a’i wresogi, gyda drysau yn agor allan i’r ardd breifat yng nghefn y llety lle ceir bwrdd a chadeiriau bwyta, a Barbaciw nwy.

Cegin agored arall gyda man eistedd, ac unedau derw gyda topiau gwenithfaen. Dau bopty sengl gyda hob anwythol mawr. Oergell, peiriant golchi llestri a meicrodon wedi eu gosod i mewn yn yr unedau. Mae yma hefyd fwrdd bwyta mawr, soffas lledr cyfforddus gyda wal gerrig agored a stôf goed, teledu mawr a chwaraewr DVD.

Mae’r nenfwd uchel, agored yn rhoi teimlad o eangrwydd i’r ystafell fyw. Llawr wedi ei deilio a’i gynhesu, a drysau yn agor allan o’r ystafell i ardal patio y tu allan.

Sawna Infrared mewn ciwbicl, gyda llawr wedi ei deilio

Llofft D1 (Y Swît) - gwely 4-postyn maint ‘king’ mawr gyda baddon ‘spa’ yng nghornel y llofft, yn agor allan i ystafell haul lle gellir eistedd i ymlacio neu wylio’r teledu. Ystafell ymolchi ynghlwm gyda chawod.

Llofft D2 - llofft deuluol gyda 1 gwely maint ‘king’ a gwelyau bync maint llawn

Llofft D3 - gwely maint ‘king’ mawr (gellir gwneud y gwely hwn yn 2 wely sengl os dymunir - * nodwch hyn pan yn archebu).

Llofft D4 - gwely maint ‘king’ mawr (gellir gwneud y gwely hwn hefyd yn 2 wely sengl os dymunir * nodwch hyn pan yn archebu). Ystafell ymolchi ynghlwm gyda chawod ar y lefel.

Mae llofftydd D2 a D3 yn rhannu ystafell ymolchi gyda baddon, cawod stêm, basn, toiled a llawr wedi ei deilio.

Ystafell iwtiliti yn cynnwys peiriannau golchi a sychu dillad, rhewgell, a lle i storio cotiau ac esgidiau. Boiler ar gyfer gwresogi dan y llawr.

Llawr Cyntaf

Llofft G4 - llofft deuluol gydag 1 gwely maint ‘king’ a dau wely sengl. Ystafell ymolchi ynghlwm gyda baddon siap llong o aliwminiwm gloyw, a chawod

Llofft G5 - llofft gyda gwely maint ‘king’ gydag ystafell ymolchi ynghlwm. Ceir golygfeydd panoramig o Benrhyn Llŷn o’r ystafell hon.

Ceir ystafell fyw helaeth arall ar y llawr cyntaf, gyda golygfeydd anhygoel o fynydd y Rhiw ar un ochr a gweddill Penrhyn Llŷn ar yr ochr arall. Teledu a chwaraewr DVD. Soffas a chadeiriau mawr lledr, gyda stôf goed ar gyfer nosweithiau clyd o flaen y tân.

Gardd

Patio o flaen y llety gyda byrddau picnic i fwynhau haul y bore, yn agor allan i lawnt braf a golygfeydd syfrdanol. Gardd breifat yn y cefn gyda Barbeciw a dodrefn ar gyfer bwyta y tu allan. Mynediad a pharcio preifat.

Mae’r llety hunan ddarpar 5 seren hwn yng Ngogledd Cymru hefyd gyda cae chwarae mawr yn y cefn, ffram ddringo a goliau pêldroed.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig
  • *Cofiwch gadarnhau eich dewis o welyau yn Llofftydd G1 a G2 ac hefyd Llofftydd D3 a D4
  • Gwres o dan y llawr drwy’r llety i gyd
  • Wi-Fi ar gael
  • Cot a chadair uchel ar gael. Dewch â dillad eich hun ar gyfer y cot.
  • Fe groesewir gwn - i fyny at 4 neu 5 - mae rheolau llym yn weithredol.

Cost ychwanegol ar gyfer pob ci: £60

  • Digon o le i barcio
  • Mae ychwanegiadau moethus, megis sawna preifat a chawod stêm, yn sicrhau fod Ty’r Mynach yn sefyll allan o’r gweddill, gyda golygfeydd anhygoel o Benrhyn Llŷn i’w gweld ymhob man.

Lleoliad

Mae’r llety hunan ddarpar hwn yng Ngogledd Cymru yn mwynhau lleoliad preifat, i lawr lôn wledig rhwng Bryncroes a Sarn Mellteyrn. Gyda golygfeydd anhygoel ac yn ganolig i weddill Penrhyn Llŷn, mae’n cynnig llwybrau cerdded cylchol ar hyd lonydd a llwybrau gwledig. Mae pentre Sarn Mellteyrn dri chwarter milltir o’r bwthyn - taith gerdded braf ynddi ei hun.

Mae pentref Sarn Mellteyrn yn cynnig crochendy, ystafelloedd te a dwy dafarn groesawus. Mae yma siop gyda swyddfa bost, a garej gyda siop sydd yn rhentu allan DVDs, yn ogystal â cae chwarae bychan. Mae traethau tywod hardd Penrhyn Llŷn, gan cynnwys Abersoch, Aberdaron a Nefyn, i gyd gerllaw, gyda’r traeth agosaf ond 3 milltir a hanner i ffwrdd.

Gellir cerdded, chwarae golff, mynd ar dripiau pysgota, a chymeryd rhan mewn chwaraeon dŵr oddi yma. Mae tref farchnad Pwllheli, trefi Criccieth a Phorthmadog, yn ogystal ac atyniadau hanesyddol a golygfaol niferus megis Parc Cenedlaethol Eryri, Rheilffordd Ffestiniog, cestyll a phentref Eidalaidd Portmeirion, i gyd o fewn cyrraedd i’r llety 5 seren hwn.

Traethau

Yn ganolog i’r holl draethau ar Benrhyn Llŷn. Yr agosaf yw Traeth Penllech, traeth hir, tywodlyd sy’n rhoi teimlad o unigedd (3.5 milltir)

Cerdded

Llwybr Arfordirol Llŷn - 84 milltir o amgylch Penrhyn Llŷn, o Gaernarfon i Borthmadog. Gellir ymuno â’r llwybr 3 milltir o’r llety, yn Penllech

Yr Eifl - cadwyn o fynyddoedd, 4.5 milltir o hyd, sy’n cynnwys y pwynt uchaf ar Benrhyn Llŷn (12 milltir)

Marchogaeth

Stablau a Chanolfan Farchogaeth Pen Llŷn - Pwllheli. Stablau gyda reidiau addas ar gyfer pob lefel o brofiad (2.5 milltir).

Stablau Marchogaeth Llanbedrog - gwersi marchogaeth ayb. Reidiau ar y traeth a’r bryniau (6.5 milltir)

Canolfan Farchogaeth Cilan - Abersoch. Reidiau ar y traeth a mwy. Addas ar gyfer plant a’r di-brofiad (9 milltir)

Chwaraeon Dŵr

Mae traeth Abersoch yn cynnig ei hun ar gyfer hwylio, syrffio a llawer mwy (6.5 milltir)

Mae Porth Neigwl yn fan poblogaidd ar gyfer syrffio a bordio (9 milltir)

Golff

Clwb Golff Abersoch - cwrs golff 18 twll ger y traeth (6.5 milltir)

Clwb Golff Nefyn - 26 twll, yn cynnig dau gwrs 18 twll gyda golygfeydd anhygoel (7.5 milltir)

Canolfan Golff Llŷn - Pen-y-Berth. Cwrs gyrru 15 bae, lawnt a byncar ymarfer, a cwrs golff 9 twll gyda golygfeydd o’r môr. Ar gyfer dechreuwyr a chwaraewyr lefel uwch - clybiau ar gael i’w llogi (8 milltir)

Clwb Golff Pwllheli - cwrs golff 18 twll, yn addas ar gyfer golffwyr o bob oed a gallu (10 milltir)     

Beicio

Nifer o lwybrau addas ar gyfer beicio ym Mhenryn Llŷn

Pysgota

Ystod o gyfleon i bysgota ar Benrhyn Llŷn - opsiynau addas ar gyfer pob oedran