- £395 yr wythnos
- £56 y noson
- 5 Guests
- 2 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Chwaraeon dŵr
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau dwbl
- 1 gwely sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Un o dri bwthyn hunan ddarpar - gellir eu harchebu ar y cyd fel Bythynnod Sarn Group Cottages i letya 16 o bobl. Cymerwch olwg ar Llofft Llyn (cysgu 4) ac Ysgubor Llyn (cysgu 7) am fwy o wybodaeth.
Yn agos at holl draethau euraidd Penrhyn Llyn, mae'r bwthyn hwn yn ddelfrydol ar gyfer cyplau, grwpiau bach ac yn addas i blant. Mae'r ardd gaeedig gyda phopeth sydd gan blentyn ei angen, yn cynnwys siglen, llithren, gol peldroed, ty chwarae a thrampolin. Wedi ei leoli ar fferm weithiol, gellir gwneud cais i gwrdd â'r anifeiliaid (cwningen, cathod, cwn, ceffyl, defaid a gwartheg) - profiad o wyliau fferm gwirioneddol.
Llawr Gwaelod
Cynllun agored gyda lolfa â nenfwd uchel, trawstiau a waliau cerrig. Mae'r lolfa gysurus gyda soffa a chadeiriau lledr, teledu, chwaraewr fideo a DVD, a system CD/HiFi. Mae'r dodrefn pîn traddodiadol i gyd wedi eu gwneud â llaw gan grefftwr lleol.
Cegin gyda'r holl offer yn cynnwys peiriant golchi llestri, meicrodon a bwrdd bwyta crwn.
Ystafell wely gyda gwely dwbwl 4 postyn a chyfleusterau ensuite, sy'n cynnwys uned gawod fawr a baddon trobwll mawr - delfrydol i ymlacio ynddo.
Mae'r bwthyn yn addas ar gyfer person methedig sy'n medru ymdopi ag ambell i step y tu allan.
Llawr Cyntaf
Ail ystafell wely gyda gwelyau dwbwl a sengl, ac ystafell gawod breifat sydd newydd ei hadnewyddu.
Mae Stabal yn ddelfrydol ar gyfer dau gwpwl sydd am rannu bwthyn gyda'r fantais o fod â chyfleusterau preifat.
Gardd
Mae'r bwthyn hunan ddarpar hwn yng Ngogledd Cymru gyda patio a bwrdd yn edrych allan dros yr ardd. Mae gardd fawr estynedig yn cael ei rhannu rhwng y tri bwthyn ar y safle ac mae'n cynnwys barbaciw nwy, siglenni, gôl pêldroed, yn ogystal â thŷ chwarae/ffram ddringo gyda llithren, a trampolîn. Mae'r ardd yn gaeedig sy'n ei gwneud yn berffaith ar gyfer gwyliau teuluol.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig
- Dillad gwelyau yn gynwysedig, yn ogystal ag 1 tywel llaw ac 1 tywel bath ar gyfer pob person. Tywelion ar gyfer y bwthyn yn unig, ddim i'r traeth
- Cot trafeilio, cadair uchel a gât diogelwch ar gael os dymunir (dewch a dillad eich hun i'r cot)
- Wifi ar gael
- Ystafell golchi dillad arwahan yn cael ei rhannu rhwng y 3 bwthyn ar y fferm - yn cynnwys peiriannau golchi a sychu dillad, a rhewgell (rhewgell fach ar gael yn y bwthyn hefyd)
- Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu
- Mae'r bwthyn hunan ddarpar hwn hefyd ar gael ar gyfer gwyliau byr. Gweler mwy o fanylion o dan ‘Prisiau'