- Special Offer15% Spring offer - 12th April - 23rd May
- Special Offer20% off Easter holidays - 22nd March - 11th April
- £963 yr wythnos
- £138 y noson
- 8 Guests
- 4 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- 2 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
- 2 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell wlyb
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Storfa tu allan
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
- Ystafell wlyb
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 17:00
- Amser gadael: 09:30
Disgrifiad
Mae'r llety hyfryd hwn mewn lleoliad preifat ar Benrhyn Llyn gyda golygfeydd pell-gyrhaeddol o fynyddoedd, dyffrynnoedd a'r môr - oddi mewn i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Yn derbyn anifeiliaid anwes a gyda stôf goed groesawgar, llwybrau cerdded mynyddig ac arfordirol ar stepen y drws, mae Maes y Llan hefyd yn ganolog i dref Pwllheli, nifer o draethau euraidd, tref Caernarfon ac Eryri.
Llawr Gwaelod
Lolfa - ystafell groesawgar gyda dwy soffa ledr, stôf goed a theledu. Drysau patio gyda golygfeydd yn rhoi mynediad i'r patio a'r ardd.
Cegin fawr siâp 'L' gyda lle tân a thrawstiau, yn cynnwys popty a hob trydan, meicrodon, oergell, rhewgell a pheiriant golchi llestri. Ardal arwahan yn cynnwys bwrdd bwyta, soffa a theledu ar y wal.
Ystafell ymolchi gyda cawod, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.
Ustafell iwtiliti yn cynnwys peiriannau golchi a sychu dillad.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 1 - ystafell helaeth gyda gwely maint king, dodrefn derw a theledu ar y wal.
Ystafell wely 2 - gwely dwbwl gyda golygfeydd.
Ystafell wely 3 - gwely sengl gyda golygfeydd o'r mynyddoedd.
Ystafell wely 4 - tri gwely sengl - gellir eu gosod fel un gwely mawr king ac un gwely sengl os dymunir.
Ystafell ymolchi gyda baddon a chawod oddi mewn, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.
Gardd
Gardd fawr gyda golygfeydd tuag at y mynyddoedd a'r môr. Patio gyda bwrdd, cadeiriau a barbaciw siarcol.
Gwybodaeth ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, llaeth a siwgwr, cacennau cri a photel o wîn
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- 3 sychwr gwallt ar gael
- Coed yn gynwysedig.
- Cot, cadair uchel a giât i'r grisiau ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot
- Croesewir hyd at 2 gi (llawr gwaelod yn unig)
- Dim ysmygu tu mewn
- Storfa i feiciau ayb yn sied yr ardd
- Digon o le parcio preifat