Maes Teg

Pwllheli, North Wales Coast

  • 4 Star Gold
  • Special Offer20% offer on Spring holidays - 12th April - 2nd May
  • Special OfferEarly Bird offer - 10% discount between 24th May and 25th July
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 5th September 2024

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £749 yr wythnos
  • £107 y noson
  • 4 Star Gold

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau king/super-king
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Balconi
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Wedi ei leoli ar godiad gyda golygfeydd panoramig o Eryri a Bae Ceredigion. Gyda balconi mawr a drysau patio, gellir mwynhau golygfeydd gwych o'r ardal fyw agored a dwy o'r ystafelloedd gwely. Mae Pwllheli, gyda Marina, traeth a nifer o siopau, caffis a bwytai annibynnol ond milltir i ffwrdd. 

Dyma leoliad gwych i ddarganfod Llwybr Arfordirol Cymru a Phenrhyn Llyn - ardal o harddwch naturiol eithriadol gydag ystod o atyniadau megis Portmeirion a Chastell Criccieth, heb anghofio Parc Cenedlaethol Eryri ac Ynys Môn.

Llawr Gwaelod

Cegin, ardal fwyta a lolfa agored. Mae drysau patio yn arwain i balconi gyda canllaw gwydr a golygfeydd anhygoel dros Fae Ceredigion tuag at Harlech ac Eryri. 

Mae'r lolfa fawr yn cynnig seddi cyfforddus i wyth o flaen stôf goed a glô, teledu Smart gyda Netflix ac Amazon Prime(me angen tanysgrifiad) Os ydych yn mwynhau cerddoriaeth, mae yna chwaraewr recordiau a dewis o recordiau yn y cwpwrdd yn y cyntedd. Fe geir nifer o lyfrau, mapiau a gemau bwrdd yma hefyd. 

Mae'r gegin gyda'r holl offer angenrheidiol yn cynnwys oergell/rhewgell, peiriant golchi dillad a pheiriant golchi llestri, meicrodon, tegell, tostiwr a pheiriant coffi. Bwrdd bwyta gyda lle i 8. 

Ystafell wely 1 - gwely maint king, gyda drysau patio yn arwain allan i'r balconi gyda golygfeydd gwych. Dau gwpwrdd wrth y gwely gyda lampau, cypyrddau dillad a chadair.

Ystafell wely 2 - yng nghefn y bwthyn gyda gwely dwbwl, dau gwpwrdd wrth y gwely, lampau a chypyrddau dillad.

Ystafell ymolchi - gydag uned cawod, sinc, toiled a rheilen sychu tywelion. 

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 3 - gyda gwely maint king, dau gwpwrdd wrth y gwely gyda lampau, cypyrddau dillad a chadair, a golygfeydd panoramig.

Ystafell wely 4 - dau wely sengl yng nhefn y llety.

Ystafell ymolchi gydag uned cawod, baddon mawr, toiled, basn hefo drych LED, a rheilen sychu tywelion. 

Gardd

Gyda balconi mawr dyma leoliad delfrydol ar gyfer bwyta tu allan, gan edrych ar y golygfeydd anhygoel. 

Mae yna hefyd lawnt sy'n berffaith i blant chwarae. 

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys cynnyrch lleol yn ogystal â llaeth, te a phodiau coffi. Hefyd, cod disgownt ar gyfer lluniau lleol sy'n cael eu harddangos o gwmpas y bwthyn  
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig.
  • Pecyn dechreuol o goed ar gyfer y stôf rhwng misoedd Hydref i Ebrill  
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig    
  • 3 sychwr gwallt ar gael   
  • Cot trafeilio a chadair uchel ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot 
  • Wifi cyflym iawn  
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu tu mewn y bwthyn    
  • Darperir y canlynol: 
    • Cegin: Te, coffi, llaeth, papur cegin, hylif golchi llestri a thabledi i'r peiriant, tabledi golchi dillad, etc.
    • Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur ar gyfer pob toiled     
    • Cynnyrch glanhau cyffredinol    
  • Parcio preifat ar gyfer 3 car    
  • Os hoffech anghofio'r car yn ystod eich arhosiad gellir dal bys i Bwllheli o arosfa Llwyn-hudol, sydd rownd y gornel    

Lleoliad

Bwthyn hardd gyda golygfeydd panoramig tuag at Bae Ceredigion ac Eryri, ac ond milltir o Bwllheli a'i adnoddau. Mae Maes Teg yn mwynhau lleoliad heddychlon, ond gyda nifer o siopau, caffis, tafarndai a bwytai heb fod ymhell. Mae yna archfarchnad Asda ym Mhwllheli. 

Prif dref answyddogol Penrhyn Llyn, mae Pwllheli yn gartref i Farina trawiadol ble cynhelir nifer o ddigwyddiadau a chystadlaethau yn ystod y flwyddyn. Gellir hefyd ymuno â Llwybr Arfordirol Cymru gerllaw, ym mhentref Abererch neu ym Mhwllheli. Mae Penrhyn Llyn yn Ardal o Harddwch Naturiol Rhagorol ble mae'r iaith Gymraeg a'r ffordd Gymreig o fyw yn dal i ffynnu. Darganfyddwch bentrefi arfordfirol hardd megis Abersoch, Llanbedrog, Porthdinllaen ac Aberdaron sydd wedi eu gwasgaru o gwmpas y Penrhyn, yn ogystal â thraethau godidog. Mae Maes Teg yn cynnig lleoliad delfrydol ar gyfer darganfod yr ardal, yn ogystal ag Eryri ac Ynys Môn. 

Ymysg yr atyniadau poblogaidd eraill mae Plas Glyn y Weddw yn Llanbedrog (5.5 milltir), maenordy trawiadol gyda galeriau, gerddi hardd ac ystafell de gyda golygfeydd o'r môr. Mae Parc Glasfryn 3.5 milltir i ffwrdd ac yn cynnig ystod o weithgareddau megis bowlio deg, gwîb gartio a saethyddiaeth, gyda siop fferm fawr, caffi a bwyty. Mae'n werth hefyd ymweld â Chastell Criccieth (7.5 milltir), Rheilffordd Ffestiniog ym Mhorthmadog (12 milltir), a phentref Eidalaidd Portmeirion (15 milltir). 

Traethau

  • Abererch i Glandon, Pwllheli – 4 milltir o draeth (1.3 milltir)   
  • Traeth Deheuol, Pwllheli - traeth graean sydd wedi derbyn y Faner Lâs. O Graig Gimblet, ar draws y promenâd tuag at Llanbedrog (1.7 milltir)     

Chwaraeon Dwr

  • Clwb Hwylio Pwllheli, Marina Pwllheli – adnoddau gwych ac o bosib y dwr gorau i hwylio yn y DU (1.2 milltir)    
  • Traeth Abersoch yn cynnig dwr llyfn ar gyfer sgîo dwr, hwylio a syrffio (8 milltir)   

Cerdded

  • Llwybr Arfordirol Llyn – 84 milltir o gwmpas Penrhyn Llyn, o Gaernarfon i Borthmadog. Ymunwch â'r llwybr 0.5 milltir o'r bwthyn yn Abererch 
  • Yr Eifl – cadwyn o fynyddoedd 4.5 milltir o hyd yn cynnwys copa uchaf Penrhyn Llyn (7.5 milltir o'r bwthyn)    

Pysgota

  • Digon o gyfleoedd addas ar gyfer pob oed    

Golff

Marchogaeth

  • Stablau Marchogaeth Llanbedrog (5 milltir)

Beicio

  • Digon o gyfleoedd o gwmpas Penrhyn Llyn