Llys Mawr

Pwllheli, North Wales Coast

  • 5 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 5th September 2024

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £636 yr wythnos
  • £91 y noson
  • 5 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 2 o welyau sengl
  • 2 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell wlyb
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn
  • Ystafell wlyb

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Wedi ei leoli mewn man delfrydol rhwng Penrhyn Llyn, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, a Pharc Cenedllaethol Eryri. Mae Llys Mawr yn cynnig lleoliad gwledig heddychlon, o fewn 3 milltir i dref Pwllheli a'r arfordir. Mae'r bwthyn cartrefol yn mwynhau golygfeydd pellgyrhaeddol o'r môr a'r mynydd, ac o fewn pellter cerdded i ganolfan arddio a chaffi.

Lleoliad delfrydol ar gyfer aduniadau gan fod gennych yr opsiwn o wahodd teulu a frindiau i aros mewn bwthyn hunan ddarpar arall drws nesaf. Gyda'i gilydd mae'r ddau fwthyn yn cysgu hyd at 12 o westeion. Gyda digon o weithgareddau ac atyniadau ar stepen y drws, o draethau euraidd i'r Marina ym Mhwllheli, Llwybr Arfordir Cymru, canolfan weithgareddau Parc Glasfryn, i drenau stêm a Zip World i enwi ond ychydig. 

Llawr Gwaelod

Ardal mawr agored yn cynnwys cegin, ardal fwyta a lolfa.

Cegin gyda'r holl offer yn cynnwys peiriant golchi llestri, peiriant golchi/sychu dillad, oergell/rhewgell, meicrodon, popty a hob trydan.

Ardal fwyta gyda bwrdd derw a chadeiriau o flaen drysau patio yn arwain allan i'r ardd.

Lolfa gyda dwy soffa ledr, cadair freichiau, teledu Smart, chwaraewr DVD a silffoedd llyfrau derw. 

Ystafell wely 1 - gwely super-king 'zip and link' gyda chypyrddau dillad. Gellir cael dau wely sengl os dymunir. 

Ystafell ymolchi gyda cawod, basn, toiled a rheilen sychu tywelion.   

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 2 - gwely king gyda chypyrddau dillad.

Ystafell wely 3 - dau wely sengl a chypyrddau dillad.

Ystafell ymolchi gyda baddon, cawod ar wahân, basn, toiled a rheilen sychu tywelion. 

Gardd

Ardal patio preifat gyda bwrdd a mainc a golygfeydd o Eryri. Lawnt estynedig sy'n cael ei rhannu gyda'r bwthyn drws nesaf. 

Man eistedd tu blaen y bwthyn gyda golygfeydd panoramig, o Fae Ceredigion i Eryri. 

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys te a choffi, siwgwr, llaeth a chacen. Cwrw, a jam lleol hefyd ar gael os yn aros am wythnos a mwy 
  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig    
  • Dillad gwelyau, tywelion ac 1 sychwr gwallt yn gynwysedig     
  • Wi-fi ar gael   
  • Cot trafeilio, cadair uchel a gât staer ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot 
  • Mae'r eitemau canlynol hefyd ar gael: 
    • Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, tabledi golchi dillad, clytiau, ffoil a ffilm glynu 
    • Ystafell ymolchi: sebon a 2 rolyn papur i bob toiled    
    • Cynnyrch glanhau cyffredinol     
  • Dim ysmygu nac anifeiliaid anwes tu mewn y bwthyn     
  • Digon o le parcio preifat

Lleoliad