- Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
- Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
- Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May
- Special Offer10% Summer offer - 26th July - 22nd August 2024
- Special Offer10% october Half Term offer for stays between 18th until 31st October 2024
- Special Offer15% offer 28th June – 18th July
- Special Offer10% offer w/c 19th July
- Special Offer10% Summer offer w/c 30th August
- Special Offer20% Summer offer w/c 23rd August
- £636 yr wythnos
- £91 y noson
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 2 o welyau sengl
- 2 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Mewn lleoliad gwledig heddychlon, mae'r bwthyn hardd hwn wedi ei adnewyddu ac yn cynnig golygfeydd panoramig o Fae Ceredigion i fynyddoedd Eryri. Mae tref glan môr Pwllheli ond 3 milltir i ffwrdd gyda dau draeth a Marina, nifer o fwytai, caffis a bowlio deg. Gellir cerdded o'r bwthyn i ganolfan arddio a chaffi o fewn hanner milltir, ymuno â Llwybr Arfordirol Cymru ar draeth Abererch 2.4 milltir i ffwrdd, neu fwynhau diwrnod allan ym Mharc Glasfryn (2.5 milltir) gyda gwîb gartio, bowlio deg a llawer mwy.
Mae Llys Bach yn un o ddau dy pâr ar y safle - perffaith ar gyfer rhannu'r profiad gyda teulu a ffrindiau. O'ch bwthyn cartrefol gellir darganfod Penrhyn Llyn yn ei gyfanrwydd (ardal dynodedig o harddwch naturiol eithriadol), yn cynnwys Llanbedrog (6.5 milltir) ac Abersoch (9.5 milltir). I'r cyfeiriad arall mae Parc Cenedlaethol Eryri gyda'i atyniadau a gweithgareddau, o gestyll trawiadol i Zip World, trenau stêm, Portmeirion a Bounce Below.
Llawr Gwaelod
Ardal agored yn cynnwys cegin, ardal fwyta a'r lolfa.
Cegin gyda'r holl offer yn cynnwys peiriant golchi llestri, peiriant golchi/sychu dillad, oergell/rhewgell, meicrodon, popty a hob trydan.
Ardal fwyta gyda bwrdd derw a chadeiriau.
Lolfa gyda dwy soffa ledr, teledu Smart a chwaraewr DVD, silffoedd llyfrau derw gyda system sain a drysau patio dwbl yn arwain allan i'r ardd.
Ystafell ymolchi gyda cawod, basn a thoiled.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 1 - gwely maint king, gyda byrddau bach wrth y gwely a chypyrddau dillad.
Ystafell wely 2 - gwely super-king, a chypyrddau dillad. Gellir newid y gwely i ddau wely sengl ar gais.
Ystafell wely 3 - dau wely sengl a chypyrddau dillad. Llawr derw.
Ystafell ymolchi - baddon, basn a thoiled.
Gardd
Ardal patio preifat gyda bwrdd a mainc a golygfeydd o Eryri. Lawnt estynedig sy'n cael ei rhannu gyda'r bwthyn drws nesaf.
Man eistedd tu blaen y bwthyn gyda golygfeydd panoramig, o Fae Ceredigion i Eryri.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys te a choffi, siwgwr, llaeth a chacen. Cwrw, a jam lleol hefyd ar gael os yn aros am wythnos a mwy
- Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig
- Dillad gwelyau, tywelion ac 1 sychwr gwallt yn gynwysedig
- Wi-fi ar gael
- Cot trafeilio, cadair uchel a gât staer ar gael. Dewch â dillad eich hun i'r cot
- Mae'r eitemau canlynol hefyd ar gael:
- Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, tabledi golchi dillad, clytiau, ffoil a ffilm glynu
- Ystafell ymolchi: sebon a 2 rolyn papur i bob toiled
- Cynnyrch glanhau cyffredinol
- Dim ysmygu nac anifeiliaid anwes tu mewn y bwthyn
- Digon o le parcio preifat