Bwthyn Carreg

Aberdaron, North Wales Coast

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special OfferEarly Bird offer - 10% discount between 24th May and 25th July
  • Special Offer15% Spring offer - 12th April - 23rd May

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £852 yr wythnos
  • £122 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Twb poeth
  • Pwll nofio

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl
  • 2 o welyau bync

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite

Teuluoedd

  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Ar un lefel, dim grisiau
  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Taith fer ar droed i draeth Porth Oer, mae’r bwthyn 5 seren hwn gyda thwb poeth yn cynnig y lleoliad perffaith ar gyfer gwyliau bwthyn arfordirol ar Benrhyn Llyn. Lleoliad hardd, heddychlon gyda golygfeydd godidog a gardd fawr amgaeedig - perffaith ar gyfer plant neu eich ffrindiau pedair coes. Dim ond 2 filltir i Aberdaron, y pentref mwyaf gorllewinol ar ben Penrhyn Llyn, ble dowch o hyd i gaffis bach, tafarndai/tai bwyta a thraeth tywodlyd arall.

Llawr Gwaelod

Ardal fyw fawr ar gynllun agored – croesawgar iawn ac eang gyda golygfeydd arbennig dros yr ardd amgaeedig ac ymhellach. Gwres o dan y llawr drwy’r ty.

Cegin o goed derw gyda phopeth sydd ei angen arnoch, gan gynnwys peiriant golchi llestri, popty trydan, pentan anwythiad, micro don a swît bwyta hyfryd derw.

Ardal fyw gyda soffas lledr a drysau patio mawr sy’n gwneud i’r patio a’r ardd ymddangos fel eu bod yn rhan o’r ystafell fyw. Teledu mawr ar y wal, yn cynnwys DVD a Wi-Fi.

Ystafell wely feistr gyda gwely maint king ac ystafell gawod ensuite a thoiled, gyda gwres o dan y llawr.

Ystafell wely dwbl gyda bwrdd gwisgo, cwpwrdd, byrddau ger y gwely, lampau ayyb.

Ystafell wely mawr i 4 gyda gwlau twin a gwely bync.

Ystafell amlbwrpas gyda pheiriant golchi, peiriant sychu dillad ac oergell.

Gardd fawr amgaeedig gyda thrampolîn, barbeciw nwy a golygfeydd dros gefn gwlad hyfryd. Lleoliad hardd a phreifat i ymlacio yn ystod eich gwyliau bwthyn arfordirol ar Benrhyn Llyn.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig.
  • Darperir lleiniau gwely a sychwr gwallt
  • Wifi ar gael
  • Cot a chadair uchel ar gael ar gais
  • Croeso i 2 anifail anwes am bris ychwanegol
  • Dim ysmygu tu mewn
  • Digon o lefydd parcio preifat

Lleoliad

Wedi ei leoli’n ddelfrydol ar gyfer eich gwyliau bwthyn arfordirol ar Benrhyn Llyn. Wedi ei leoli ar lôn wledig gyferbyn â fferm y perchnogion, ac wedi ei amgylchynu â chefn gwlad hyfryd a heddychlon. O fewn pellter cerdded (1/4 milltir) o draeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mhorth Oer - traeth hyfryd ble mae’r tywod yn chwibanu o dan eich traed pan fo’r amodau’n iawn. Gallwch hefyd ymuno â’r llwybr arfordirol yma er mwyn mwynhau golygfeydd godidog o Ynys Enlli ar hyd y Penrhyn a thuag at Eryri.

Mae Ynys Enlli 2 filltir o’ch bwthyn, gellir mynd yno ar gwch o Borth Meudwy. Dyma gyn safle pererindod grefyddol sydd bellach yn Warchodfa Natur Genedlaethol. Hefyd 2 filltir i ffwrdd mae pentref glan y môr heddychlon Aberdaron. Dyma bwynt mwyaf gorllewinol Penrhyn Llyn ble dewch o hyd i draeth tywodlyd hardd, dwy dafarn gwerth chweil gyda thai bwyta, caffis, becws ble gallwch gael bara ffres bob bore, siop Spar, siop bapurau newydd a siop Traeth.
Mae yna hefyd nifer o draethau anhygoel eraill i chi eu mwynhau tra ar eich gwyliau bwthyn arfordirol, yn ogystal ag Aberdaron a Phwllheli, ‘prifddinas’ Penrhyn Llyn. Mae Penrhyn Llyn yn ardal nodedig o harddwch naturiol eithriadol ble mae’r iaith Gymraeg a’r ffordd Gymreig o fyw yn parhau i ffynnu. Mae’n adnabyddus am ei draethau hyfryd, chwaraeon dwr a phentrefi arfordirol dymunol. Gyda 84 milltir o arfordir syfrdanol, nifer helaeth o fryniau sy’n amrywio o ran uchder yn ogystal â mynyddoedd godidog Eryri ar garreg eich drws, mae hefyd yn le gwych ar gyfer gwyliau i gerdded.

Llefydd eraill sy’n cael eu hargymell yw mynd Plas yn Rhiw, maenordy hanesyddol (6 milltir), Canolfan Addysgiadol Felin Uchaf (5 milltir) a nifer o gestyll, gan gynnwys Cricieth (26 milltir) a Chaernarfon (35 milltir). Ar gyfer dyddiau llawn hwyl i’r tywydd, rhaid ymweld â Pharc Glasfryn lle gellir go-cartio, bowlio deg, gwneud saethyddiaeth ayyb, ynghyd â Rheilffordd Ffestiniog, pentref Eidaleg Portmeirion, Parc Gelli Gyffwrdd ac Amgueddfa Llechi Cenedlaethol yn Llanberis.

Traethau

Traeth Ymddiriedolaeth Genedlaethol Porth Oer – 0.25 milltir

Traeth Aberdaron – traeth tywodlyd godidog gyda’r pentref hyfryd hwn yn y cefn. 2 milltir

Cerdded

Llwybr Arfordirol Llyn - 84 milltir o amgylch Penrhyn Llyn, o Gaernarfon i Borthmadog. Ymunwch â'r llwybr 0.2 milltir o’r bwthyn.

Yr Eifl – Cadwyn o fynyddoedd yn cynnwys y pwynt uchaf ar Benrhyn Llyn. Dim ond 4.5 milltir o hyd, 18 milltir o’r bwthyn

Beicio

Gellir llogi beiciau yn Aberdaron ac mae digon o lonydd cefn gwlad heddychlon i’w harchwilio.

Pysgota

Llynnoedd Llyn - 2 lyn ar dirlun hyfryd. 4.5 milltir

Marchogaeth

Canolfan Farchogaeth Pen Llyn - Pwllheli. Fferm styden gyda thro ar gyfer rhywun o bob profiad. 9 milltir

Stablau Marchogaeth Llanbedrog – Gwersi marchogaeth ayyb. Ar y traeth a bryniau. 13 milltir

Canolfan Farchogaeth Cilan - Abersoch. Marchogaeth ar y traeth a mwy. Gwych ar gyfer y plant a phobl ddibrofiad. 14 milltir

Chwaraeon Dwr

Mae Abersoch yn cynnig dwr gwastad ar gyfer ton-fyrddio a sgïo dwr, hwylio, cychod pwer a syrffio gwynt. 12 milltir

Porth Neigwl - lle poblogaidd iawn i syrffywr a chorff-fyrddwyr. 13 milltir

Golff

Clwb Golff Abersoch – cwrs golff 18 twll, yn ymuno gyda’r traeth. 12 milltir

Clwb Golff Nefyn a’r Cyffiniau - 26 twll, yn cynnig dau gwrs 18 twll ar ben creigiau gyda golygfeydd arfordirol ysblennydd. 13 milltir