Tai Ffolt

Nefyn, North Wales Coast

  • 4 Star Gold
  • Special OfferUp to 20% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 5th September 2024

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £1,003 yr wythnos
  • £143 y noson
  • 4 Star Gold

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Golygfeydd o'r harbwr
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau king/super-king
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Storfa tu allan
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Ar un lefel, dim grisiau
  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Wel dyma olygfa! Nid llawer o fythynnod sy'n medru brolio lleoliad fel hyn. Oddi mewn i 2 acer o dir preifat, mae Tai Ffolt yn cynnig tawelwch a golygfeydd anhygoel allan i'r môr tuag at Nefyn, drosodd i Borthdinllaen, Ynys Môn, ac, ar ddiwrnod clir drwy eich ysbienddrych, mor belled ac Iwerddon. 

Tri bwthyn pysgotwr yn wreiddiol, mae Tai Ffolt wedi ei adnewyddu'n drawiadol, a gellir mwynhau golygfeydd godidog o'r môr o bob ystafell. Heb anghofio'r machlud haul dramatig, a chyfle i syllu ar y sêr - dyma leoliad gwyliau hollol ysbrydoledig, gyda'r dydd neu'r nos.

Llawr Gwaelod

Prif nodwedd y lolfa fawr yw'r talcen gwydr sy'n fframio'r golygfeydd anhygoel tuhwnt. Mae'r lolfa yn cynnig digon o gymeriad a seddau cyfforddus ble gellir eistedd nol a chael eich ysbrydoli, ac hefyd mwynhau gwres y stôf losgi coed. Teledu ar y wal a chwaraewr DVD.

Nodwedd arall yw'r simdde sydd yn rhannu'r lolfa o'r gegin/ardal fwyta ym mhen pellaf yr ystafell. Gyda llawr llechi gwreiddiol, mae'r gegin gyda'r holl offer angenrheidiol, yn cynnwys oergell/rhewgell Americanaidd, popty a hob trydan, meicrodon, peiriant golchi llestri, a pheiriannau golchi a sychu dillad. Bwrdd ffermdy mawr a chadeiriau, gyda drysau Ffrengig yn arwain allan i'r ardd gefn.

Ystafell wely 1 - ystafell helaeth gyda gwely maint king, soffa o flaen stôf losgi coed a theledu, desg, storfa, a golygfeydd trawiadol o'r môr.

Ystafell wely 2 - gwely king, storfa ddillad, cadair a golygfeydd gwych.

Ystafell wely 3 - dau wely sengl, cadair, storfa ddillad, ac wrth gwrs, golygfeydd o'r môr.

Ystafell ymolchi deuluol gyda cawod wlaw, baddon gyda golygfeydd, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.

Gardd

Dwy acer o dir caeedig o amgylch y bwthyn godidog hwn. Pun ai bwyta tu allan, te prynhawn, llyfr da a glasied o wîn, neu wylio'r cychod yn hwylio heibio, mae'r teras sy'n edrych allan dros y cefnfor yn cynnig lleoliad tu hwnt o ddelfrydol. 

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig   
  • Pecyn cychwynol o goed ar gyfer y stôf (gwyliau gaeaf yn unig). Gellir prynu cyflenwad ychwanegol yn Nefyn  
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig   
  • 3 sychwr gwallt ar gael   
  • Cot trafeilio a chadair uchel ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot   
  • Wifi ar gael
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu yn y bwthyn   
  • Digon o le parcio 
  • Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri, tabledi i'r peiriant golchi llestri, clytiau newydd, ffoil, a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: sebon hylif, 2 bapur toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol 

Lleoliad

Mwynhewch olygfeydd anhygoel o'r môr wrth agosau at y bwthyn. Gyda mynediad ar hyd trac, mae'r bwthyn hwn yn eistedd oddi mewn i 2 acer o dir caeedig sy'n cynnig preifatrwydd a golygfeydd trawiadol. Yn edrych allan ar dafarn Tŷ Coch ar draeth Porthdinllaen, cwrs golff godidog Nefyn, ac ar ddiwrnod clir, mynyddoedd Wiclo yn Iwerddon drwy'r telesgop sydd yn y lolfa. 

Mae pentref Nefyn (1 milltir) wedi ei leoli ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn. Yma ceir 2 siop nwyddau, tafarndai a bwytai, caffi ar gyfer te prynhawn (Caffi Ni), yn ogystal â siopau bwyd parod, llyfrgell, fferyllfa ac amgueddfa. Mae rhai o'r llefydd gorau i fwyta yn cynnwys The Ship yn Edern (4 milltir), Plas Bodegroes (5.7 milltir), a Bwyty Bwyd Môr Twnti (6.7 milltir). Mae tafarn Tŷ Coch o fewn 4 milltir - wedi ei enwi'n swyddogol y trydydd bar traeth gorau yn y byd. Lleoliad trawiadol sy'n werth ymweld ag ef (mynediad ar droed drwy'r cwrs golff neu ar hyd y traeth). 

Mae'r llwybr i Dafarn Tŷ Coch yn rhan o Lwybr Arfordirol Cymru. Mae'n werth cerdded y llwybr hwn er mwyn darganfod hyfrydwch Penrhyn Llŷn - Ardal Dynodedig o Harddwch Naturiol Eithriadol ble mae'r iaith Gymraeg a ffordd o fyw yn dal i ffynnu. Atyniad arall gerllaw yw Nant Gwrtheyrn, Canolfan Dreftadaeth Gymreig mewn lleoliad hudolaidd gyda caffi, traeth preifat ayb.

Mae nifer o bentrefi hardd ar hyd arfordir Penrhyn Llŷn, yn cynnwys Abersoch (12 milltir) ac Aberdaron (14 milltir). Mae'n werth mynd ar drip mewn cwch i Ynys Enlli, safle blaenorol pererindod crefyddol. Ar gyfer yr holl deulu mae'n werth ymweld â Pharc Glasfryn i fwynhau gwîb gartio, bowlio deg, saethyddiaeth ayb, neu fynd am reid ymlaciol ar reilffordd Ffestiniog, darganfod Cestyll Caernarfon a Chriccieth, neu bentref Eidalaidd Portmeirion. Os nad yw hynny'n ddigon, mae Parc Cenedlaethol Eryri a'i holl atyniadau o fewn taith fer.  


Traethau

  • Porth Nefyn – traeth euraidd 2 filltir o hyd (1.5 milltir)  
  • Morfa Nefyn – mae'r traeth hwn yn ymestyn yr holl ffordd i Borthdinllaen (3 milltir) 
  • Mae nifer o draethau heb fod ymhell ym Mhenryn Llŷn   

Cerdded

  • Dau lwybr yn cychwyn yn agos iawn i stepen y drws - un yn arwain i bentref Nefyn a'r llall yn arwain i gopa Mynydd Nefyn sydd tu cefn i'r bwthyn   
  • Llwybr Arfordirol Llŷn (rhan o Lwybr Arfordirol Cymru) - yn pasio ychydig o gaeau i ffwrdd o gefn y bwthyn. Gellir ymuno ag ef oddi ar y llwybr sy'n arwain i'r pentref  
  • Yr Eifl – cadwyn o fynyddoedd 4.5 milltir o hyd yn cynnwys y copa uchaf ym Mhenryn Llŷn (5 milltir)  
  • Llwybr Nant Gwrtheyrn – llwybr cylchol 2-3 awr o amgylch y dyffryn unigryw hwn (6.5 milltir)    

Golff

  • Clwb Golff Nefyn a'r Cylch - cwrs golff pencampwriaethol enwog gyda 26 twll, yn cynnig dau gwrs 18 twll gyda golygfeydd anhygoel (3.5 milltir)   

Pysgota

  • Nifer o gyfleoedd pysgota ar Benrhyn Llŷn - dewis addas ar gyfer pob oed 

Marchogaeth