- £1,029 yr wythnos
- £147 y noson
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 1 Bathroom
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- Tân agored neu stôf goed
- Golygfeydd o'r harbwr
- Golygfeydd cefn gwlad
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau king/super-king
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Storfa tu allan
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Ar un lefel, dim grisiau
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Wel dyma olygfa! Nid llawer o fythynnod sy'n medru brolio lleoliad fel hyn. Oddi mewn i 2 acer o dir preifat, mae Tai Ffolt yn cynnig tawelwch a golygfeydd anhygoel allan i'r môr tuag at Nefyn, drosodd i Borthdinllaen, Ynys Môn, ac, ar ddiwrnod clir drwy eich ysbienddrych, mor belled ac Iwerddon.
Tri bwthyn pysgotwr yn wreiddiol, mae Tai Ffolt wedi ei adnewyddu'n drawiadol, a gellir mwynhau golygfeydd godidog o'r môr o bob ystafell. Heb anghofio'r machlud haul dramatig, a chyfle i syllu ar y sêr - dyma leoliad gwyliau hollol ysbrydoledig, gyda'r dydd neu'r nos.
Llawr Gwaelod
Prif nodwedd y lolfa fawr yw'r talcen gwydr sy'n fframio'r golygfeydd anhygoel tuhwnt. Mae'r lolfa yn cynnig digon o gymeriad a seddau cyfforddus ble gellir eistedd nol a chael eich ysbrydoli, ac hefyd mwynhau gwres y stôf losgi coed. Teledu ar y wal a chwaraewr DVD.
Nodwedd arall yw'r simdde sydd yn rhannu'r lolfa o'r gegin/ardal fwyta ym mhen pellaf yr ystafell. Gyda llawr llechi gwreiddiol, mae'r gegin gyda'r holl offer angenrheidiol, yn cynnwys oergell/rhewgell Americanaidd, popty a hob trydan, meicrodon, peiriant golchi llestri, a pheiriannau golchi a sychu dillad. Bwrdd ffermdy mawr a chadeiriau, gyda drysau Ffrengig yn arwain allan i'r ardd gefn.
Ystafell wely 1 - ystafell helaeth gyda gwely maint king, soffa o flaen stôf losgi coed a theledu, desg, storfa, a golygfeydd trawiadol o'r môr.
Ystafell wely 2 - gwely king, storfa ddillad, cadair a golygfeydd gwych.
Ystafell wely 3 - dau wely sengl, cadair, storfa ddillad, ac wrth gwrs, golygfeydd o'r môr.
Ystafell ymolchi deuluol gyda cawod wlaw, baddon gyda golygfeydd, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.
Gardd
Dwy acer o dir caeedig o amgylch y bwthyn godidog hwn. Pun ai bwyta tu allan, te prynhawn, llyfr da a glasied o wîn, neu wylio'r cychod yn hwylio heibio, mae'r teras sy'n edrych allan dros y cefnfor yn cynnig lleoliad tu hwnt o ddelfrydol.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig
- Pecyn cychwynol o goed ar gyfer y stôf (gwyliau gaeaf yn unig). Gellir prynu cyflenwad ychwanegol yn Nefyn
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- 3 sychwr gwallt ar gael
- Cot trafeilio a chadair uchel ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot
- Wifi ar gael
- Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu yn y bwthyn
- Digon o le parcio
- Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri, tabledi i'r peiriant golchi llestri, clytiau newydd, ffoil, a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: sebon hylif, 2 bapur toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol