- £719 yr wythnos
- £103 y noson
- 7 Guests
- 4 Bedrooms
- 3 Bathrooms
- 2 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- Tân agored neu stôf goed
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 3 o welyau dwbl
- 1 gwely sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 3 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Bwthyn hunan ddarpar mewn lleoliad anhygoel. Yn swatio mewn cornel heddychlon o arfordir Eryri, mae'r llety hwn ym Morfa Bychan yn mwynhau golygfeydd gwych o Gastell Criccieth ar draws y môr a thirwedd dramatig Gogledd Cymru. Mynediad uniongyrchol i Lwybr Arfordirol Cymru sy'n arwain at draeth Criccieth yn ogystal â thraeth Morfa Bychan (Black Rock Sands) - y ddau o fewn hanner milltir.
Llawr Gwaelod
Cegin - gyda'r holl offer angenrheidiol, unedau derw a bâr brecwast. Yn cynnwys popty a hob arwahan, meicrodon, oergell/rhewgell, peiriannau golchi llestri a golchi/sychu dillad.
Lolfa - ystafell gysurus gyda lle i 8 eistedd, stôf losgi coed gyda teledu freeview a chwaraewr DVD.
Ystafell fwyta - gyda bwrdd mawr, stof dan trydan, radio a gorsaf docio ipad.
Ystafell haul - yr ystafell fwyaf poblogaidd yn y tŷ gyda golygfeydd anhygoel o'r môr, yn cynnwys Castell Criccieth, a golygfeydd gwych o Barc Cenedlaethol Eryri.
Ystafell wely 1 - ystafell ddwbwl gydag ystafell gawod ensuite. Mae'r ystafell hon yn addas ar gyfer cadair olwyn.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 2 - ystafell helaeth gyda gwely dwbwl ac ystafell gawod ensuite.
Ystafell wely 3 - gwely dwbwl gyda golygfeydd anhygoel.
Ystafell wely 4 - ystafell eang gyda gwely sengl
Ystafell ymolchi - gyda baddon a chawod oddi mewn
Gardd
Mae'r llety hardd hwn ym Morfa Bychan yn cynnig gardd ffrynt gaeedig gyda golygfeydd panoramig o Benrhyn Llyn, traeth a chastell Criccieth, a cadwyn mynyddoedd Eryri. Ardal Barbaciw gyda byrddau picnic ar gyfer 8 o westeion.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys bara a menyn, te, siwgwr a llaeth
- Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig, yn ogystal a basgedaid gychwynol o goed i'r stof
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig. Dewch a'ch tywelion eich hunain i'r traeth
- 1 sychwr gwallt
- Bwrdd a haearn smwddio ar gael
- Cot deithio, cadair uchel a 2 giât ddiogelwch i'r grisiau (top a gwaelod) ar gael os dymunir. Dewch a'ch dillad eich hun i'r cot.
- Croesewir hyd at 2 gi. Noder fod y ty fferm wedi ei leoli mewn cefn gwlad agored gydag anifeiliaid fferm mewn caeau cyfagos, felly dylid gofalu fod cwn dan reolaeth ar dennyn bob amser. Dim cwn yn yr ardd tu blaen y ty.
- Dim ysmygu tu mewn
- Lle i barcio ar gael
- Eitemau ychwanegol yn cynnwys tabledi i'r peiriant golchi llestri, hylif golchi llestri, 2 rolyn papur toiled ar gyfer pob toiled a sebon hylif