Corlan Lleuddad

Llangwnadl, North Wales Coast

  • 4 Star
  • Awaiting Grading
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer20% offer on Spring holidays - 12th April - 2nd May
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 22nd August 2024
  • Special Offer10% october Half Term offer for stays between 18th until 31st October 2024
  • Special Offer10% Summer offer w/c 30th August
  • Special Offer20% Summer offer w/c 23rd August

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £561 yr wythnos
  • £80 y noson
  • 4 Star
  • Awaiting Grading

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Wedi’i leoli o fewn ei lawnt breifat ac amgaeedig ei hun, gydag ardal patio gysgodol, mae gan Corlan Lleuddad elfen hudolus iddo sydd hefyd yn rhan o fferm weithiol, ac y mae'n cynnig gwyliau hunan-ddarpar moethus. Mae atyniadau niferus Penrhyn Llyn i gyd o fewn ychydig filltiroedd, gan gynnwys pentref glan môr Aberdaron, y dafarn ar y traeth ym Mhorthdinllaen, traethau di-ben-draw gan gynnwys Traeth Penllech, 2 filltir o’r bwthyn ac Ynys gysegredig Enlli, heb sôn am yr amrywiaeth o fwytai o safon uchel a’r tafarndai pentrefol croesawgar.

Llawr Gwaelod

Mae’r ardal fyw ar gynllun agored, ac yn ystafell fawr, eang gyda tho uchel sy’n cynnwys cegin hardd, ardal fwyta a lolfa. Mae ei ddau set o ddrysau patio, y llawr llechi gyda gwres oddi tano a’r trawstiau yn ychwanegu at yr awyrgylch ysgafn ac ymlaciol sydd i’r ty.

Mae’r gegin fodern yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch gan gynnwys popty a hob trydanol, oergell gyda a rhewgell, micro-don, peiriant golchi llestri a pheiriant coffi. Bwrdd pinwydd ty fferm gyda lle i 4 eistedd.

Yn y lolfa mae cadeiriau esmwyth lledr, teledu fawr sgrin fflat, chwaraewr DVD gyda golygfeydd dros yr ardd a thu hwnt drwy’r drysau patio. Nodwedd drawiadol arall sydd yn yr ystafell fawr hon yw’r grisiau sydd wedi eu naddu’n lleol sy’n arwain at y llofft falconi.

Ystafell wely ddwbl gyda gwely dwbl haearn lliw hufen, a llawr llechi â gwres oddi tano.

Ystafell ymolchi fodern gyda baddon siâp ‘P’, cawod uwch ei ben a rheilen gwresogi tywelion.

Llawr Cyntaf

Llofft falconi twin gyda bondo gogwyddol sydd â modd ei gyrraedd gyda grisiau o’r ystafell fyw. *Nodwch gan fod yr ystafell twin yn llofft falconi, nid yw’n addas ar gyfer plant ifanc.

Gardd

Mae gan Gorlan Lleuddad ardd breifat amgaeedig ac ardal batio. Mae yma hefyd fwrdd picnic sydd wedi ei osod yn y man perffaith er mwyn edmygu’r golygfeydd arfordirol a gwledig o Benrhyn Llyn sydd o amgylch y bwthyn.

Os agorwch y giât ar ochr y bwthyn a dilyn y llwybr i’r cefn, mae gardd fawr gymunedol sy'n cael ei rhannu gyda dau fwthyn gwyliau arall sydd ar y safle, ac mae yno fwrdd arall a meinciau.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Wrth gyrraedd eich bwthyn moethus hunan-ddarpar, darperir pecyn croeso o gynnyrch lleol. Yn y pecyn hwn bydd Bara Brith, menyn, caws, llaeth a the Cymreig.
  • Darperir yr eitemau canlynol yn y bwthyn hefyd...


Cegin: papur cegin, lliain llestri, sgwriwr a brws i olchi’r llestri, hylif golchi a thabledi peiriant golchi llestri.
Ystafell ymolchi: papur toiled.
Offer cyffredinol: bagiau bin, canhwyllau, matsis, fflach lamp, brillo ac amrywiaeth o offer golchi.
Iwtiliti: Powdr golchi dillad a chyflyrydd ar gyfer y peiriant golchi.

  • Dillad gwely, tywelion baddon a dwylo yn gynwysedig. Un sychwr gwallt i bob ystafell ddwbl.
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig. Gwres olew dan y llawr ar y llawr gwaelod, rheiddiaduron ar y llawr cyntaf.
  • Cysylltiad we ddiwifr ar gael
  • Croesewir un ci sy’n ymddwyn am £25.
  • Darperir cot a chadair uchel os bydd cais. Dewch a dillad gwely i’r cot eich hun.
  • Ystafell olchi gomunol gyda pheiriant sychu dillad a pheiriant golchi dillad, a all gael ei ddefnyddio gan breswylwyr y bythynnod yn rhad ac am ddim.
  • Dim ysmygu
  • Digonedd o fannau parcio ar gael

  • Ar gyfer grwpiau mawr, mae lle i 18 person rhwng y 3 bwthyn moethus sydd ar y safle os cânt eu harchebu gyda’i gilydd.

Lleoliad

Mae Corlan Lleuddad wedi ei leoli o fewn gardd breifat ac amgaeedig ei hun, ar ben rhes o dri bwthyn gwyliau hardd. Man heddychlon yn llawn golygfeydd, ar dir fferm laeth ac eidion weithredol yn agos i bentref Llangwnadl. Nid yw’n bell oddi ar y brif ffordd, mae trac fferm o tua ¼ milltir yn arwain tuag at Gorlan Lleuddad, lle gallwch fwynhau gwyliau moethus hunan arlwyo. Mae modd mwynhau golygfeydd o Benrhyn Llyn a’i arfordir o’r bwthyn a’i dir o amgylch. Lleoliad canolog sy’n ddelfrydol er mwyn mwynhau awyr iach Penrhyn Llyn.

Mae’r siop bentref agosaf yn Nhudweiliog (2 filltir) ac mae nifer o dafarndai a bwytai da cyfagos. Ymhlith y mannau bwyta rydym yn eu hawgrymu mae Y Llew yn Nhudweiliog, The Ship Inn yn Edern (4 milltir), Nanhoron Arms, Nefyn (7 milltir), Venetia a Coconut Kitchen yn Abersoch (9 milltir) a Thy Newydd, Aberdaron (5 milltir).
Mae llwyth o drysorau cudd ym Mhenllyn, sydd yn ardal o harddwch naturiol arallfydol. Ymhlith yr atyniadau sy’n rhaid eu gweld mae’r pentref glan môr Aberdaron, y dafarn ar y traeth ym Mhorthdinllaen, traethau di-ddiwedd gan gynnwys yr un agosaf sydd yn Penllech, ond 2 filltir o’r bwthyn ac Ynys Enlli.

Atyniad gwych arall yw Canolfan Iaith a Threftadaeth Cymru Nant Gwrtheyrn, o fewn bae cuddiedig ei hun wrth y môr, heb sôn am Barc Glasfryn am ddiwrnod yn llawn hwyl (rasio ceir, bowlio deg ac ati) Castell Caernarfon, Yr Wyddfa (mynydd uchaf Cymru), Mynydd Gwefru Llanberis ac Amgueddfa Lechi Cymru.

Traethau

Y traeth agosaf yw Penllech, traeth hir a thywodlyd sydd â theimlad o lonyddwch a heddwch. 2 filltir.

Mae hefyd traethau gwych eraill o fewn pellter byr yn y car. 

Cerdded

Llwybr Arfordir Llyn (rhan o Lwybr Arfordir Cymru). Y man agosaf i ymuno yw Traeth Penllech, sydd 2 filltir o’r bwthyn.

Yr Eifl – Cadwyn o fynyddoedd gan gynnwys y pwynt uchaf ym Mhenryn Llyn. 4.5 milltir o hyd. 12 milltir.

Marchogaeth

Canolfan Farchogaeth Pen Llyn – Llaniestyn. Bridfa a theithiau i rai ar bob lefel. 5 milltir.

Golff

Clwb Golff Nefyn a’r Cylch - 26 twll, yn cynnig dau gwrs 18 twll pen clogwyn gyda golygfeydd arbennig o’r arfordir. 7

Clwb Golff Abersoch – cwrs golff 18 twll, wrth ymyl y traeth. 9 milltir.

Chwaraeon Dwr

Mae gan traeth Abersoch ddwr fflat sy’n addas ar gyfer sgilfyrddio a sgïo dwr, hwylio, hwylio cychod modur a hwylfyrddio. 9 milltir.