Stabal Lleuddad

Llangwnadl, North Wales Coast

  • 4 Star
  • Awaiting Grading
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special OfferEarly Bird offer - 10% discount between 24th May and 25th July
  • Special Offer15% Spring offer - 12th April - 23rd May
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 5th September 2024

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £709 yr wythnos
  • £101 y noson
  • 4 Star
  • Awaiting Grading

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau dwbl
  • 4 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell wlyb

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn
  • Ystafell wlyb

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Pa le gwell i fynd gyda’ch teulu neu grwp o ffrindiau na’r bwthyn gwyliau mawr, moethus hwn ar rhan o fferm weithiol. O Stabal Lleuddad mae machlud hyfryd Penrhyn Llyn i’w weld tu ôl i’r golygfeydd heddychlon o gefn gwlad, gyda’r traeth agosaf ond 2 filltir i ffwrdd. Mewn man canolog i holl atyniadau Penrhyn Llyn, mae hefyd yn y fan delfrydol i fynd i chwilota yn yr ardal odidog hon a darganfod rhai o’i pherlau dirgel.

Llawr Gwaelod
Cegin dderw yn llawn cymeriad gyda llawr llechi, waliau cerrig a bwrdd ty fferm o binwydd sydd â lle i 8 o’i amgylch yn braf. Peiriant golchi llestri, ffwrn a hob drydan, micro-don, peiriant coffi ac oergell/rhewgell yn gynwysedig, ynghyd â’r holl offer eraill y byddwch yn eu disgwyl mewn bwthyn 5 seren. Mae hon yn ystafell hardd gyda tho uchel, sydd â thrawstiau ar ei hyd sy’n llwyddo creu’r teimlad o ystafell ymlaciol a mawr.

Ystafell fyw fawr ar wahân gyda soffas lledr, gwres o dan y llawr a stôf goed - perffaith i wylio'r teledu mawr sgrin fflat, neu noswaith o ymlaciol yn gwylio ffilm ar y chwaraewr DVD.

Yn arfer bod yn gartws, mae gan yr ystafell ddwbl ar y llawr cyntaf wely haearn du, teledu wedi’i godi ar y wal, cadeiriau eistedd a bwrdd coffi ar gyfer eich coffi boreol. Drysau patio mawr yn arwain at ardal batio breifat eich hun gyda bwrdd a meinciau.

Mae gan yr ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod faddon sy’n sefyll wrth ei hun, a chawod ar wahân mewn steil ‘ystafell-wlyb’. Rheilen sy’n cynhesu tywelion, toiled a basn, drych wedi’i oleuo a soced eillio gyda gwres o dan y llawr.

Y Llawr Cyntaf
Ar y llawr cyntaf mae yna ystafell ddwbl arall, gyda gwely pinwydd a golygfeydd syfrdanol o’r môr a chefn gwlad.

Dwy ystafell wely twin gyda gwlâu sengl pinwydd a bondo gogwyddol. Mae yna ddrws sy’n cysylltu'r ddwy ystafell twin, mae hyn yn golygu y gallant gael eu defnyddio fel dwy ystafell dwin neu un ystafell i bedwar. Mae’r ardal glyd hon yn berffaith ar gyfer plant.

Ystafell gawod wedi’i theilio gyda rheilen gwresogi tywelion, toiled a basn.

Gardd
Dwy ardal batio gyda byrddau a chadeiriau i fwynhau'r golygfeydd hardd o’r bwthyn. Mae modd edmygu tirwedd syfrdanol Penrhyn Llyn o ochr y bwthyn sy’n wynebu’r de, ac mae’r meinciau ychwanegol yno yn ei wneud yn le delfrydol i ymlacio yn yr haul.

Mae bwrdd gardd arall yn yr ardd gymunedol sydd tu ôl i’r bwthyn. Mae digon o le yn yr ardal hon a chaiff ei rhannu gyda'r ddau fwthyn gwyliau arall sydd ar y safle.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Hamper croeso wrth gyrraedd sy’n cynnwys Bara Brith, tê Cymreig a chynnyrch lleol fel menyn, caws a bara.
  • Darperir yr eitemau canlynol hefyd yn y bwthyn...
Cegin: papur cegin, lliain llestri, sgwriwr a brws i olchi’r llestri, hylif golchi llestri a thabledi ar gyfer y peiriant golchi llestri.
Ystafell ymolchi: papur toiled.
Eitemau cyffredinol: bagiau bin, canhwyllau, matsis, fflach lamp, brillo ac amrywiaeth o eitemau glanhau.
Iwtiliti: Powdr a chyflyrydd golchi dillad ar gyfer y peiriant golchi dillad.
  • Dillad gwely, tywelion llaw a baddon yn gynwysedig. Un sychwr gwallt i bob ystafell ddwbl.
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig. Gwres olew dan y llawr ar y llawr gwaelod, rheiddiaduron ar y llawr cyntaf
  • Cysylltiad we ddiwifr ar gael
  • Darperir coed tan
  • Caniateir hyd at 2 gi sy’n ymddwyn yn dda am £25 y ci.
  • Cot a chadair uchel ar gael os bydd cais. Dewch a dillad gwely eich hun ar gyfer y cot.
  • Ystafell olchi gymunedol gyda golchwr a sychwr dillad, gellir eu defnyddio am ddim gan y sawl sy’n aros yn y bythynnod.
  • Dim ysmygu
  • Digon o fannau parcio ar gael
  • Mae bwthyn gwyliau Stabal Lleuddad, Penrhyn Llyn yn derbyn archebion am wyliau byr yn ystod cyfnodau penodol o’r flwyddyn. Ewch at ‘Prisiau’ am fwy o wybodaeth.
  • Er mwyn archebu i grwp, mae lle i 18 gysgu yn y 3 bwthyn moethus sydd ar y safle os cânt eu harchebu gyda’i gilydd.

Lleoliad

Mae Stabal Lleuddad wedi ei leoli mewn man tawel gyda golygfeydd rhagorol, ar fferm weithredol eidion a llaeth, yn agos at bentref Llangwnadl. Nid yw’n bell oddi ar y ffordd fawr, mae trac fferm o tua chwarter milltir yn arwain tuag at eich bwthyn gwyliau. Gallwch fwynhau golygfeydd hardd o dirlun Penrhyn Llyn a’i arfordir. Y bwthyn mwyaf o dri bwthyn gwyliau moethus ar y safle yw Stabal Lleuddad, ac mae ei leoliad canolog yn ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer mwynhau awyr iach Penrhyn Llyn.

Mae’r siop bentref agosaf yn Nhudweiliog (2 filltir) ac mae nifer o dafarndai da a bwytai cyfagos. Ymhlith y mannau bwyta rydym yn eu hawgrymu mae Y Llew yn Nhudweiliog, The Ship Inn yn Edern (4 milltir), Nanhoron Arms, Nefyn (7 milltir), Venetia a Coconut Kitchen yn Abersoch (9 milltir) a Thy Newydd, Aberdaron (5 milltir). Y tafarndai lleol gorau yw Y Llew yn Nhudweiliog ac Y Bryncynan yn Nefyn (7 milltir).

Mae llwyth o drysorau cudd ym Mhenrhyn Llyn, sydd yn ardal o harddwch naturiol arallfydol. Ymhlith yr atyniadau sy’n rhaid eu gweld y mae’r pentref glan môr Aberdaron, y dafarn ar y traeth ym Mhorthdinllaen, traethau diddiwedd gan gynnwys yr un agosaf sydd ym Mhenllech, ond 2 filltir o’r bwthyn ac Ynys Enlli.

Atyniad gwych arall yw Canolfan Iaith a Threftadaeth Cymru Nant Gwrtheyrn, o fewn bae cuddiedig ei hun wrth y môr, heb sôn am Barc Glasfryn am ddiwrnod yn llawn hwyl (rasio ceir, bowlio deg ac ati) Castell Caernarfon, Yr Wyddfa (mynydd uchaf Cymru), Mynydd Gwefru Llanberis ac Amgueddfa Lechi Cymru.

Traethau
  • Y traeth agosaf yw Penllech, traeth hir a thywodlyd sydd â theimlad o lonyddwch a heddwch. 2 filltir.
  • Mae hefyd traethau gwych eraill o fewn pellter byr yn y car.
Cerdded
  • Llwybr Arfordir Llyn (rhan o Lwybr Arfordir Cymru). Y man agosaf i ymuno yw Traeth Penllech, sydd 2 filltir o’r bwthyn.
  • Yr Eifl - Cadwyn o fynyddoedd gan gynnwys y pwynt uchaf ym Mhenrhyn Llyn. 4.5 milltir o hyd. 12 milltir.
Marchogaeth
  • Canolfan Farchogaeth Pen Llyn – Llaniestyn. Bridfa a theithiau i rai ar bob lefel. 5 milltir.
Golff
  • Clwb Golff Nefyn a’r Cylch - 26 twll, yn cynnig dau gwrs 18 twll pen clogwyn gyda golygfeydd arbennig o’r arfordir. 7
  • Clwb Golff Abersoch – cwrs golff 18 twll, wrth ymyl y traeth. 9 milltir.
Chwaraeon Dwr
  • Mae gan draeth Abersoch ddwr gwastad sy’n addas ar gyfer sgilfyrddio (‘wakeboarding’) a sgïo dwr, hwylio, hwylio cychod modur a hwylfyrddio. 9 milltir.