Pen Y Bryn Cottage

Llandudno, North Wales Coast

  • 5 Star
  • Special OfferEarly Bird offer - 10% discount between 24th May and 25th July
  • Special Offer15% Spring offer - 12th April - 23rd May

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £1,039 yr wythnos
  • £148 y noson
  • 5 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 3 o welyau king/super-king
  • 1 gwely dwbl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 3 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Storfa tu allan
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Llety cofrestredig Gradd 2 wedi ei leoli rhwng dau o gyrchfannau mwyaf Gogledd Cymru, sef tref castell Conwy a thref glan y môr Llandudno - y ddau le o fewn 3 milltir. Yn Llety'r Bryn mae ardal fyw gyda tân agored, ail lolfa gyda stôf losgi coed, gwelyau cyfforddus a gardd fawr gyda golygfeydd o'r môr. O fewn milltir i dafarn y pentref a thair milltir i ystod eang o fwytai, caffis ac atyniadau.

Llawr Gwaelod

Lolfa fawr gyda lle tân agored, soffas a chadeiriau cyfforddus, a theledu ar y wal. 

Gellir cael mynediad i'r gegin a'r ardal fwyta i lawr tair step o'r lolfa. Mae'r gegin gyfoes gyda'r holl offer, yn cynnwys popty trydan, hob nwy, meicrodon, ac oergell/rhewgell. Bwrdd bwyta i eistedd 8. 

Ystafell iwtiliti gyda peiriant golchi dillad a thoiled.

Ail lolfa glyd gyda stof losgi coed a seddi cysurus.

Ystafell wely 1 - gwely maint king, golygfeydd o'r ardd, en-suite gyda cawod uwchben y baddon, basn dwbwl a thoiled.

Ystafell wely 2 - gwely maint king, soffa a golygfeydd o'r ardd.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 3 - ystafell hardd gyda gwely maint king.

Ystafell wely 4 - gyda gwely dwbwl.

Ystafell ymolchi - gyda cawod wlaw, basn dwbwl a thoiled.

Gardd

Wedi ei amgylchynu gan 10 acer o dir a choetir gyda golygfeydd o'r môr, mae'r ardd yn cynnwys lawnt breifat a patio gyda dodrefn gardd a Barbaciw nwy. 

Garej arwahan gyda digon o le i storio beiciau, dillad awyr agored, canŵ, neu hyd yn oed gwch. 

Gwybodaeth ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys te a choffi, siwgwr a llaeth, cacen a photel o wîn   
  • Gwres canolog (yn cynnwys gwres rhannol o dan y llawr ar y llawr gwaelod) a thrydan yn gynwysedig  
  • Pecyn cychwynol o goed - gellir archebu rhagor gan y perchennog am gost o £4 am lwyth basged 
  • Dillad gwelyau a thywelion ar gael  
  • 4 sychwr gwallt ar gael
  • Cot trafeilio, cadair uchel a gât i'r grisiau ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot 
  • Wifi ar gael
  • Croesewir hyd at 2 gi am gost ychwanegol o £20 y ci  
  • Dim ysmygu tu mewn y llety  
  • Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri, tabledi i'r peiriant golchi llestri, clytiau newydd, ffoil, a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: sebon hylif, 2 bapur toiled
  • Lle parcio ar gyfer 6 car 

Lleoliad

Mae'r tŷ mawr hwn wedi ei leoli oddi mewn i 10 acer o dir gyda golygfeydd tuag at y môr. Mae'r tŷ yn mwynhau cornel dawel gyda gardd breifat, ar wahân i dŷ'r perchennog a chwpwl o dai eraill ochr arall y buarth. Yn ganolog i Conwy a Llandudno (o fewn 3 milltir), dyma leoliad gwych i ddarganfod hyfrydwch arfordir Gogledd Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri.

Mae yna dafarn bentref (Queen's Head) filltir i ffwrdd yn Glanwydden - maent hefyd yn gweini bwyd da. Mae digon o ddewis o lefydd i fwyta allan o fewn radiws o 3 milltir. Mae dewis da o fwytai yn Deganwy, gyda bwytai megis Dylan's yn Llandudno a Watson's Bistro yng Nghonwy werth ymweld â nhw. Ar gyfer nwyddau a thanwydd mae yna Asda (2 filltir) a Tesco (3 milltir) yng Nghyffordd Llandudno.

Mae Conwy, tref Treftadaeth y Byd, yn ogystal â thref glan môr brysur Llandudno, yn cynnig ystod eang o atyniadau, bwytai, caffis a siopau. Fe welir castell canoloesol yng Nghonwy gyda welydd sydd wedi para dros amser, strydoedd cul, adeiladau hanesyddol, ac un o'r cyrsiau golff gorau yn y byd. Mae Llandudno yn gartref i'r pier hiraf yng Nghymru a phromenâd poblogaidd, dau draeth, theatr Venue Cymru, Pen y Gogarth gyda'i lethr sgîo, ceir cable, tram a mwynglawdd hynafol.

Mae atyniadau eraill gerllaw yn cynnwys Castell Penrhyn, Sŵ gadwraethiaethol Welsh Mountain, Surf Snowdonia a Zip World. Mae mynyddoedd uchaf Cymru heb fod ymhell yn Eryri, tra mae'n werth ymweld â Gerddi Bodnant. Cynhelir digwyddiadau rheolaidd hefyd yn Stadiwm Zip World ym Mharc Eirias. 

Traethau

  • Traeth y Gogledd - prif draeth Llandudno - traeth hardd a phromenâd ar gyfer diwrnod llawn hwyl i'r teulu (3.5 milltir) 
  • Traeth y Gorllewin - traeth tawelach sy'n wynebu Bae Conwy - enwog am fachlud haul ysblennydd. Adeg llanw isel gellir mwynhau hedfan barcud ar y tywod (4 milltir)  

Cerdded

  • Llwybr Arfordirol Gogledd Cymru - yn cysylltu Llandrillo-yn-Rhos i'r dwyrain, Llandudno i'r gogledd, a Conwy i'r gorllewin - gellir ymuno â'r llwybr lle bynnag y mynoch i gyd o fewn 2.5 - 4 milltir
  • Pen y Gogarth - cyfres o lwybrau o wahanol hyd o gwmpas Pen y Gogarth (3.5 milltir)
  • Llwybr Treftadaeth Llandrillo-yn-Rhos - yn cymeryd i mewn 25 o safleoedd hanesyddol mewn 3 awr, yn cynnwys Capel Sant Trillo (y capel lleiaf ym Mhrydain), a gweddillion Bryn Euryn - caer o'r 5ed ganrif gyda golygfeydd anhygoel (2.7 milltir)  
  • Carneddau (llwybrau Eryri) - llwybrau heriol, yn cynnwys yr 2il a'r 3ydd copa uchaf yng Nghymru. Y llwybr agosaf yn cychwyn o'r Helyg, Capel Curig (21.5 milltir)   

Beicio

  • Llwybr Arfordirol Gogledd Cymru - delfrydol ar gyfer beicio, a gellir rhentu beic (a threilyr) o Landudno. Y ffordd orau i weld arfordir rhyfeddol Gogledd Cymru (3 milltir)  
  • Llwybr beicio ar y ffordd o gwmpas Llandudno - llwybr cyferbyniadol o gwmpas tref glan môr Fictorianaidd Llandudno, Pen y Gogarth, ymlaen i Deganwy, ac yn nol. Tua 15 milltir o hyd gyda rhai mannau serth (3 milltir) 
  • Llwybr Penmachno -  llwybr 18 milltir o hyd ar hyd cefn gwlad dyffryn Conwy (21.5 milltir) 

Golff

  • Clwb Golff Maesdu (3 milltir)
  • Clwb Golff Gogledd Cymru (3.7 milltir)  
  • Clwb Golff Conwy - cwrs golff gwych sydd yn cael ei gyfrif y 7fed allan o'r 100 cwrs gorau yn y byd (4 milltir)  

Pysgota

  • Pysgota môr gyda tripiau o Landrillo-yn-Rhos (2.7 milltir)  
  • Gardd Ddŵr Conwy - 3 llyn pysgota wedi eu hamgylchynu gan goetir. Siop offer a bwyty ar y safle gyda mynediad i'r anabl (6.5 milltir) 

Chwaraeon Dŵr

  • Pwll Nofio Parc Eirias - cymwysterau dan do yn cynnwys pwll nofio/hamddena chwe lôn 25 metr o hyd, gydag arweddion dŵr a llithren arwahan (6 milltir) 
  • Chwaraeon Dŵr Bae Colwyn, Porth Eirias - hyfforddiant hwylio a syrffio - gellir llogi'r offer yn ogystal ag offer caiacio a chanŵio (6 milltir)  
  • Surf Snowdonia (10 milltir)