Y bythynnod gorau a mwy

Awel y Mor

Llandudno - North Wales Coast

Llety hunan-ddarpar yn Llandudno ar gyfer 10 o bobl gyda thwb poeth, bwrdd pŵl a stôf llosgi coed, ac sydd o fewn tafliad carreg i lan y môr, y llwybr arfordirol a bwytai.
  • Cysgu 10 o bobl
  • 6 Ystafell wely
  • 2 Gwely king/super king
  • 3 Ystafell ymolchi
  • Ymddiheuriadau, ni chaniateir anifeiliaid anwes
  • WiFi
  • Twb poeth
398795
£807 - £1796 yr wythnos *

Disgrifiad

Mae twb poeth yn yr ardd, ystafell haul a bwrdd pŵl, a stôf llosgi coed groesawgar, ac mae o fewn tafliad carreg i lan y môr, y traeth, llwybr arfordirol Cymru a bwytai. Mae rhywbeth at ddant pawb wrth gymryd gwyliau hunan-ddarpar yn Awel y Môr, sydd 4 milltir yn unig o Landudno. Mae’r bwthyn wedi’i leoli yn nhref lan y môr hyfryd Llandrillo-yn-Rhos, sy’n aml yn cael ei hystyried yn chwaer fach i Landudno, ac mae hefyd yn agos at Gonwy (4.9 milltir) a holl atyniadau mawr Gogledd Cymru.    

Llawr Gwaelod

Cegin / ystafell fwyta – Cegin fawr, fodern sy’n cynnwys ffwrn ddwbl, hob nwy 5 cylch a mwgwd echdynnu, microdon, peiriant golchi llestri ac oergell/rhewgell. Ceir bwrdd bwyta mawr o bren derw soled ym mhen arall yr ystafell gyda chyfuniad o fainc a chadeiriau, ynghyd â daliwr gwin a theledu bychan.

Lolfa 1 – Ystafell hyfryd gyda ffenestr fae fawr a sedd ffenestr, stôf llosgi coed groesawgar, teledu clyfar 40 modfedd a chymysgedd o soffas lledr a defnydd.  

Lolfa 2 – Ail ystafell fyw fawr gyda ffenestr fae a chymysgedd o soffas lledr a defnydd yn ogystal â chaise longue o dan y ffenestr. Teledu 40 modfedd a chwaraewr DVD, ynghyd â bwrdd gemau yn cynnwys hoci aer, pŵl a phêl-droed bwrdd.  

Dwy ris yn arwain i lawr i’r ystafelloedd a ganlyn …

Lolfa haul gyda bwrdd pŵl maint llawn yn arwain at ardal â dec lle ceir twb poeth.

Ystafell golchi dillad gyda pheiriant golchi ac unedau.

Ystafell wely 1 – Ystafell wely ddwbl ar y llawr gwaelod gyda chwpwrdd dillad o dderw soled.

Ystafell gawod (cwadrant) â basn ymolchi ac ystafell ar wahân gyda thŷ bach.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 2 – Prif ystafell wely fawr gyda gwely mawr iawn, blanced Gymreig, cypyrddau dillad wedi’u gosod a bwrdd gwisgo. Ffenestr fae fawr yn cynnwys soffa.  

Ystafell wely 3 – Ystafell wely fawr arall gyda gwely mawr iawn o dderw soled. Cist ddillad fawr, cwpwrdd dillad crand a drych hyd llawn.

Ystafell wely 4 – Ystafell â 2 wely sengl gyda chwpwrdd dillad crand o dderw soled a golygfa dros yr ardd gefn. Ystafell fach, sy’n fwy addas i blant.

Ystafell wely 5 – Ystafell wely sengl gyda chwpwrdd dillad o dderw soled a golygfa dros yr ardd gefn amgaeedig.

Ystafell wely 6 – Ystafell wely sengl en-suite, cwpwrdd deuran, cwpwrdd dillad crand a chadair. Mae’r en-suite yn cynnwys cawod, tŷ bach a basn.

Y prif ystafell ymolchi – gyda basn ymolchi a bath â chawod uwch ei ben.

Tŷ bach a basn ymolchi ar wahân.

Gardd

Mae gan y llety hunan-ddarpar hwn yn Llandudno hefyd ardd gefn amgaeedig a giât sy’n gallu cloi.  Mae ganddo dwb poeth ‘jacuzzi’ hyfryd y gall 6-7 o bobl eistedd ynddo’n gyfforddus, gwely haul pren siâp L, a barbeciw. Sied ardd ar gyfer cadw beiciau ac ati, borderi blodeuog hyfryd a lein ddillad.  

Gardd flaen â lawnt, mainc a borderi blodeuog.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Gwres a thrydan yn gynwysedig.
  • Darperir dillad gwely a thyweli bach a mawr (dewch â’ch tyweli eich hunan ar gyfer y twb poeth, os gwelwch yn dda).
  • Darperir 1 sychwr gwallt.
  • Wi-fi ar gael.
  • Mae cot a chadair uchel ar gael ar gais.
  • Dim anifeiliaid anwes a dim ysmygu yn y llety.
  • Er gwybodaeth, nid oes lle i’r platiau bwyd mawr yn y peiriant golchi llestri
  • Ceir parcio oddi ar y stryd ar gyfer hyd at 4 car ac mae digon o le i ôl-gerbydau (os ydych yn dod â chwch / canŵ). Ceir mannau parcio eraill ar y stryd os oes angen.
  • Mae bond o £150 ar y llety hwn i sicrhau gofal da, sy’n ddyledus i Y Gorau o Gymru ar yr un pryd â balans eich gwyliau. Fel arall, gallwch osgoi’r bond hwn drwy dalu ffi o £5 y person yn lle hynny, ond nid yw’n ad-daladwy.

Nodweddion

  • Cysgu 10 o bobl
  • 6 Ystafell wely
  • 1 Gwely dwbl
  • 2 Gwely king/super king
  • 4 Gwely sengl
  • 3 Ystafell ymolchi
  • Ymddiheuriadau, ni chaniateir anifeiliaid anwes
  • WiFi
  • Twb poeth
  • Tân agored neu stôf goed
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Friday newid
  • 0.5 o draeth
  • 0.5 milltir o dafarn
  • 0.5 o siop
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Parcio preifat
  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell
  • Ystafell chwaraeon
  • Dim ysmygu
  • Tywelion yn gynwysedig
  • Dim peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi
  • Cot
  • Cadair uchel
  • Dim cot symudol ar gael

Prisiau

Adolygiadau

Cawsom benwythnos bendigedig yn Awel y Mor. Roedd y ty yn hyfryd, pob gwely yn gyfforddus, digon o lestri ac offer yn y gegin ac roeddem wedi gwerthfawrogi y croeso - y blodau, bisgedi, te, coffi a llaeth. Roedd pobman yn lan. Roedd pawb wedi mwynhau yr 'hot tub' ac wedi gwneud defnydd o'r bwrdd pwl. Pan gyrhaeddon ni y ty yr oedd yn gynnes braf a buom yn gynnes glyd drwy'r penwythnos. Diolch yn fawr. Edrychwn ymlaen i ddychwelyd eto. We had a wonderful weekend at Awel y Mor. The house was lovely, every bed was comfortable, plenty of crockery and equipment in the kitchen and we appreciated the welcome - the flowers, biscuits, tea, coffee and milk. Everywhere was clean. Everyone enjoyed the hot tub, and had made use of the pool table. When we arrived the house was nice and warm and we were warm and cosy all weekend. Thank you very much. We'll look forward to returning.Einir o/from Tywyn - 25th January 2018

Map

Calendr

Awst 2018
GweSadSulLlunMawMerIau
     12
3456789
10111213141516
17181920212223
24252627282930
31      
Ddim ar gael
Ar gael
Dyddiad newid
Wedi dewis
Medi 2018
GweSadSulLlunMawMerIau
 123456
78910111213
14151617181920
21222324252627
282930    
Ddim ar gael
Ar gael
Dyddiad newid
Wedi dewis
Hydref 2018
GweSadSulLlunMawMerIau
   1234
567891011
12131415161718
19202122232425
262728293031 
Ddim ar gael
Ar gael
Dyddiad newid
Wedi dewis
Tachwedd 2018
GweSadSulLlunMawMerIau
      1
2345678
9101112131415
16171819202122
23242526272829
30      
Ddim ar gael
Ar gael
Dyddiad newid
Wedi dewis
Rhagfyr 2018
GweSadSulLlunMawMerIau
 123456
78910111213
14151617181920
21222324252627
28293031   
Ddim ar gael
Ar gael
Dyddiad newid
Wedi dewis
Ionawr 2019
GweSadSulLlunMawMerIau
    123
45678910
11121314151617
18192021222324
25262728293031
Ddim ar gael
Ar gael
Dyddiad newid
Wedi dewis
Chwefror 2019
GweSadSulLlunMawMerIau
1234567
891011121314
15161718192021
22232425262728
Ddim ar gael
Ar gael
Dyddiad newid
Wedi dewis
Mawrth 2019
GweSadSulLlunMawMerIau
1234567
891011121314
15161718192021
22232425262728
293031    
Ddim ar gael
Ar gael
Dyddiad newid
Wedi dewis
Ebrill 2019
GweSadSulLlunMawMerIau
   1234
567891011
12131415161718
19202122232425
2627282930  
Ddim ar gael
Ar gael
Dyddiad newid
Wedi dewis
Mai 2019
GweSadSulLlunMawMerIau
     12
3456789
10111213141516
17181920212223
24252627282930
31      
Ddim ar gael
Ar gael
Dyddiad newid
Wedi dewis
Mehefin 2019
GweSadSulLlunMawMerIau
 123456
78910111213
14151617181920
21222324252627
282930    
Ddim ar gael
Ar gael
Dyddiad newid
Wedi dewis
Gorffennaf 2019
GweSadSulLlunMawMerIau
   1234
567891011
12131415161718
19202122232425
262728293031 
Ddim ar gael
Ar gael
Dyddiad newid
Wedi dewis
Awst 2019
GweSadSulLlunMawMerIau
      1
2345678
9101112131415
16171819202122
23242526272829
3031     
Ddim ar gael
Ar gael
Dyddiad newid
Wedi dewis
Medi 2019
GweSadSulLlunMawMerIau
  12345
6789101112
13141516171819
20212223242526
27282930   
Ddim ar gael
Ar gael
Dyddiad newid
Wedi dewis
Hydref 2019
GweSadSulLlunMawMerIau
    123
45678910
11121314151617
18192021222324
25262728293031
Ddim ar gael
Ar gael
Dyddiad newid
Wedi dewis
Tachwedd 2019
GweSadSulLlunMawMerIau
1234567
891011121314
15161718192021
22232425262728
2930     
Ddim ar gael
Ar gael
Dyddiad newid
Wedi dewis
Rhagfyr 2019
GweSadSulLlunMawMerIau
  12345
6789101112
13141516171819
20212223242526
2728293031  
Ddim ar gael
Ar gael
Dyddiad newid
Wedi dewis

Eitemau Ychwanegol

Holiday Extras

We've hand-picked a selection of Holiday Extras from trusted partners to make your holiday extra special. When you make your booking, you'll see all the Extras on offer at your chosen property and be able to add them to your holiday. Booking them in advance gives you more time to relax when you arrive, and remember - many of these offers are exclusive so you won’t find them anywhere else.

Attractions & Experiences

Rib Ride Boat Tours 10% off Anglesey Boat Tour

Book an unbeatable adventure with Wales’ best adventure boat tour company and get 10% off any trip.

Attractions & Experiences

Corris Mine Explorers 10% off Mine Exploration Tours

First excavated in 1836, Braich Goch Slate Mine closed around 40 years ago. Go underground and see first-hand the kind of conditions miners had to work in.

Food & Drink

Virgin Wines 12 Bottle Classic Wine Selection

This classic case oozes class and is perfect to give you various flavours from across the globe! Enjoy 2 bottles of each wine to encourage sharing or indulgence...

Normal price
£115.87

Price
£95.50

Food & Drink

Virgin Wines 12 Bottle Luxury Wine Selection

This 12 bottle case is packed full of wines to blow you away with flavours and complexities all round – a case guaranteed to impress all who get the pleas...

Normal price
£175.87

Price
£131.90

Attractions & Experiences

Cadw 20% I FFWRDD O AELODAETH CADW

Wrth fod yn aelod o Cadw, mi gewch fynediad diderfyn i dros 100 o safloedd hanesyddol ar draws Cymru.Ar ben hynny, mae aelodaeth Cadw yn cynnwys:50% i ffwrdd o ...

Food & Drink

Virgin Wines 6 Bottle Celebratory Wine Selection

A true Prosecco lover's case! No excuse is needed for this beautiful selection (so don’t let others tell you any different!). Start with the wonderful flo...

Normal price
£74.93

Price
£61.75

Food & Drink

Virgin Wines 6 Bottle Classic Wine Selection

This 6 bottle classic case is perfect for those wanting to try something of everything – carefully selected to incorporate crowd pleasers from across the ...

Normal price
£60.93

Price
£47.95

Travel & Transport

Europcar Car Hire

Europcar, our preferred car hire partner, are offering you great quality UK car hire at affordable prices. With our dedicated offer you will save up to 20%.

Food & Drink

Dineindulge Dineindulge - private dining service

Enjoy private dining in the comfort of your holiday property. Dineindulge offer a personal chef service with restaurant quality cuisine from only £25 per perso...

Food & Drink

Little Welsh Hamper Company Luxury Welsh Hampers

Enjoy free delivery on fantastic luxury Welsh hampers during your holiday

Pages

Ardal leol

Yn y llety gwyliau hunan-ddarpar hwn ger Llandudno mae digonedd o le y tu allan ac o dan do, gyda gardd flaen fawr a gardd gaeedig yn y cefn. Mae wedi’i leoli ar lôn ddeiliog hardd ac mae iddo ymdeimlad pendant o steil a cheinder. Dim ond 4 milltir o Landudno ei hun ydyw, ac mae Awel y Môr yn cynnig lleoliad hynod o gyfleus yn Llandrillo-yn-Rhos – chwaer fach Llandudno.

Dim ond 2 funud i ffwrdd ar droed mae glan y môr a’r promenâd, ac mae gorsaf drenau ym Mae Colwyn (0.7 milltir) os hoffech gael gwyliau heb y car. Rydych chi hefyd o fewn 10 munud ar droed i siop leol, siop fferyllydd, bwytai prydau parod a Lidl, a gallwch gerdded i ganol tref Llandrillo-yn-Rhos mewn 15 munud. The Toad (0.3 milltir) ar Bromenâd Cayley yw’r dafarn dda agosaf, ac mae Rhos Fynach hefyd yn gyfleus ac yn cynnwys parc a golff mini.

Gallwn argymell nifer o leoedd bwyta da yn agos at eich llety hunan-ddarpar yn Llandudno, gan gynnwys Bwyty Café 1 newydd Bryn Williams (1 filltir) yng Nghyfadeilad y Glannau, Porth Eirias, Hickory’s Smokehouse (0.7 milltir), ac mae bwyty steciau sydd hyd yn oed yn agosach y gallech gerdded iddo. Ychydig ymhellach, mae bwyty tafarn Pen y Bryn yn Colwyn Heights (1.5 milltir), Afon Conwy Brewers Fayre ym Mae Colwyn (2.8 milltir) sy’n dafarn dda i deuluoedd lle cewch werth am eich arian, a Bwyty Signatures yng Nghonwy (6 milltir).

Mae’r theatr bypedau hynaf ym Mhrydain hefyd wedi’i lleoli yn Llandrillo-yn-Rhos, a, heb os, rhaid ymweld â Llandudno (4 milltir) gyda’r pier Fictorianaidd enwog, y traeth, y siopau, y llethr sgïo, y ceir ceblau ar Ben y Gogarth, a llawer mwy. Ymysg yr atyniadau poblogaidd eraill yn yr ardal, gallwch deimlo eich adrenalin yn pwmpio yn Surf Snowdonia (11 milltir), neu beth am fwynhau cyngherddau awyr agored a gemau rygbi ym Mharc Eirias (1.5 milltir) neu gallech gwrdd â mwncïod, pengwinau ac ati yn y Sŵ Fynydd Gymreig (1 filltir)? Os hoffech ymlacio, mae Gwarchodfa Natur Bryn Euryn o fewn 1.5 milltir, neu mae Castell Conwy â’r wal o’i gwmpas yn werth ei weld (4.9 milltir), ac argymhellir Gerddi Bodnant (11 milltir) yn fawr hefyd.

Traethau

  • Traeth Llandrillo-yn-Rhos / Bae Colwyn – enillydd gwobr y Faner Las, sy’n uchel ei bri. Lle gwych ar gyfer nofio, chwaraeon dŵr a physgota. Taith gerdded fer ar hyd Promenâd Cayley. 0.5 milltir.
  • Mae Traeth Llandudno yn draeth gwych â golygfa sy’n cynnig teithiau cerdded hamddenol a hyfryd ar hyd y promenâd. Diwrnod llawn hwyl i’r teulu i gyd. 4 milltir.

Cerdded

  • Llwybr Arfordirol Gogledd Cymru – o Landrillo-yn-Rhos, ewch tua’r gorllewin tuag at Landudno a Chonwy neu i’r dwyrain tuag at Hen Golwyn ac Abergele, gyda golygfeydd anhygoel o’r môr ar hyd y ffordd. 0.2 milltir.
  • Llwybr Treftadaeth Llandrillo-yn-Rhos – mae’n cwmpasu 25 o safleoedd hanesyddol mewn 3 awr yn unig, gan gynnwys Capel Sant Trillo (yr eglwys leiaf ym Mhrydain) ac adfeilion Bryn Euryn – caer fynydd o’r 5ed ganrif gyda golygfeydd trawiadol. 1.2 milltir.
  • Llynnoedd Geirionydd a Chrafnant (yn mynd heibio i Fairy Falls) – Trefriw. Taith gerdded gymhedrol mewn cylch (tua 3 awr). 16 milltir.
  • Carneddau (teithiau cerdded mynydd Eryri) – teithiau cerdded heriol, gan gynnwys yr 2il a’r 3ydd copa uchaf yng Nghymru. Mae’r llwybr agosaf yn dechrau yn Helyg, Capel Curig. 22.5 milltir.

Beicio

  • Mae Llwybr Arfordirol Gogledd Cymru yn berffaith ar gyfer beicio a, hyd yn oed yn well na hynny, gallwch logi beiciau am y diwrnod yn GogCogs ar y Promenâd (0.8 milltir). Y ffordd orau o weld arfordir trawiadol Gogledd Cymru.
  • Llwybr Penmachno – Mae’r llwybr 18 milltir hwn yn eich tywys drwy gefn gwlad hyfryd Dyffryn Conwy. 22 milltir.

Chwaraeon Dŵr

  • Chwaraeon Dŵr Bae Colwyn, Porth Eirias – gwersi hwylio a bordhwylio, a modd llogi cychod modur a chyfarpar hwylio, bordhwylio, caiacs, canŵs a phadlfyrddau. 1 filltir.
  • Pwll Nofio Parc Eirias – Cyfleusterau o dan do gan gynnwys pwll nofio / hamdden chwe llwybr 25 metr gydag amrywiaeth o gyfleusterau dŵr a llithren ddŵr ar wahân. 1.5 milltir.
  • Surf Snowdonia – 11 milltir.
  • Darllenwch fwy am chwaraeon dŵr ar Arfordir Gogledd Cymru.

Pysgota

  • Pysgota ar y môr gan gynnwys tripiau ar gychod pysgota yn Llandrillo-yn-Rhos. 1.2 milltir.
  • Gardd Ddŵr Conwy – Yma, mae 3 llyn pysgota bras wedi’u hamgylchynu gan goedwigoedd hyfryd Gogledd Cymru. Mae siop offer, siop byrbrydau a bwyty, i gyd wedi’u lleoli’n gyfleus ar y safle. Mae mynediad i’r anabl yma hefyd. 8.5 milltir.

Golff

  • Clwb Golff Llandrillo-yn-Rhos – cwrs tir parc 18 twll ger y môr gyda golygfeydd gwych o’r mynyddoedd a’r dyffrynnoedd o amgylch. 1.5 milltir.
  • Clwb Golff Conwy – Dyma’r 7fed Cwrs Golff Gorau yn y byd, yn ôl rhestr y 100 cwrs gorau. Mae clwb a bwyty ar y safle. 6 milltir.