- Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
- £750 yr wythnos
- £107 y noson
- 3 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- 1 Pet
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Twb poeth
- Pecyn croeso
- Smart TV
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Storfa tu allan
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Sorry, children (aged between 2 and 17) are not allowed at this property
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Ymlaciwch drwy’r dydd ar draeth maith tywodlyd gan fwynhau gwydraid o win achlysurol ar falconi’r caffi a’ch golygon tua’r môr. Dychwelwch yn hamddenol i’ch llety 5 seren yn Llanbedrog, newid i’ch dillad gorau a’i throi hi tua’r dafarn neu’r bwyty lleol ( 2 funud o waith cerdded). Ar ôl pryd tri chwrs, ewch yn eich holau i’r bwthyn a chamu i mewn i’r twb poeth ar y patio, gyda photel o siampên , o bosib, i orffen y diwrnod mewn steil. Deffrwch y bore wedyn gan wneud yr un fath eto, gan ymweld â’r galeri lleol efallai neu gerdded ar hyd llwybr yr arfordir yn lle.
Dyma flas ar yr hyn y gallwch ei ddisgwyl pan fyddwch yn aros ym mwthyn Marian Graig yn Llanbedrog ar benrhyn godidog ac unigryw Llyn.
Llawr Gwaelod
Llety newydd ei adnewyddu yn Llanbedrog gyda chegin/ ystafell fyw eang wedi ei dodrefnu yn gyflawn. Cynllun agored gyda phob dyfais fodern.
Fe gewch chi bopeth yr ydych chi’n chwilio amdano yn y gegin pum seren gyfarparedig, yn cynnwys peiriant golchi llestri, oergell a rhewgell fawr yn un, ac oerydd gwin.
Mae'r ystafell fyw yn cynnwys stôf llosgi coed inglenook, soffa a chadair ledr gyfforddus a theledu smart gyda freeview yn ogystal a Netflix yn rhad ac am ddim. Darperir DVDs, llyfrau a wifi ar gyfer nosweithiau clyd.
Fyny Grisiau
Prif ystafell wely eang gyda gwely dwbl moethus, dodrefn derw a theledu.
Ystafell wely sengl gyda chwpwrdd, droriau wrth y gwely a theledu.
Ystafell ymolchi hardd gyda baddon, cawod fawr y gellir cerdded i mewn iddi a rheilen gwresogi tywelion.
Gardd
Gardd gaeëdig sydd wedi ei dylunio'n brydferth gyda thwb poeth moethus, preifat. Hefyd gan ei bod wedi ei chyflenwi gyda dodrefn tu allan a set barbeciw Webber, mae'r llety 5 seren hwn yn Llanbedrog yn darparu lle gwych i ymlacio a mwynhau ardal heddychlon Penrhyn Llyn. Awyr dywyll berffaith i syllu ar y ser ar noson glir.
Golchdy
Drws nesaf i'r ty mae golchdy arwahân gyda pheiriant golchi a sychu dillad a lle i storio (beics a.y.y.b) os oes angen.
Gwybodeath Ychwanegol
- Llieiniau gwely, tyweli dwylo a baddon a 2 sychwr gwallt yn cael eu darparu
- Gwres canolog a thrydan yn cael eu cynnwys. Logiau'n cael eu darparu am ddim ar gyfer y stôf llosgi coed.
- Wi-fi ar gael yn y bwthyn
- Ni chaniateir plant rhwng yr oedran o 2-17 i aros yn y bwthyn yma.
- Netflix
- 'Ipod docking station'
- Cot a chadair uchel ar gael ar gais
- Croeso i 1 ci - Ni ddylid gadael yr anifeiliaid eu hunain yn y bwthyn ac ni chaniateir cŵn yn y ystafelloedd gwely nac ar y dodrefn.
- Parcio preifat oddi ar y lôn ar gael ar gyfer 2 gar.
Lleoliad
O fewn 300 medr o'r bwthyn fe ddewch o hyd i dafarn/bwyty hyfryd Y Llong a 500 medr i ffwrdd mae tafarn arall (Glyn y Weddw Arms) yn ogystal â siop Londis a garej. Mae rhai o'r tai bwyta sy'n cael eu hargymell fwyaf yn yr ardal yn cynnwys Tremfan Hall yn Llanbedrog (500 medr), Cocunut Kitchen yn Abersoch (3 milltir) a Phlas Bodegroes yn Efailnewydd (4.5 milltir).
Llai na 5 munud o'ch llety yn Llanbedrog, mae trefi arfordirol Abersoch (3 milltir) a Phwllheli (4 milltir) yn enwog am eu traethau tywodlyd Baner Las, chwaraeon dwr a dewis da o dai bwyta a siopau. Os y teithiwch 12 milltir i Aberdaron ym mhen pellaf Penrhyn Llyn gallwch ddal cwch i Ynys Enlli. Mae cyhoeddusrwydd mawr hefyd wedi ei roi i Ty Coch ym Mhorthdinllaen (10 milltir), a gafodd ei ethol y "third best beach bar in the world." Mae atyniadau poblogaidd cyfagos eraill yn cynnwys Rheilffordd Ffestiniog, castell Cricieth a phentref Eidalaidd Portmeirion.
Os ydych eisiau profi rhywbeth gwahanol, mae ysgol saethu colomenod clai llai na hanner milltir o'r bwthyn. Mae Parc Glasfryn, 9 milltir i ffwrdd yn lle gwych i ymweld ag ef, ac mae'n cynnwys amrywiaeth eang o weithgareddau yn cynnwys bowlio deg, go-cartio, saethyddiaeth a 'wakeboarding' a hefyd siop fferm fawr, caffi a thy bwyta. Mae Penrhyn Llyn, ble mae'r iaith Gymraeg a'r ffordd o fyw yn ffynnu o hyd, hefyd yn cynnig 91 milltir o lwybr arfordirol trawiadol, casgliad mawr o fryniau yn amrywio mewn uchder a mynyddoedd godidog Eryri ar garreg eich drws.
Traethau
· Traeth Llanbedrog - traeth hir tywodlyd milltir o hyd gyda chaffi a chytiau. Un o'r traethau mwyaf llonydd yng Nghymru. 750 metr o'ch llety yn Llanbedrog
· Traeth Abersoch - traeth tywodlyd gyda gwobr Baner Las. 3 milltir
· Edrychwch ar y 10 traeth gorau ar Benrhyn Llyn
Cerdded
· Llwybr Arfordirol Llyn – 91 milltir o amgylch Penrhyn hardd Llyn. Ymunwch gyda'r llwybr 0.5 milltir o'r bwthyn, wrth y traeth. Trowch i'r chwith i fynd tuag at Bwllheli neu i'r dde i fynd i Abersoch.
· Digonedd o lwybrau traed wedi eu marcio yn dechrau o bentref Llanbedrog - yn cynnwys llwybr hyfryd i fyny i Fynydd Tir y Cwmwd (y tir uchel sy'n edrych dros y traeth), gyda golygfeydd arbennig tuag at Abersoch, Pwllheli a dros Fae Ceredigion.
Marchogaeth Ceffylau
· Stablau Marchogaeth Ceffylau - Gwersi marchogaeth ayyb. Reidiau ar y traeth a'r bryniau. 0.75 milltir.
· Canolfan Reidio Pen Llyn - Llaniestyn. Fferm stalwyn gyda reidiau ar gyfer pob lefel o brofiad. 5.4 milltir.
· Canolfan Farchogaeth Cilan - ger Abersoch. Reidiau ar y traeth a mwy. Gwych ar gyfer plant a dechreuwyr. 6 milltir
Beicio
· Dewch o hyd i fwy am feicio ar Benrhyn Llyn.
· Lôn Feicio Eifion - llwybr hen reilffordd o Fryncir (15 milltir) i Gaernarfon.
Golff
· Canolfan Golff Llyn – Pen-y-Berth. 15 maes ymarfer gwyrdd a byncer a chwrs golff 9 twll gyd golygfeydd o'r môr. Ar gyfer dechreuwyr a chwaraewyr o radd uwch - gellir llogi clybiau golff. 2 filltir
· Clwb Golff Abersoch - cwrs golff 18 twll yn ymuno gyda'r traeth. 3 milltir
· Clwb Golff Pwllheli - cwrs golff 18 twll, yn addas ar gyfer golffwyr o bob oed a gallu. 4 milltir
· Clwb Golff Nefyn a'r Cyffiniau - 26 twll, yn cynnig dau gwrs 18 twll ar ben creigiau gyda golygfeydd arfordirol anhygoel. 10 milltir
Pysgota
Darllenwch fwy am y cyfleoedd i bysgota ar Benrhyn Llyn - opsiynau addas ar gyfer pob oedran.
Chwaraeon Dwr
· Mae Abersoch yn cynnig dwr gwastad sy'n addas ar gyfer 'wakeboarding' a sgio dwr, hwylio, cychod pwer a syrffio gwynt. 3 milltir
· Mae Pwllheli yn cynnig un o'r marinâu gorau ar hyd arfordir dwyreiniol Prydain. 4 milltir
· Mae Porth Neigwl yn lleoliad poblogaidd iawn ar gyfer syrffio a chorff-fyrddio. 6 milltir