- Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
- Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
- Special Offer10% Summer offer - 26th July - 22nd August 2024
- Special Offer15% offer 28th June – 18th July
- Special Offer10% offer w/c 19th July
- Special Offer10% Summer offer w/c 30th August
- Special Offer20% Summer offer w/c 23rd August
- £512 yr wythnos
- £73 y noson
- 2 Guests
- 1 Bedroom
- 1 Bathroom
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Wedi ei leoli ar fferm weithiol yn nyffryn hardd yr afon Conwy, dyma leoliad gwych ar gyfer mwynhau Eryri ar ei orau. Gellir dilyn llwybr beicio i Conwy (4.5 milltir) neu fwynhau nifer o atyniadau megis Surf Snowdonia (4 milltir), Llandudno, Betws y Coed, Zip World a Pharc Cenedlaethol Eryri.
Os hoffech wahodd teulu a ffrindiau mae yma hefyd fwthyn 5 seren arall i 4 drws nesa gyda'i ardd breifat ei hun.
Llawr Gwaelod
Lolfa - eisteddwch yn nôl ac ymlacio ar y soffa i 2 o flaen y stôf goed gan wneud y mwyaf o'r pecyn Netflix ar y teledu Smart.
Cegin dderw ddeniadol gyda'r holl offer angenrheidiol yn cynnwys peiriant golchi llestri, popty trydan gyda hob serameg, a pheiriant golchi dillad. Oergell/rhewgell, meicrodon a bwrdd bwyta.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 1 - gwely dwbwl, dodrefn derw a theledu Smart ar y wal.
Ystafell ymolchi - baddon a chawod oddi mewn, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.
Gardd
Gardd breifat gyda lawnt a phatio. Mwynhewch olygfeydd o'r mynyddoedd tra'n mwynhau pryd o fwyd y tu allan. Barbaciw ar gael ar gais.
Gwybodaeth Ychwanegol
Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, llaeth, siwgwr a Bara Brith
· Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
· Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig
· Coed ar gael ar gyfer y stôf
· Sychwr gwallt ar gael
· Wi-fi ar gael
· Peiriant sychu dillad ar gael mewn adeilad arwahan ar y safle – yn cael ei rannu gyda’r bwthyn drws nesaf a’r gwersyll
· Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu tu mewn y bwthyn
· Cot trafeilio, cadair uchel a gât i’r grisiau ar gael ar gais. Dewch â dillad eich hun i’r cot
· Mae’r eitemau canlynol yn cael eu darparu ar eich cyfer:
· Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri a thabledi i’r peiriant, clytiau, powdwr golchi dillad, ffoil a ffilm glynu
· Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur ar gyfer pob toiled
· Cynnyrch glanhau cyffredinol
· Parcio ar gyfer 2 gerbyd
· Yn ystod misoedd Mawrth i Hydref mae yna siop onestrwydd fach yn darparu llaeth, iogwrt, tiniau bwyd, brwshus dannedd ayb ym mloc adnoddau y gwersyll ac sydd ar agor 24 awr
Lleoliad
Mae Cae Bach yn un o ddau fwthyn 5 seren wedi eu lleoli ar fferm weithiol ar gyrion pentref Rowen, ond 4.5 milltir o dref Conwy a'r arfordir. Gyda tafarn leol 200 llath o stepen y drws, a 10 llwybr cerdded yn cychwyn o'r pentref, dyma'r lleoliad perffaith ar gyfer mwynhau golygfeydd mynyddig y Parc Cenedlaethol, yn ogystal ag arfordir Gogledd Cymru.
Mae'r dafarn leol yn cynnig bwyd bar blasus gyda canu traddodiadol Cymreig bob nos Wener. Fe argymhellir Tafarn y Groes (2 filltir), Dutch Pancake House yn Rowen (0.8 milltir - ar agor o 10am-5pm), a nifer dda o gaffis a bwytai yng Nghonwy, yn cynnwys Bwyty Amilies, Bistro Watson's, a deli Edwards o Conwy - i gyd o fewn 4.5 milltir. Y siop agosaf yw Siop Gyffin (4 milltir), tra fod yna Tesco yng Nghyffordd Llandudno (6 milltir).
Mae nifer o atyniadau Gogledd Cymru gerllaw, gyda lagwn tonnau ffug Surf Snowdonia lai na 4 milltir i ffwrdd. Dyma'r llyn syrffio ffug masnachol cyntaf o'i fath yn y byd a'r lle perffaith i ddysgu sut i syrffio. Mae tref Conwy werth ymweld â hi, gyda'i statws Treftadaeth y Byd, castell canoloesol, pont grôg, y ty lleiaf ym Mhrydain a llawer mwy, yn cynnwys Ty Aberconwy sy'n dyddio o'r pymthegfed ganrif.
Dylid hefyd ymweld â Gerddi Bodnant yn Eglwysbach (4 milltir), yn ogystal â Llandudno (8.5 milltir) gyda'i bier Fictorianaidd, traeth, theatr, llethr sgîo, ceir cêbl a mwy. Heb sôn am dref farchnad Llanrwst (9 milltir) a Betws y Coed (13.5 milltir) - un o brif ganolfannau gweithgareddau Eryri a chartref i Zip World Forest, heb anghofio Zip World Velocity yn Chwarel Penrhyn, Bethesda (21 milltir) - y llinell zip gyflymaf yn y byd. Atyniad arall yn ystod ymweliad â Gogledd Cymru ydy cerdded (neu fynd ar y trên) i'r copa uchaf yng Nghymru - yr Wyddfa (27 milltir).
Cerdded
- 10 llwybr cylchol o stepen y drws - ar hyd lonydd tawel a llwybrau cyhoeddus - rhwng 1 a 5 milltir o hyd
- Llwybr Arfordirol Gogledd Cymru - o Conwy, i'r dwyrain tuag at Llandudno neu i'r gorllewin tuag at Penmaenmawr, gyda golygfeydd anhygoel ar hyd y ffordd (4.5 milltir)
- Llynnoedd Geirionydd & Crafnant - Trefriw. Llwybr cylchol cymhedrol (tua 3 awr) (6.8 milltir o'r bwthyn)
- Llyn Cowlyd - Trefriw. Taith cymhedrol/caled (tua 3 awr) (6.8 milltir o'r bwthyn)
- Carneddau - teithiau caled, yn cynnwys yr 2il a'r 3ydd copa uchaf yng Nghymru. Y llwybr agosaf yn cychwyn yn Helyg, Capel Curig (17.6 milltir)
Beicio
- Llwybr cylchol yn cysylltu Rowen â Chonwy a Chyffordd Llandudno (0 milltir)
- Llwybr beicio Conwy - y rhan fwyaf ar hyd ffordd heb draffig (34 milltir i gyd). Ffordd dda o weld golygfeydd anhygoel arfordir Gogledd Cymru (4.5 milltir o'r bwthyn)
- Beicio Mynydd Penmachno - llwybr 18 milltir o hyd drwy gefn gwlad dyffryn Conwy (17 milltir)
Chwaraeon Dwr
- Surf Snowdonia - (3.9 milltir)
- Marina Conwy - yn cynnig hwylio a mwy (4.5 milltir)
- Chwaraeon Dwr Bae Colwyn, Porth Eirias. Canolfan hyfforddiant yn cynnwys hwylio, syrffio, caiacio a canwîo (11 milltir)
Traethau
- Traeth Morfa Conwy - traeth braf a'r agosaf i'r bwthyn (6 milltir)
- Traeth Llandudno - yn cynnig hwyl i'r teulu oll (8.5 milltir)
Pysgota
- Gerddi Dwr Conwy - tri llyn wedi eu hamgylchynu gan goed. Siop a bwyty ar y safle gyda mynediad i'r anabl (0.8 milltir)
Golff
- Clwb Golff Conwy - gyda bwyty ar y safle (4.5 milltir)
Marchogaeth
- Stablau Marchogaeth Eryri - wedi eu lleoli rhwng y Wyddfa ac arfordir Gogledd Cymru (17 milltir)