Bwthyn Carreg Rowen

Conwy, North Wales Snowdonia

  • 5 Star
  • Awaiting Grading
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer15% Spring offer - 12th April - 23rd May

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £604 yr wythnos
  • £86 y noson
  • 5 Star
  • Awaiting Grading

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Os gofynnwch i unrhyw un beth hoffent wneud yng Ngogledd Cymru, mae’n debygol iawn y bydd Zip World a Surf Snowdonia, ymweld â Chonwy a Llandudno, Betws y Coed a’r Wyddfa, ar ben y rhestr. Mae’r bwthyn hardd hwn yn leoliad delfrydol ar gyfer ymweld â’r atyniadau hyn, a llawer mwy. Wedi ei leoli ar fferm weithiol ym mhentref Rowen, gellir mwynhau llwybrau cerdded a beicio o stepen y drws, tafarn bentref o fewn 200 metr a rhinweddau 5 seren drwyddi draw yn y bwthyn. Mae hyn yn cynnwys cegin dderw, teledu Smart ym mhob ystafell, stôf losgi coed, a gardd breifat a chaeedig.

Mae bwthyn 5 seren arall i 2 drws nesaf gyda gardd breifat, yn ogystal â cae gwersylla bychan arwahan.

Llawr Gwaelod

Cegin dderw steilus ac eang gyda’r holl offer angenrheidiol yn cynnwys peiriannau golchi llestri a golchi dillad, popty trydan gyda hob serameg, meicrodon, oergell/rhewgell a theledu Smart.

Lolfa gyda dwy soffa, stôf goed, a theledu Smart gyda Netflix. Drysau yn arwain allan i’r patio a’r ardd breifat.

Cyntedd gyda lle i hongian cotiau a storio esgidiau.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 1 – ystafell hardd gyda gwely dwbwl a dodrefn derw, cypyrddau dillad a teledu Smart.

Ystafell wely 2 – gyda dau wely sengl, dodrefn derw a teledu Smart.

Ystafell ymolchi gyda baddon siâp ‘L’ a chawod oddi mewn, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.

Gardd

Gardd breifat a chaeedig gyda lawnt a phatio. Dodrefn gardd i fwynhau golygfeydd o’r mynyddoedd – barbaciw ar gael os dymunir.

Gwybodaeth Ychwanegol

· Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, llaeth, siwgwr a Bara Brith

· Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig

· Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig

· Coed ar gael ar gyfer y stôf

· 2 sychwr gwallt ar gael

· Wi-fi ar gael

· Peiriant sychu dillad ar gael mewn adeilad arwahan ar y safle – yn cael ei rannu gyda’r bwthyn drws nesaf a’r gwersyll

· Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu tu mewn y bwthyn

· Cot trafeilio, cadair uchel a gât i’r grisiau ar gael ar gais. Dewch â dillad eich hun i’r cot

· Mae’r eitemau canlynol yn cael eu darparu ar eich cyfer:

· Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri a thabledi i’r peiriant, clytiau, powdwr golchi dillad, ffoil a ffilm glynu

· Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur ar gyfer pob toiled

· Cynnyrch glanhau cyffredinol

· Parcio ar gyfer 2 gerbyd

· Yn ystod misoedd Mawrth i Hydref mae yna siop onestrwydd fach yn darparu llaeth, iogwrt, tiniau bwyd, brwshus dannedd ayb ym mloc adnoddau y gwersyll ac sydd ar agor 24 awr

Lleoliad

Bwthyn 5 seren wedi ei leoli ar fferm weithiol ar gyrion pentref Rowen, ond 4.5 milltir o dref Conwy a'r arfordir. Mae yna hefyd fwthyn 5 seren drws nesaf, a gwersyll bychan mewn cae arwahan os hoffai eich teulu neu ffrindiau ymuno â chi. Gyda tafarn leol 200 llath o stepen y drws, a 10 llwybr cerdded yn cychwyn o'r pentref, dyma'r lleoliad perffaith ar gyfer mwynhau golygfeydd mynyddig y Parc Cenedlaethol, yn ogystal ag arfordir Gogledd Cymru.

Mae'r dafarn leol yn cynnig bwyd bar blasus gyda canu traddodiadol Cymreig bob nos Wener. Fe argymhellir Tafarn y Groes (2 filltir), Dutch Pancake House yn Rowen (0.8 milltir - ar agor o 10am-5pm), a nifer dda o gaffis a bwytai yng Nghonwy, yn cynnwys Bwyty Amilies, Bistro Watson's, a deli Edwards o Conwy - i gyd o fewn 4.5 milltir. Y siop agosaf yw Siop Gyffin (4 milltir), tra fod yna Tesco yng Nghyffordd Llandudno (6 milltir). 

Mae nifer o atyniadau Gogledd Cymru gerllaw, gyda lagwn tonnau ffug Surf Snowdonia lai na 4 milltir i ffwrdd. Dyma'r llyn syrffio ffug masnachol cyntaf o'i fath yn y byd a'r lle perffaith i ddysgu sut i syrffio. Mae tref Conwy werth ymweld â hi, gyda'i statws Treftadaeth y Byd, castell canoloesol, pont grôg, y ty lleiaf ym Mhrydain a llawer mwy, yn cynnwys Ty Aberconwy sy'n dyddio o'r pymthegfed ganrif. 

Dylid hefyd ymweld â Gerddi Bodnant yn Eglwysbach (4 milltir), yn ogystal â Llandudno (8.5 milltir) gyda'i bier Fictorianaidd, traeth, theatr, llethr sgîo, ceir cêbl a mwy. Heb sôn am dref farchnad Llanrwst (9 milltir) a Betws y Coed (13.5 milltir) - un o brif ganolfannau gweithgareddau Eryri a chartref i Zip World Forest, heb anghofio Zip World Velocity yn Chwarel Penrhyn, Bethesda (21 milltir) - y llinell zip gyflymaf yn y byd. Atyniad arall yn ystod ymweliad â Gogledd Cymru ydy cerdded (neu fynd ar y trên) i'r copa uchaf yng Nghymru - yr Wyddfa (27 milltir).

Cerdded

  • 10 llwybr cylchol o stepen y drws - ar hyd lonydd tawel a llwybrau cyhoeddus - rhwng 1 a 5 milltir o hyd    
  • Llwybr Arfordirol Gogledd Cymru - o Conwy, i'r dwyrain tuag at Llandudno neu i'r gorllewin tuag at Penmaenmawr, gyda golygfeydd anhygoel ar hyd y ffordd (4.5 milltir)    
  • Llynnoedd Geirionydd & Crafnant - Trefriw. Llwybr cylchol cymhedrol (tua 3 awr) (6.8 milltir o'r bwthyn)  
  • Llyn Cowlyd - Trefriw. Taith cymhedrol/caled (tua 3 awr) (6.8 milltir o'r bwthyn)   
  • Carneddau - teithiau caled, yn cynnwys yr 2il a'r 3ydd copa uchaf yng Nghymru. Y llwybr agosaf yn cychwyn yn Helyg, Capel Curig (17.6 milltir)  

Beicio

  • Llwybr cylchol yn cysylltu Rowen â Chonwy a Chyffordd Llandudno (0 milltir)  
  • Llwybr beicio Conwy - y rhan fwyaf ar hyd ffordd heb draffig (34 milltir i gyd). Ffordd dda o weld golygfeydd anhygoel arfordir Gogledd Cymru (4.5 milltir o'r bwthyn)   
  • Beicio Mynydd Penmachno - llwybr 18 milltir o hyd drwy gefn gwlad dyffryn Conwy (17 milltir)   

Chwaraeon Dwr

  • Surf Snowdonia - (3.9 milltir)
  • Marina Conwy - yn cynnig hwylio a mwy (4.5 milltir)  
  • Chwaraeon Dwr Bae Colwyn, Porth Eirias. Canolfan hyfforddiant yn cynnwys hwylio, syrffio, caiacio a canwîo (11 milltir)  

Traethau

  • Traeth Morfa Conwy - traeth braf a'r agosaf i'r bwthyn (6 milltir)   
  • Traeth Llandudno - yn cynnig hwyl i'r teulu oll (8.5 milltir)

Pysgota

  • Gerddi Dwr Conwy - tri llyn wedi eu hamgylchynu gan goed. Siop a bwyty ar y safle gyda mynediad i'r anabl (0.8 milltir)   

Golff

  • Clwb Golff Conwy - gyda bwyty ar y safle (4.5 milltir)    

Marchogaeth

  • Stablau Marchogaeth Eryri - wedi eu lleoli rhwng y Wyddfa ac arfordir Gogledd Cymru (17 milltir)