Bwthyn Hendreclochydd

Barmouth, North Wales Coast

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer15% Spring offer - 12th April - 23rd May

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £724 yr wythnos
  • £103 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 1 gwely dwbl
  • 1 gwely sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell wlyb
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn
  • Ystafell wlyb

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Wedi ei gynllunio i wneud y mwyaf o'r golygfeydd anhygoel, mae'r bwthyn hardd hwn yn cynnig mangre helaeth a chyfoes i fedru mwynhau arfordir Gogledd Cymru ar ei orau. Wedi ei leoli mewn cornel trawiadol o Barc Cenedlaethol Eryri, o fewn pellter cerdded i draeth euraidd, Llwybr Arfordirol Cymru a thafarn/bwyty, ac ond 2 filltir o Abermaw. 

Llawr Gwaelod

Ystafell wely 1 - gwely mawr moethus maint king gyda golygfeydd o'r môr. Cypyrddau dillad, cadair ddarllen, dillad gwelyau wedi eu gwneud yn lleol, a gwres o dan y llawr. 

Ystafell wely 2 - ystafell deuluol gyda gwely dwbwl a gwely sengl, cypyrddau dillad, dillad gwelyau wedi eu gwneud yn lleol, gwres o dan y llawr, ac wrth gwrs, golygfeydd o'r môr.

Ystafell ymolchi gyda chawod fawr, rheilen sychu tywelion, basn fodern a drych gyda golau. 

Cwpwrdd o dan y grisiau gyda peiriant golchi dillad a storfa. 

Llawr Cyntaf

Dyma ystafell i eistedd nol ac ymlacio. Yn meddiannu'r llawr cyfan, mae'r ystafell fyw/bwyta/cegin yn mwynhau digon o olau naturiol, a golygfeydd anhygoel o'r mynyddoedd a'r môr. Wedi ei haddurno mewn dull modern a Chymreig gyda wal gerrig a thrawstiau. 

Mae'r ardal fyw gyda dwy soffa gysurus o flaen y golygfeydd, teledu mawr a DVD.

Cegin fodern yn cynnwys peiriant golchi llestri, oergell, rhewgell, meicrodon a bar brecwast gyda golygfeydd o'r mynyddoedd a'r môr. Mae'r bwrdd bwyta hefyd yn mwynhau golygfeydd allan i'r môr. 

Gardd

Gardd gaeedig gyda golygfeydd hardd a di-dor dros y môr tuag at Ynys Enlli a Phenryn Llŷn. Lawnt a phatio gyda dodrefn gardd. Sied er mwyn storio beiciau.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, siwgwr, llaeth a chacen   
  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig   
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig 
  • Sychwr gwallt ar gael   
  • Cot trafeilio, cadair uchel a gât i'r grisiau ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot.  
  • Wifi ar gael
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu tu mewn y bwthyn  
  • Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: hylif golchi llestri a tabledi i'r peiriant golchi llestri, clytiau newydd, ffoil, a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: sebon hylif, 2 bapur toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol 
  • Parcio ar gael

Lleoliad

Fe leolir Bwthyn Hendreclochydd oddi ar ffordd arfordirol Gogledd Cymru, wedi ei amgylchynu gan fynyddoedd, tir fferm a golygfeydd di-dor o'r môr. Mae tref glan môr Abermaw a thraeth Baner Lâs ond dwy filltir i ffwrdd, gyda Cader Idris a holl adnoddau Parc Cenedlaethol Eryri o fewn taith fer yn y car. Gellir cerdded am 5 munud i gyrraedd traeth euraidd Llanaber a Llwybr Arfordirol Cymru, ac yna ychydig ymhellach fe ddowch at yr orsaf drên agosaf ble gellir teithio'r holl ffordd ar hyd yr arfordir i Bwllheli, neu Aberystwyth i'r cyfeiriad arall ar hyd Rheilffordd Arfordirol Cambria. 

Gellir dod o hyd i'r siopau agosaf (yn cynnwys archfarchnadoedd bychain) yn Abermaw a Dyffryn Ardudwy (2 filltir i'r ddau gyfeiriad). Mae'r ardal hefyd yn cynnig digon o lefydd i fwyta allan ac mae rhai o'r opsiynau gorau yn cynnwys The Bank yn Abermaw (2 filltir), bwyty a bar Nineteen 57 yn Nhalybont (2 filltir), Bwyty Mawddach (10 milltir), neu os am fwyty mwy moethus, Coes Faen yn Abermaw. Os hoffech ddiod ymlaciol gyda golygfeydd o'r môr, mae Norbar ond 5 munud o gerdded i ffwrdd, tra fod y Last Inn yn Abermaw yn cael ei gymeradwyo.   

Ymysg atyniadau niferus yr ardal, mae ystod eang o draethau a llwybrau yn cychwyn o stepen y drws, yn cynnwys mynydd Cader Idris, Llwybr Mawddach (yn cynnwys Pont Abermaw), a Llwybr Arfordirol Cymru. Mae hefyd yn werth ymweld â'r atyniadau canlynol - canolfan beicio mynydd enwog Coed y Brenin; Castell Harlech, sy'n Safle Treftadaeth y Byd; pentref Eidalaidd Portmeirion; a'r Zip Wire Bounce Below ym Mlaenau Ffestiniog. 

Traethau

Traeth Llanaber - traeth euraidd o fewn pellter cerdded (0.2 milltir)   

Traeth Abermaw – traeth euraidd gyda gwobr Baner Lâs (2 filltir)   

Morfa Dyffryn – traeth euraidd a thwyni tywod (4 milltir)   

Traeth Harlech – traeth euraidd (8 milltir)   

Cerdded

Taith Ardudwy - llwybr ar hyd llethrau gorllewinol cadwyn mynyddoedd y Rhinog, o Abermaw i Llandecwyn. Mynediad ar hyd tir fferm o stepen y drws   

Llwybr Panorama, Abermaw - addas ar gyfer pob oed (2 filltir o'r bwthyn)  

Llwybr Mawddach Abermaw - addas ar gyfer pob gallu - cerddwyr, beicwyr a defnyddwyr cadair olwyn (2 filltir)    

Cader Idris – 3 prif lwybr, yr agosaf o Ddolgellau (12 milltir)  

Beicio

Llwybr Mawddach - fel uchod (2 filltir)   

Canolfan Beicio Mynydd Coed-y-Brenin – llwybrau addas ar gyfer pob oed (15 milltir)    

Pysgota

Tripiau pysgota môr o Abermaw (2 filltir)   

Pysgota ar Lynnoedd Cregennan (14 milltir)   

Chwaraeon Dŵr

Gweithgareddau niferus yn Abermaw   

Golff 

Royal St. David’s yn Harlech – cwrs golff 18 twll (8 milltir)   

Marchogaeth

Canolfan Marchogaeth Fferm Bwlchgwyn - addas ar gyfer unrhyw un dros 4 oed (3 milltir gyda'r fferi neu drên stêm (hanner tymor mis Ebrill i mis Medi), 16 milltir ar y ffordd)