Bwthyn Sylfaen

Barmouth, North Wales Coast

  • 4 Star Gold
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £808 yr wythnos
  • £115 y noson
  • 4 Star Gold

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau king/super-king
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Storfa tu allan
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Bwthyn ar ben ei hun yn cynnig encil hardd ym mynyddoedd Eryri, uwchlaw arfordir Gogledd Cymru. Gyda golygfeydd anhygoel dros aber yr afon Mawddach a Chader Idris tu hwnt, mae'r llety hunan ddarpar hwn ger Abermaw yn rhoi ichi eich cornel fach breifat o Gymru, ble gellir ymalcio mewn gwir lonyddwch. O fewn tafliad carreg i Lwybr Panorama ac ond 2 filltir o draeth baner las, siopau bach gwahanol, a bwytai yn nhref glan y môr Abermaw.

Llawr Gwaelod

Ystafell fyw agored yn eich croesawu - lolfa i'r chwith, cegin fwyta i'r dde.

Lolfa - soffas cyfforddus o flaen teledu freeview / chwaraewr DVD, a stôf losgi coed o fewn lle tân traddodiadol. Trawstiau derw a llawr pren. 

Cegin/Ardal fwyta - cegin fodern yn cynnwys topiau gwenithfaen a sinc Belfast, peiriant golchi llestri, popty ac oergell gyda rhewgell oddi mewn (rhewgell ychwanegol yn yr ystafell iwtiliti)

Ystafell Iwtiliti tu allan - mae'r ystafell hon yn cynnwys peiriannau golchi a sychu dillad, a rhewgell tair dror. Mae yma hefyd le i storio beiciau ac offer cerdded.

Llawr Gwaelod Is

Ystafell wely 1 - dau wely sengl a theledu ar y wal.

Ystafell ymolchi gyda baddon a chawod.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 2 - gwely dwbwl gyda teledu a golygfeydd trawiadol.

Ystafell wely 3 - ceir mynediad i fyny grisiau sbiral, mae'r ystafell hon gyda trawstiau derw a theledu. Ystafell ymolchi ensuite gyda cawod yn ogystal â baddon. 

Gardd

Gardd gaeedig, breifat gyda bwrdd a chadeiriau gardd, Barbaciw, a golygfeydd anhygoel.

Storfa ddiogel ar gyfer beiciau ayb.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys potel o wîn, te, coffi a siwgwr   
  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig    
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig 
  • Coed ar gael ar gyfer y stôf. Gellir prynu mwy o goed o'r fferm   
  • 1 sychwr gwallt ar gael   
  • Cot trafeilio a chadair uchel ar gael os dymunir. Dewch â'ch dillad eich hun i'r cot   
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu y tu mewn i'r bwthyn   
  • Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: papur cegin, hylif golchi llestri, tabledi i'r peiriant golchi llestri, clytiau. Ystafell ymolchi: sebon, 2 bapur toiled ar gyfer pob toiled 
  • Digon o le parcio

Lleoliad

Bwthyn hunan ddarpar ger Abermaw, mewn lleoliad tawel a thrawiadol, 2 filltir o dref glan y môr Abermaw ar arfordir Gogledd Cymru. Oddi mewn i Barc Cenedlaethol Eryri, mae'r bwthyn dafliad carreg o Lwybr Panorama a'i olygfeydd trawiadol.

Mae Abermaw ei hun wedi bod yn gyrchfan glan môr poblogaidd ers Oes Fictorianaidd, ac mae'n cynnig ystod eang o adnoddau, yn cynnwys siopau ac archfarchnadoedd a digon o fwytai megis Bistro Bermo, The Tilman The Last Inn. Bwytai eraill sy'n cael eu hargymell yw The Norbar Ninteen 57, ychydig o filltiroedd ar hyd yr arfordir.

Ymysg atyniadau poblogaidd yr ardal mae Abermaw ei hun, gyda'i draeth Baner Las, golygfeydd anhygoel o'r mynyddoedd, a theithiau cerdded braf ar hyd aber yr Afon Mawddach. Mae'n werth ymweld a Phentref Eidalaidd Portmeirion, a Phorthmadog gyda Rheilffordd yr Ucheldir, tra fod ZipWorld ym Mlaenau Ffestiniog yn cynnig diwrnod allan llawn adrenalin. Yn ogystal â hyn mae Safle Treftadaeth y Byd Castell Harlech sydd yn edrych allan ar un o'r cyrsiau golff gorau yn y byd, a Chanolfan Beicio Mynydd byd enwog Coed y Brenin, ger Dolgellau - dyna rywbeth i blesio pawb, i gyd o fewn radiws o 20 milltir. 

Traethau

Traeth Abermaw - traeth Baner Las euraidd (2.2 milltir)  

Traeth Bennar, Dyffryn Ardudwy - traeth euraidd gyda twyni tywod achlysurol. Delfrydol ar gyfer syrffio gan y credir ei fod yn un o'r traethau gorau yng Ngwynedd am donnau gwych cyson. Parcio gerllaw gyda llwybr pren i'r traeth (7.5 milltir)   

Traeth Harlech – traeth euraidd (12.5 milltir)   

Cerdded

Llwybr Panorama Walk, Abermaw - addas ar gyfer pob oed (0.5 milltir)  

Llwybr Mawddach, Abermaw - addas ar gyfer pob oed - cerddwyr, beicwyr a defnyddwyr cadair olwyn (2 filltir)   

Llwybr Arfordirol Cymru - gellir ymuno â'r llwybr yn Abermaw (2.2 milltir)   

Copaon Y Llethr a Diffwys, Dyffryn Ardudwy – teithiau cymedrol / caled (7.5 milltir)  

Cader Idris – 3 prif lwybr, yr agosaf ger Dolgellau (11 milltir)   

Beicio

Llwybr Mawddach – fel uchod (2 filltir)

Canolfan Beicio Mynydd Coed-y-Brenin – addas ar gyfer pob oed (14 milltir)   

Pysgota

Tripiau pysgota môr o Abermaw (2 filltir)   

Golff

Clwb Golff Harlech – Royal St. David’s –  cwrs golff 18 twll (12.5 milltir)   

Marchogaeth

Canolfan Farchogaeth Fferm Bwlchgwyn - addas ar gyfer pawb dros 4 oed (3 milltir dros aber yr Afon Mawddach - fferi yn rhedeg Ebrill - Medi + hanner tymor; neu, 14 milltir ar hyd y ffordd)