- £686 yr wythnos
- £98 y noson
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- 2 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Twb poeth
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Bwthyn hunan ddarpar hardd i 4 yn Abermaw gyda twb poeth preifat. Ymlaciwch a mwynhewch y lleoliad syfrdanol ar arfordir Gogledd Cymru gyda golygfeydd o fynyddoedd Eryri. O fewn pellter cerdded i draeth hir tywodlyd, mae'r bwthyn hwn yn sefyll ar ben ei hun gyda gardd gaeedig, 0.7 milltir o bentref Tal-y-bont gyda'i dafarn bentref, siop a bwyty. Ymunwch â'r Llwybr Arfordirol o stepen eich drws, ymwelwch â'r siopau bach gwahanol, bwytai a chaffis yn Abermaw, a darganfyddwch Portmeirion a Castell Harlech, Safle Treftadaeth y Byd - i gyd o fewn ychydig filltiroedd.
Perffaith ar gyfer gwyliau ymlaciol ar lan y môr, mae Hafod yn cynnig eich lle eich hun ar ystad breifat sy'n cael ei rannu gyda pedwar bwthyn arall ar gyfer 2-5 o westeion, yn ogystal â parc gwyliau bychan. Os hoffech drafeilio gyda trên, mae llinell reilffordd Arfordir y Cambrian yn pasio drwy'r cae y tu ôl i'r ardd ac yn aros yn yr orsaf yn Talybont, lai na milltir i ffwrdd.
Llawr Gwaelod
Lolfa - yn arddull tŷ fferm traddodiadol Cymreig gyda lloriau derw a gwres o dan y llawr. Soffa a chadeiriau lledr i eistedd 4 o flaen teledu 50" gyda Freeview a pentân sy'n cynnwys basged gyda fflam a mwg ffug. Golygfeydd o Moelfre gerllaw - rhan o gadwyn mynyddoedd Rhinog, ac hefyd Eryri yn y pellter.
Ystafell haul - mynediad drwy ddrysau Ffrengig o'r lolfa, mae'r ystafell ymlaciol hon yng nghefn y bwthyn yn cynnig golygfeydd panoramig o gadwyn mynyddoedd Rhinog sydd yn rhedeg yn gyfochrog â'r arfordir tuag at Abermaw yn y De. Soffa a chadeiriau cansen gyda byrddau bach a drysau Ffrengig eraill yn arwain allan i'r teras ble lleolir y Twb Poeth, barbaciw carreg (gellir ei ddefnyddio hefyd i losgi coed) a dodrefn gardd. Mae'r ystafell haul a'r teras, sy'n wynebu'r De, yn edrych allan ar berllan fach ac yng ngwyneb yr haul drwy'r dydd o'r peth cyntaf yn y bore.
Cegin ac ardal fwyta - mynediad drwy'r ystafell haul neu'r cyntedd, mae'r gegin hefyd wedi ei lleoli yng nghefn y bwthyn ac yn edrych allan ar y berllan a'r mynyddoedd ar y gorwel. Fe geir yr holl offer angenrheidiol yn y gegin yn cynnwys oergell/rhewgell, peiriant golchi llestri, meicrodon, popty a hob ceramig, yn ogystal â pheiriant golchi dillad. Bwrdd bwyta derw o ble y gellir mwynhau'r golygfeydd drwy ffenest fawr.
Ystafell gawod gyda chawod ddwbwl fawr, toiled a basn.
Llawr cyntaf
Grisiau derw yn arwain i'r llawr cyntaf ble lleolir yr ystafelloedd gwely a'r ystafell ymolchi.
Ystafell wely 1 - ystafell helaeth gyda gwely dwbwl derw, teledu ar y wal, byrddau bach ger y gwely a chypyrddau dillad. Golygfeydd i'r Gogledd ar un ochr ac i'r De, Dwyrain a'r Gorllewin o'r ffenest yn y cefn. Mae'r golygfeydd hyn yn ymestyn o gadwyn mynyddoedd y Rhiniog i Cader Idris yn y De ac ar draws y bae tuag at Tŷ Ddewi.
Ystafell wely 2 - ystafell gyda 2 wely sengl derw a theledu ar y wal, byrddau bach ger y gwely a chwpwrdd dillad. Golygfeydd dros y caeau gyda Penrhyn Llŷn ar y gorwel.
Ystafell ymolchi - cawod ddwbwl fawr, toiled a 2 basn. Golau naturiol o ffenestri Velux yn y to.
Gardd
Mae patio a gardd gaeedig yn y bwthyn hunan ddarpar hwn yn Abermaw. Twb poeth preifat gyda soffa a chadeiriau rattan, bwrdd a barbaciw wedi ei adeiladu o gerrig ffug - gellir ei ddefnyddio ar gyfer coginio siarcol neu fel llosgwr coed. Fe gyflenwir yr holl danwydd angenrheidiol. Mainc bren yn y berllan i fedru mwynhau golygfeydd o fynyddoedd Eryri.
Gwybodaeth ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi a siwgwr, cacen gartref a chyffaith wedi ei wneud yn lleol
- Gwres dan y llawr a thrydan yn gynwysedig
- Dillad gwely a thywelion yn gynwysedig
- 1 sychwr gwallt ar gael
- Wifi ar gael
- Coed yn gynwysedig ar gyfer y llosgwr coed tu allan
- Dim ysmygu tu mewn y llety
- Croesewir hyd at 2 anifail anwes am ddim - gadewch i ni wybod pan yn archebu
- Parcio tu mewn i gatiau i hyd at 2 gar
- Eitemau ychwanegol yn cynnwys:
- Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, clytiau newydd, ffoil a ffilm glynu
- Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur i bob toiled